Gwneud cymwysterau galwedigaethol yn addas ar gyfer dyfodol Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Image of Jo Richards, Qualifications Wales

Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol, Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru

Sut ydyn ni’n sicrhau bod gan Gymru’r sgiliau sydd eu hangen arnom i greu dyfodol lle gall ein pobl a’n heconomi ffynnu?

Mae’n gwestiwn allweddol sydd wrth wraidd archwiliad sgiliau parhaus Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd mewn digwyddiad Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ym mis Mehefin gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell.

Dywedodd: “Mae hon yn foment allweddol i sgiliau yng Nghymru. Mae gan Gymru gryfderau gwirioneddol, gweithlu talentog, cyflogwyr cryf a darparwyr hyfforddiant rhagorol. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cryfderau hynny’n cael eu defnyddio’n llawn. Bydd yr archwiliad sgiliau rydyn ni’n ei gynnal yn rhoi darlun cliriach i ni o ble mae’r bylchau a ble mae’r cyfleoedd.”

Bydd canfyddiadau cynnar yr archwiliad hwn yn siapio’r agenda ar gyfer Uwchgynhadledd Sgiliau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru sydd wedi’i chynllunio ar gyfer yr hydref hwn.

Bydd yr uwchgynhadledd yn dod â chyflogwyr, addysgwyr, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisi ynghyd i gynllunio ar gyfer diwygio hyfforddiant sgiliau galwedigaethol.
Mae gennym ni yn Cymwysterau Cymru rôl bwysig i’w chwarae yn y broses hon ac rydyn ni’n parhau â’n gwaith i gefnogi cynnig cymwysterau galwedigaethol ôl-16 cryf a chynaliadwy i ddysgwyr yng Nghymru. Daw’r gwaith hwn mewn ymateb i ddiwygiadau sylweddol sy’n digwydd yn Lloegr.

Beth mae Lloegr yn ei wneud?
Mae diwygiadau yn Lloegr wedi’u hanelu at:

  • sicrhau bod llwybr clir, o ansawdd uchel i ddysgwyr, boed eu cryfderau’n academaidd, yn dechnegol neu’n alwedigaethol
  • creu system ôl-16 gliriach a mwy hyblyg
  • helpu dysgwyr i gyfuno astudiaethau academaidd a galwedigaethol a’u paratoi nhw ar gyfer swyddi yn y dyfodol

O 2027, bydd cymwysterau lefel V newydd yn cael eu cyflwyno. Bydd cymwysterau lefel 3 newydd sy’n cynnig llwybr galwedigaethol i fyfyrwyr sydd eisiau archwilio gwahanol sectorau cyn penderfynu ble i arbenigo. Bydd pob cymhwyster lefel V yn cyfateb o ran maint i un cymhwyster Safon Uwch a bydd y rhai cyntaf ar gael mewn Digidol, Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar, a Chyllid a Chyfrifeg o fis Medi 2027 ymlaen. Bydd mwy yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach.

Mae dau lwybr newydd (galwedigaethol ac astudiaethau pellach) hefyd yn cael eu creu i gefnogi myfyrwyr lefel 2 yn well. Bydd y llwybrau hyn yn cefnogi myfyrwyr 16-18 oed. Mae llywodraeth y DU hefyd yn sefydlu 29 o Golegau Rhagoriaeth Dechnegol newydd sy’n canolbwyntio ar ddiwydiannau allweddol.

Beth mae Cymwysterau Cymru yn ei wneud?
Fis Mawrth, fe wnaethon ni gyhoeddi Cymwysterau Galwedigaethol Ôl-16 yng Nghymru: Cynllun Gweithredu 2026-2028. Mae’n nodi sut y byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu dewis dysgwyr, cynnal argaeledd cymwysterau, a chefnogi cynnig yn y dyfodol sy’n diwallu anghenion Cymru.

Er bod y cynllun yn cynnwys pedwar maes gwaith, ein ffocws ar hyn o bryd yw rhoi cyngor cadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i Lywodraeth Cymru ar ddyfodol cymwysterau galwedigaethol lefel 2 a lefel 3 yng Nghymru.

Mae’r gwaith hwn yn bwysig oherwydd bod llawer o gymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru hefyd yn cael eu cynnig yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Wrth i Loegr newid ei thirwedd cymwysterau ôl-16, gan gynnwys dileu cyllid ar gyfer rhai cymwysterau yn y dyfodol, efallai y bydd goblygiadau i argaeledd a hyfywedd cymwysterau sydd eu hangen o hyd ar ddysgwyr, darparwyr a chyflogwyr yng Nghymru.

Mae Leanne Hallett, Uwch Reolwr Cymwysterau, a minnau wedi bod yn gweithio gyda’r sector i gasglu barn, gan gynnwys drwy drafodaethau gydag aelodau o Fwrdd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Canolbwyntiodd y trafodaethau cychwynnol ar y dewisiadau eang sydd ar gael i ddysgwyr a darparwyr yng Nghymru a’r materion y mae angen eu hystyried. Mae ail gam o ymgysylltu, sy’n fwy manwl, wedi edrych yn fanylach ar effeithiau posibl, gan gynnwys risgiau, costau, heriau cyflwyno, darpariaeth ddwyieithog a llwybrau cynnydd. Mae adborth o’r trafodaethau hyn yn helpu i siapio’r cyngor a ddarperir i Lywodraeth Cymru.

Mae’r sgyrsiau hyn yn helpu i sicrhau bod safbwyntiau darparwyr addysg bellach a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn cael eu hadlewyrchu wrth i’r opsiynau gael eu mireinio.

Y camau nesaf
Y cam nesaf fydd dwyn ynghyd y dystiolaeth a gasglwyd hyd yn hyn a datblygu cyngor mwy manwl i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth bellach o effaith bosibl gwahanol ddulliau a sut y gall polisi cymwysterau yn y dyfodol gyd-fynd â dull strategol ehangach Llywodraeth Cymru o ymdrin ag addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru.

Byddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, cyrff dyfarnu, Medr, Estyn, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau cynrychioliadol, i gefnogi sefydlogrwydd i ddysgwyr a darparwyr wrth siapio cynnig cymwysterau galwedigaethol yn y dyfodol sy’n gweithio i Gymru.

Cymwysterau Cymru

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —