ACT yn ennill gwobr fawreddog Best Companies

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Rebecca Cooper, Pennaeth Pobl a Datblygiad, ACT

Mae ACT, unwaith eto, wedi cael ei enwi’n gyflogwr blaenllaw yng nghynghrair Best Companies – cynllun cydnabyddiaeth yn y gweithle enwog.

Dyfarnwyd bod ACT yn un o’r pum sefydliad addysg a hyfforddiant gorau yn genedlaethol, ac am yr wythfed flwyddyn yn olynol fe’i gosodwyd yn y 100 cwmni mawr gorau i weithio iddynt yn y DU yn seremoni wobrwyo Best Companies 2023.

Mae Best Companies yn cydnabod busnesau bach, canolig a mawr ar draws gwahanol ranbarthau a sectorau ledled y DU, gan eu graddio ar ffactorau pwysig fel lles, arweinyddiaeth a chyflog teg.

Dywedodd Rebecca Cooper, Pennaeth Pobl a Datblygiad ACT:
“Rydym wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill ein plwyf yn y 100 cwmni mawr gorau i weithio iddynt yn y DU am yr wythfed flwyddyn yn olynol ac i gael ein henwi’n un o’r pum cwmni Addysg a Hyfforddiant gorau.

“Mae ACT yn blaenoriaethu hapusrwydd ac ymgysylltiad staff, sef un o’n hamcanion strategol, ac mae’r cyflawniad hwn yn ein helpu i fesur hynny. Rydym hyd yn oed yn fwy balch ein bod wedi cyflawni hyn gan fod y blynyddoedd diwethaf wedi bod mor heriol i’r DU o ganlyniad i’r pandemig a phwysau costau byw.

“I ni, mae staff hapus yn arwain at wasanaeth cwsmer ardderchog i’n dysgwyr sy’n parhau i fod wrth wraidd popeth rydym yn gwneud.”

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear:
“Rydym yn falch iawn o fod yn y 100 cwmni gorau i weithio iddynt unwaith eto. Mae hapusrwydd staff wedi bod yn amcan strategol yn ACT ers blynyddoedd lawer. Rydym yn teimlo mai dyma’r peth iawn i ganolbwyntio arno ac rydym yn argyhoeddedig po fwyaf hapus ac wedi ymrwymo y mae ein tîm, y gorau byddant yn cefnogi eu dysgwyr, cyflogwyr neu gydweithwyr.

“Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu cynlluniau ymrwymo yn seiliedig ar y data o arolwg y llynedd ac yn gweithio’n galed i sicrhau bod ACT yn le hyd yn oed yn well i weithio.”

Mae ACT wedi bod yn ‘Gwmni Rhagorol i Weithio Iddo’ achrededig gyda Best Companies ers bron i ddegawd ac mae’n ymroddedig i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gwmni o ddewis i bobl sy’n chwilio am yrfa mewn addysg.

ACT yw darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru. Ers ei sefydlu ym 1988, mae wedi helpu dros 75,000 o ddysgwyr i gyflawni eu nodau gyrfa, gan weithio gyda dros 14,000 o gyflogwyr ledled Cymru. O bobl ifanc sy’n ymuno â’r byd gwaith am y tro cyntaf i uwch reolwyr a swyddogion gweithredol a phopeth rhwng y ddau, mae ACT yn frwd dros wella bywydau trwy ddysgu a chefnogi busnesau Cymru i uwchsgilio eu gweithlu.

ACT

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —