Merch a adawodd yr ysgol heb yr un TGAU yn cael swydd ei breuddwydion yn gwerthu tai

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae merch ifanc o Bontprennau, Caerdydd a adawodd yr ysgol heb yr un TGAU wedi cael swydd ei breuddwydion yn gwerthu tai, diolch i gymorth darparwr hyfforddiant.

Katie Pearce yn dal bwrdd hysbysebu

Katie Pearce, Negodwr dan Hyfforddiant gyda Harry Harper Sales and Lettings.

Roedd Katie Pearce, 18 oed, yn ei chael yn anodd yn yr ysgol oherwydd diffyg brwdfrydedd ac ysgogiad. Ar ôl gadael Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, aeth Katie at Itec Skills and Employment a dechrau ar gwrs manwerthu a gwasanaethu cwsmeriaid. Aeth ymlaen wedyn i ennill cymwysterau mewn sgiliau cyfathrebu a sgiliau cyflogadwyedd ac mae hynny wedi helpu i’w pharatoi at fyd gwaith.

Meddai Katie: “Rwy wastad wedi bod eisiau helpu pobl a gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus a dyna pam y dewisais i fyd manwerthu a gwasanaethu cwsmeriaid.

“Pan o’n i yng nghanolfan Itec yng Nghaerdydd, ro’n i’n llawer mwy brwd a pharod i weithio nag oeddwn i yn yr ysgol oherwydd ro’n i’n teimlo bod gen i rywbeth i anelu ato o’r diwedd. Ro’n i’n gwybod erioed fy mod i eisiau bod yn werthwr tai ac felly dechreuais i holi Itec sut i fynd o’i chwmpas.”

Gwelodd Clare Jones, swyddog lleoliadau Katie yn Itec botensial y ferch a mynd ati i’w chefnogi. Trefnodd Clare leoliad cyntaf Katie gyda’r British Heart Foundation, lle cafodd Katie brofiad a chyfle i ymarfer ei sgiliau newydd.

O gofio am uchelgais Katie, roedd Clare yn benderfynol o ddod o hyd i leoliad iddi gyda chwmni gwerthu tai.

“Y tro cyntaf i mi gwrdd â Katie, dwedodd hi yr hoffai helpu pobl i ddod o hyd i’w cartrefi delfrydol. Mae Katie mor frwd a dydi hi ddim erioed wedi colli golwg ar yr hyn roedd arni eisiau ei wneud.”

Bu Clare yn helpu Katie i sicrhau lleoliad yn Harry Harper Sales and Lettings yn Cathays lle mae hi bellach yn gweithio fel negodwr dan hyfforddiant. Mae ei rôl newydd yn cynnwys ateb galwadau ffôn, rheoli apwyntiadau, mynd ar drywydd ymweliadau â thai a thrafod gyda thenantiaid.

Dywedodd Benjamin Churchill, rheolwr gyfarwyddwr Harry Harper: “Dyma’r tro cyntaf i ni gymryd hyfforddai o Itec ac mae Katie wedi bod yn ychwanegiad gwych i’n tîm. Mae hi’n weithgar iawn, yn gwrtais, ac yn broffesiynol.

“Mae hi’n dod ymlaen yn dda iawn ac mae’n amlwg bod ei hangerdd dros dai yn disgleirio. Rydyn ni’n gallu gweld gyrfa hir a llwyddiannus o’i blaen.”

Aeth Katie ymlaen: “Wrth weithio gyda chwmni gwerthu tai, rydych chi’n cael gweld adegau hapus iawn pan fydd pobl yn prynu eu cartref cyntaf neu’n symud oddi cartref am y tro cyntaf ac rwy’n falch o gael bod yn rhan o hynny.”

Mae Katie’n bwriadu dysgu mwy am eiddo a phrotocolau’r cwmni tra bydd yn gweithio tuag at fod yn negodwr hyfforddedig. Mae’n gobeithio gweithio ei ffordd i fyny i fod yn rheolwr cangen ryw ddydd.

Itec Skills and Employment

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —