Gobaith am wobr i Victoria sy’n frwd dros godi safonau gofal plant
Mae Victoria Morris yn manteisio i’r eithaf ar ei phrofiad o dros 20 mlynedd yn gweithio yn y sector gofal plant wrth wneud ei gwaith presennol fel asesydd gyda’r darparwr hyfforddiant Educ8 Training.
Mae Victoria, 52 oed, sy’n byw ger Caerffili, yn defnyddio’i gwybodaeth a’i sgiliau i gefnogi prentisiaid, cyflogwyr a’i chydweithwyr, ac mae’n frwd dros godi safonau gofal plant.
Bu’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant yn amrywio o ysgolion cynradd i ofal dydd preifat a chlybiau ar ôl ysgol, gan wneud gwaith uwch-arweinydd a rheoli tîm o staff. Cyn mynd i fyd gofal plant, bu’n trin gwallt am 15 mlynedd.
Ar ôl ymuno ag Educ8 Training bron i ddwy flynedd yn ôl, cymhwysodd Victoria fel asesydd ac mae wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Gofal Plant a Phrentisiaeth mewn Gwaith Chwarae. Erbyn hyn, mae’n cyflenwi’r prentisiaethau hyn o Lefelau 2 i 5 a chafodd ei chanmol am “safon eithriadol ac ysbrydoledig” ei gwaith.
I gydnabod ei gwaith, mae Victoria wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.
Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at y rhyfeddodau y mae cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seliedig ar waith wedi’u cyflawni yn y cyfnod anodd hwn.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Eleni, am y drydedd flwyddyn, Openreach yw’r prif noddwr.
Gyda chymorth aseswyr llythrennedd digidol Educ8 Training a chyrsiau annibynnol, aeth Victoria ati i wella’i sgiliau digidol a chreu llyfrynnau i helpu dysgwyr i addasu i sesiynau dysgu ar-lein yn ystod y pandemig.
Mae’n frwd dros gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn eu hymgorffori yn ei chynlluniau dysgu. Mae’n diweddaru ei gwybodaeth am gymwysterau a strategaethau asesu newydd yn barhaus ac yn ei rhannu â chydweithwyr.
“Rhinwedd fwyaf Victoria yw’r gallu i wybod beth yw anghenion pob un o’i dysgwyr a theilwra’r dulliau dysgu er mwyn goresgyn rhwystrau dysgu personol neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY),” meddai Emma McCutcheon, rheolwr ansawdd Educ8 Training.
“Mae’n cydnabod bod rhai o’i dysgwyr, yn enwedig y rhai ag ADY, yn dysgu orau trwy wrando a gwylio yn hytrach na darllen. Caiff adnoddau Victoria eu rhannu fel arferion gorau gyda’r tîm asesu gofal plant.”
Mae Emma’n canmol gallu Victoria i ailennyn diddordeb dysgwyr a chyflogwyr sydd wedi colli diddordeb mewn prentisiaethau trwy addasu cynlluniau dysgu.
“Rydyn ni’n hynod falch o gael Victoria yn ein tîm,” meddai Emma. “Mae’r gefnogaeth a’r arweiniad y mae’n eu rhoi i’w chydweithwyr yn sicrhau bod gennym dîm effeithiol iawn o aseswyr sy’n cyrraedd y safonau uchaf wrth ddysgu. Mae pob rhan o’i gwaith yn batrwm o arferion gorau.
Dywedodd Victoria: “Mae’r profiad a gefais yn y sector gofal plant yn ddefnyddiol iawn i helpu dysgwyr i gysylltu gwaith ymarferol â theori a gwybodaeth. Mae hynny’n bwysig gan fod y cymhwyster newydd wedi’i anelu at uwchsgilio’r gweithlu.
“Mae gen i wahanol fathau o ddysgwyr ac mae’n braf ceisio canfod ffordd o ddysgu sy’n gweithio iddyn nhw.”
Wrth longyfarch Victoria a phawb arall ar y rhestrau byrion, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr at ein heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i ddod dros y pandemig.
“Gallant helpu i baratoi gweithlu at y dyfodol, ei ysgogi a sicrhau amrywiaeth, gan roi cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o safon uchel.
“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau bob-oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.
“Rydyn ni’n awyddus i wella cyfleoedd i bobl o bob oed a phob cefndir i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella’u bywydau. Yn ogystal, bydd y buddsoddiad yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sgiliau yn y sectorau blaenoriaeth. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn hybu cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.
More News Articles
« Hayley, yr asesydd prentisiaethau, yn frwd o blaid cefnogi pobl eraill — Angelina’n awyddus i helpu eraill i ddeall y dechnoleg ddigidol »