Nid diffyg uchelgais sydd gan Gen Z, maen nhw eisiau mwy na dyrchafiad o’u gyrfa
English | Cymraeg
Pan fyddwch chi’n meddwl am ddilyniant gyrfa, mae’n debygol bod un gair yn dod i’r meddwl – dyrchafiad. Ond wrth i’r genhedlaeth nesa ddod i’r amlwg yn y gweithle, mae llawer o weithwyr yn ystyried tybed ai symud ymlaen yw’r unig ffordd i lwyddo mewn gyrfa.
Mae nifer cynyddol o weithwyr Gen Z yn cwestiynu a oes rhaid i lwyddiant gyrfa olygu cymryd swyddi uwch, mwy o gyfrifoldeb a rheoli tîm, yn enwedig gan fod gan rain eu hanfanteision. Mae’r newid wedi cael ei alw’n “conscious unbossing” neu ddewis yn fwriadol i beidio â dilyn rôl reoli, yn enwedig os nad yw’n cyd-fynd ag uchelgais, cryfderau neu syniad unigolyn o’u gyrfa ddelfrydol.
I rai, efallai ei fod yn ymddangos fel diffyg uchelgais neu ofn rhwymedigaeth, ond mewn gwirionedd y gwrthwyneb sy’n wir.
Mae gweithwyr iau yn fwyfwy ymwybodol nad oes yn rhaid i ddilyniant gyrfa gynnwys dringo’r ysgol i fachu teitl swydd newydd, uwch. Gall dilyniant gyrfa edrych yn debycach i siart radar o brofiadau a chyflawniadau. Mae dilyniant gyrfa i lawer, yn enwedig y genhedlaeth iau, yn ymwneud ag ennill sgiliau newydd, ehangu profiadau a phortffolios a dod yn weithiwr proffesiynol mwy hyderus, cyfan.
Mae rhagdybiaeth mewn llawer o weithleoedd mai’r cam nesaf naturiol i weithiwr sy’n perfformio uchel yw rheolaeth. Ond mae bod yn wych yn eich swydd a bod yn rheolwr pobl gwych yn ddwy set sgiliau hollol wahanol.
Gall rheoli pobl fod yn hynod werth chweil, ond nid yw i bawb ac ni ddylid ei drin fel y ffactor pwysicaf mewn gyrfa lwyddiannus.
Fel cyflogwyr, mae gennym gyfle i feddwl yn fwy creadigol am sut olwg sydd ar ddilyniant yn ein gweithrediadau. Gallai hynny olygu rhoi cyfle i weithiwr arbennig arwain prosiect heb reoli tîm. Gallai hefyd olygu caniatáu iddynt ddatblygu eu harbenigedd ymhellach trwy hyfforddiant. Gall gweithiwr sy’n perfformio’n uchel elwa o weithio gyda gwahanol adrannau, cydweithio â chydweithwyr newydd neu ymgymryd â rolau newydd y tu allan i’w gwaith arferol o ddydd i ddydd.
Gall y profiadau hyn ddatblygu rhywun cymaint â dyrchafiad ac yn aml gallant fod yn fwy gwerthfawr iddynt fel gweithiwr proffesiynol ac i’r busnes. Gall ymgymryd â phrosiect newydd, dysgu sgil newydd neu symud i faes anghyfarwydd o’r sefydliad ehangu persbectif rhywun a chreu cyfleoedd nad oeddent yn amlwg o’r blaen. Mae’r archwiliad hwn yn caniatáu i weithwyr ddeall yn well beth maen nhw’n ei fwynhau am eu rôl a’r hyn nad ydynt yn ei fwynhau.
Mae hyfforddiant seiliedig ar waith yn ffordd arall y gall gweithwyr ddatblygu o fewn eu rôl. Mae uwchsgilio staff, er ei fod hefyd yn ddefnyddiol i’w paratoi ar gyfer rheoli, yn bwysicach i roi’r offer a’r hyder sydd eu hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus yn eu rôl a ble maen nhw eisiau i’w gyrfaoedd fynd.
Wrth gwrs, gallai hyn olygu rheolaeth, ond gallai hefyd olygu dod yn arbenigwr technegol. Gallai olygu symud i faes hollol wahanol o’r sefydliad neu ddatblygu yn y rôl maen nhw eisoes yn ei garu.
Mae’r sgwrs ynglŷn â ‘conscious unbossing’ yn aml yn canolbwyntio ar y cwestiwn ‘a yw gweithwyr Gen Z yn ddigon uchelgeisiol?’ Pan ddylem ni fod yn gofyn ‘beth yw natur uchelgais ein gweithwyr Gen Z?’
Ni ddylai dilyniant fod yn daith osodedig, un maint i bawb, ac wrth gydnabod hynny, mae eich sefydliad yn llawer mwy tebygol o feithrin gweithlu o unigolion brwd, hyderus a galluog. Mae hyn oherwydd, i lawer, nid yw llwyddo mewn gyrfa yn golygu dringo’r ysgol, mae’n ymwneud â rhoi cynnig ar bethau newydd a datblygu’r sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen i ddeall y camau nesaf – boed hynny at ddyrchafiad neu beidio.
Os ydych chi am ddatblygu’ch gweithlu, mae gan ACT amrywiaeth eang o gymwysterau wedi’u hariannu’n llawn – o gymwysterau digidol a rheoli i sgiliau gwyrdd a chyllid – i sicrhau bod gan eich tîm y wybodaeth a’r hyder i ffynnu yn eu rôl. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth yn acttraining.org.uk
Gan Rebecca Cooper, Cyfarwyddwr Cyswllt – Pobl a Diwylliant yn ACT
More News Articles
« Gwneud cymwysterau galwedigaethol yn addas ar gyfer dyfodol Cymru — CGA yn croesawu Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer digwyddiad Siarad yn Broffesiynol »


