Wythnos Addysg Oedolion

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ymunwch ag ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion y Sefydliad Dysgu a Gwaith

17 – 23 Hydref 2022

Ymgyrch flynyddol a gaiff ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yw Wythnos Addysg Oedolion.

Baner am Wythnos Addysg Oedolion

Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal yr ymgyrch rhwng 19 a 25 Medi ond mae wedi’i gohirio tan 17 – 23 Hydref oherwydd marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines. Hoffai L&W ddiolch i’w partneriaid yn yr ymgyrch am eu cefnogaeth ffyddlon a’r gobaith yw y bydd darparwyr addysg oedolion yn gallu ymuno â nhw i hyrwyddo a dathlu Wythnos Addysg Oedolion ym mis Hydref.

Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn chwarae rhan bwysig yn hyrwyddo cyfleoedd amrywiol i unigolion, teuluoedd a chymunedau ddysgu sgiliau newydd, hybu iechyd a lles, gafael mewn diddordebau newydd neu chwilio am gyfleoedd newydd i ailhyfforddi a chael dechrau newydd.

Mae’r cyfle i gymryd rhan mewn addysg oedolion a dechrau o’r newydd yn ganolog i weledigaeth Llywodraeth Cymru o wneud Cymru’n genedl yr ail gyfle. Bydd yr ymgyrch yn hwb i bobl gymryd y cam nesaf a fydd yn eu galluogi i fyw bywydau iachach, mwy llewyrchus.

Bwriad llwyfan Wythnos Addysg Oedolion yw cynnwys gwybodaeth, cyrsiau, digwyddiadau ac adnoddau i gysylltu pobl â chyfleoedd ledled Cymru. Y llynedd, roedd y llwyfan yn cynnwys dros 500 o eitemau gan sefydliadau a phartneriaethau amrywiol yn cynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, UNSAIN, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Syniadau Mawr Cymru, Unite, Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Cymunedau Digidol Cymru ac eraill.

Bydd yr ymgyrch eleni’n cynnwys cyfuniad o weithgareddau ar-lein, byw ac wyneb-yn-wyneb a gynigir i bobl ledled Cymru trwy gydol mis Hydref. Mae rhai digwyddiadau eisoes i’w gweld ar y llwyfan.

Ymunwch â’r ymgyrch a gwneud dysgu gydol oes yn fwy hwylus a gweladwy i oedolion ledled Cymru.

Trwy gymryd rhan, byddwch yn helpu i gynyddu effaith a chodi proffil addysg oedolion ac yn helpu i rymuso pobl trwy gyfleoedd dysgu gydol oes. Dyma’r gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd rhan ym mis Hydref:

  • Defnyddiwch lwyfan Wythnos Addysg Oedolion i hyrwyddo’ch cyrsiau, eich dyddiau agored, eich sesiynau profi a’ch adnoddau dysgu
  • Amlygwch fanteision dysgu, beth sy’n gweithio neu beth arall y gellid ei wneud i’w gwneud yn haws i oedolion ddysgu a meithrin sgiliau – rhannwch eich ymchwil, ysgrifennwch erthygl, neu lansiwch gyhoeddiad ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion
  • Ymunwch â’r gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashnodau #dalatiiddysgu #cenedlailgyfle #wythnosaddysgoedolion a dilyn a thagio cyfrifon Twitter, Facebook, ac Instagram
  • Rhannwch eich straeon a dathlu llwyddiant pobl sydd wedi elwa ar eich darpariaeth ac wedi profi manteision dysgu gydol oes.

Cewch wybod rhagor am Wythnos Addysg Oedolion.

Os oes gennych gwestiynau am gychwyn cyfrif ar y wefan i nodi’ch gweithgareddau neu os hoffech drafod cyfleoedd ar gyfer gwaith traws-hyrwyddo, cysylltwch â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith: alwevents@learningandwork.org.uk

Back to top>>

More News Articles

  —