Cydnabod sêr Cymru ym maes dysgu seiliedig ar waith mewn seremoni wobrwyo rithwir
Cafwyd cyfle i wobrwyo prentisiaid sydd â straeon ysbrydoledig, cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu gweithlu medrus iawn ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sy’n mynd yr ail filltir ar ran eu dysgwyr, mewn seremoni rithwir neithiwr (nos Iau).
Roedd 23 o gystadleuwyr, o bob rhan o Gymru, sydd wedi rhagori ar Raglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Roedd angen mewngofnodi ar lein i glywed enwau enillwyr y naw gwobr yn cael eu cyhoeddi.
Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Cânt eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r noddwr pennaf, Openreach.
Llongyfarchwyd holl enillwyr y gwobrau a’r rhai a gyrhaeddodd y rhestrau byrion gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. “Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i wneud Cymru’n beiriant i greu twf cynaliadwy, cynhwysol ac i roi’r cychwyn gorau posibl ym myd gwaith i bob person ifanc,” meddai.
“Rwyf i o’r farn bod prentisiaethau’n hanfodol i’r weledigaeth hon a dyna pam yr ydyn ni’n buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn darparu ein rhaglen brentisiaethau. Rwy’n benderfynol o wneud ein gorau glas fel llywodraeth i helpu i sicrhau’r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc yn eu haeddu.
“Er mai gwlad fach ydyn ni, mae gennym uchelgeisiau mawr a’n nod yw meithrin diwylliant lle mai recriwtio prentis yw’r norm i gyflogwyr.”
Dywedodd Connie Dixon, cyfarwyddwr partneriaethau Openreach yng Nghymru, “Llongyfarchiadau i holl enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Mae pawb sydd ar y rhestrau byrion wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’w sefydliad ac mae’n iawn bod hynny’n cael ei gydnabod.
“Rydyn ni yn Openreach yn cydnabod y cyfraniad enfawr y mae ein prentisiaid yn ei wneud wrth ddod â sgiliau, egni a ffyrdd newydd o weithio i’r busnes.
“Wrth i ni barhau i adeiladu ein rhwydwaith ffeibr cyflym iawn ledled Cymru bydd ein prentisiaid yn chwarae rhan hanfodol – nid dim ond yn Openreach ond hefyd yn economi ehangach Cymru.”
Mae dwy o enillwyr y gwobrau, Chrystalla Moreton, 20, o’r Tyllgoed, Caerdydd a Kiera Dwyer, 24, o Rydyfelin, Pontypridd, wedi goresgyn heriau mawr yn eu bywydau a mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd addawol.
Prentis peirianneg yw Chrystalla, a enillodd y wobr Doniau’r Dyfodol ac mae’n gweithio i’r cwmni dur cyfnerthedig Celsa Steel UK yng Nghaerdydd. Mae’n awyddus i fod yn batrwm i ferched yn y diwydiant dur ac, yn ôl ei chyflogwr, oedd ar restr fer y wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, mae’n “seren ddisglair”.
Bu’n rhaid i Chrystalla newid ei chynllun gwreiddiol o ymuno â’r Fyddin yn dilyn trychineb deuluol a effeithiodd ar ei hiechyd meddwl. Erbyn hyn. mae’n gwneud iawn am yr amser a gollwyd gan weithio tuag at Brentisiaeth Peirianneg Fecanyddol mewn Gwasanaethau Cynhyrchu a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW. Mae hefyd yn parhau i gefnogi ei theulu.
“Ar ôl cyfnod isel iawn, mae hwn yn drawsnewidiad enfawr,” meddai Chrystalla.
Kiera, technegydd fferyllol sydd â Syndrom Irlen, a elwir hefyd yn straen gweledol, enillodd wobr Prentis y Flwyddyn. Mae wedi dangos penderfyniad, ymroddiad ac ymrwymiad wrth sicrhau cyfres o gymwysterau i gefnogi ei gwaith yn Sheppards Pharmacy, rhan o grŵp Avicenna, yn Abercynon.
A hithau’n gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, bu’n rhaid i Kiera ddelio â nifer o ddigwyddiadau trawmatig yn y teulu, gan gynnwys colli ei thad-cu a oedd yn annwyl iawn ganddi. Mae wedi cymryd cyfrifoldeb ychwanegol er mwyn rhoi mwy o amser i’r fferyllwyr ymdrin â chleifion. O ganlyniad i hyn, mae’r fferyllfa gymunedol yn cael sgôr o hyd at 100% gan gleifion.
Er mwyn dod dros y straen gweledol, buddsoddodd Kiera mewn cymhorthion dysgu ychwanegol ar gyfer gwaith ysgrifennu ac adolygu er mwyn cwblhau Prentisiaeth Rhaglen Hyfforddi Technegwyr Fferylliaeth Cyn-gofrestru a oedd yn cynnwys Diploma BTEC Lefel 3 mewn Gwyddor Fferyllol trwy’r corff dyfarnu Pearson, a City & Guilds Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferylliaeth.
Cyflenwyd y brentisiaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) gyda chymorth gan ALS Training.
Mae’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd bob amser yn troi at Jayne Williams, enillydd gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn, i annog pobl i wneud prentisiaethau, diolch i’w brwdfrydedd dros ddysgu a datblygu.
Mae swydd Jayne, 58, o Gasnewydd, fel clerc llys wedi’i ehangu i gynnwys hyfforddi staff, mentora, hwyluso a chyrsiau academi. Yn y flwyddyn ddiwethaf, helpodd i hyfforddi 690 o gydweithwyr y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd drwy weithdai ar-lein.
Hi oedd y cyntaf o weithwyr y Gwasanaeth i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyngor ac Arweiniad, gan y darparwr hyfforddiant ACT. Yn awr, mae Jayne yn gobeithio parhau â’i thaith ddysgu trwy ennill rhagor o gymwysterau.
Angelina Mitchell, 28, sy’n swyddog sicrhau ansawdd mewnol digidol gyda’r darparwr hyfforddiant ACT yng Nghaerdydd, a enwyd yn Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.
A hithau’n gwneud gwaith arloesol yn cyflwyno’r Fframwaith Prentisiaethau Dylunio Dysgu Digidol yng Nghymru, mae Angelina yn credu mai ei rôl yw agor y drws i ddysgwyr feithrin y sgiliau i ddefnyddio technoleg yn hyderus.
Bu Angelina’n dysgu ieithoedd tramor modern i ddisgyblion ysgol uwchradd ac ymunodd ag ACT gan ei bod yn chwilio am her newydd yn ei gyrfa a’i bod yn awyddus i helpu eraill i ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol.
Er mwyn deall taith ei dysgwyr yn iawn, mae hithau wedi dilyn y prentisiaethau ac mae’n eu cyflenwi’n ddwyieithog ar ôl ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn ‘Cymraeg Gwaith’ (canolradd). Mae naw deg y cant o ddysgwyr Angelina’n cwblhau eu cymhwyster ac mae’n cael sgôr ymgysylltu â chyflogwyr o 88%.
Cwmni FSG Tool and Die o Lantrisant a enwyd yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn. Mae ganddo enw da yn rhyngwladol oherwydd sgiliau eithriadol ei brentisiaid sydd wedi helpu i wella proses weithgynhyrchu’r cwmni.
Mae prentisiad y cwmni gwneud tŵls a deiau yn serennu mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ac maent wedi helpu i symleiddio ei broses weithgynhyrchu, gan wella effeithlonrwydd o chwech y cant.
Yn ogystal, maent wedi dyfeisio batris llai ar gyfer ceir trydan ar gais cwsmer ac maent yn treialu deunyddiau gweithgynhyrchu cynaliadwy ar gyfer dyfodol gwyrddach.
Mae dros 90 yn gweithio i FSG Tool and Die, yn cynnwys 12 o brentisiaid sy’n gweithio tuag at Brentisiaethau hyd at lefel gradd mewn Peirianneg Fecanyddol, a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant TSW Training a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe.
Aeth gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn i’r Kepak Group Limited, Merthyr Tudful sydd wedi creu ei hyfforddwyr mewnol ei hun er mwyn meithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr a datblygu gweithlu medrus.
Ddim ond 18 mis ar ôl i Kepak fabwysiadu’r drefn hyfforddi newydd hon sy’n seiliedig ar waith, gyda chefnogaeth y darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian, mae’r cwmni eisoes wedi elwa o weld gostyngiad o 15% yn nhrosiant staff ac mae’r prentisiaid cyntaf eisoes yn symud i fyny i swyddi uwch.
Mae deugain o weithwyr yn gweithio tuag at brentisiaethau sy’n cynnwys Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod (Lefelau 2 a 3), Sgiliau’r Diwydiant Bwyd (Lefelau 2 a 3), Arwain Tîm Bwyd (Lefel 2), Rheoli Bwyd (Lefel 3), Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd (Lefel 4), a Rheolaeth (Lefel 4 a 5).
Arweinydd tîm gofal cartref, Boglarka-Tunde Incze o Lanrug a enwyd yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn. Newidiodd gyfeiriad ei gyrfa yn ystod y pandemig ar ôl cyfnod yn defnyddio’i Gradd Baglor mewn Cyfrifiadureg i weithio i gwmnïau rhyngwladol.
Mae prentisiaethau’n helpu Boglarka-Tunde i wneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl y mae hi’n gofalu amdanynt yn eu cartrefi ac i’w chydweithwyr. O Romania y daw Boglarka yn wreiddiol. Mae’n dysgu Cymraeg ac yn gweithio rhan amser i Gofal Bro Cyf ac fel cynorthwyydd gofal iechyd lliniarol gyda Marie Curie.
.
Mae wedi cwblhau Prentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydag Itec Skills and Employment a hoffai gymhwyso fel asesydd.
Lansiwyd meithrinfa Willow Daycare, enillydd gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn, yng Nghaerfyrddin yn anterth y pandemig Covid-19 gan roi pwyslais cryf ar hyfforddi staff trwy brentisiaethau.
Agorodd y perchennog, Rebecca Davies, y busnes ar dir Ysbyty Cyffredinol Glangwili, ar ôl gweld bod prinder difrifol o gymorth gofal plant, yn enwedig i staff y GIG.
Mae gan Willow Daycare 20 o weithwyr ac mae nifer y plant sy’n mynychu wedi codi o saith ar y dechrau i 130 ymhen blwyddyn. Cyflenwir Prentisiaethau o Lefelau 2 i 5 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn ogystal â Gwaith Chwarae Lefel 3 gan TSW Training.
Aeth gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sydd wedi lansio rhaglen brentisiaethau flaengar i gynhyrchu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol arbenigol i wynebu’r heriau a ddaw gan fod poblogaeth Cymru’n heneiddio.
Ar ôl canfod y bydd un o bob pedwar o bobl Cymru’n 65 oed neu’n hŷn erbyn 2036, datblygodd y Bwrdd ei strategaeth bedair blynedd yn ôl i ymgorffori dysgu seiliedig ar waith. Cyflenwir Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Gwyddor Gofal Iechyd (HCS) – y gyntaf o’i math yng Nghymru – mewn partneriaeth â’r darparwr hyfforddiant, Educ8 Training.
Mae’r Brentisiaeth Uwch yn pontio’r bwlch oedd rhwng prentisiaethau Lefel 3 ym maes iechyd a gradd, gan alluogi dysgwyr i fynd ymlaen i fod yn wyddonwyr cofrestredig. Mae dros 550 o staff wedi manteisio ar brentisiaeth.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, ewch i: https://llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffonio 03000 603000.
Ar y Rhestrau Byrion:
Ar restr fer Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Olivia Headley-Grant, o’r Barri, sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Goleg Caerdydd a’r Fro; Malgorzata Bienko, sy’n gweithio yn School Lane Preschool, Llandudno ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Hyfforddiant Arfon Dwyfor.
Ar restr fer Prentis y Flwyddyn: James Matthewman, o Glwb Golff Maes-teg, y darparwyd ei hyfforddiant gan Goleg Penybont; a Dion Evans, sy’n gweithio i Alwyn Evans Cyf yn Nhalgarreg, Llandysul ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Goleg Ceredigion and Choleg Sir Gâr
Ar restr fer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn: Albert Brennan o Gefn-y-bedd, Wrecsam, sy’n gweithio i Airbus ym Mrychdyn ac y darparwyd ei hyfforddiant gan Brifysgol Abertawe; a Michelle Gaskell o’r Fenni, sy’n gweithio i’r Forensic Capability Network ac y darparwyd ei hyfforddiant gan ALS Training.
Ar restr fer gwobrau Cyflogwr Bach a Chanolig y Flwyddyn: Si Lwli, yr Eglwys Newydd, Caerdydd y darperir ei hyfforddiant gan Educ8 Training; ac Ysgol Uwchradd y Drenewydd y darperir ei hyfforddiant gan Portal Training.
Ar restrau byrion Cyflogwr Mawr a Macro-gyflogwr y Flwyddyn: Persimmon Homes West Wales y darperir ei hyfforddiant gan Goleg Penybont; a Celsa Steel UK, Caerdydd y darperir ei hyfforddiant gan TSW Training
Ar restr fer Ymarferydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Victoria Morris o Educ8 Training, Ystrad Mynach a Hayley Walters o Itec Training Solutions, Caerdydd.
Ar restr fer gwobr Doniau’r Dyfodol: Anya O’Callaghan o Spirit Hair Team, Ystrad Mynach, y darperir ei hyfforddiant gan Educ8 Training ac Evan Coombs o PCI Pharma Services ac Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ac y darperir ei hyfforddiant gan Goleg y Cymoedd a Choleg Gŵyr, Abertawe.
Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022
More News Articles
« Enillwyr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2022 i gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf — Gwobr genedlaethol i ofalwraig o’r gogledd a newidiodd yrfa er mwyn gwneud gwahaniaeth »