Cyfle i arddangos a ddathlu llwyddiant prentisiaethau Cymru yn y Senedd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Y Gweinidog, Vikki Howells, yn annerch y ffair brentisiaethau.

Roedd Ffair Brentisiaethau a gynhaliwyd yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mercher yn llwyddiant “ysgubol” yn ôl darparwyr dysgu seiliedig ar waith o Gymru.

Daeth Aelodau o’r Senedd, darparwyr prentisiaethau, prentisiaid a chyflogwyr ynghyd i ddathlu Wythnos Brentisiaethau Cymru 2025 yng nghartref Llywodraeth Cymru.

Cyd-drefnwyd y digwyddiad gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a ColegauCymru a’i gydlynu gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Brentisiaethau, sy’n cael ei gyd-gadeirio gan Luke Fletcher AS a Joyce Watson AS.

Roedd pob un o’r 10 o ddeiliaid contractau dysgu seiliedig ar waith yn y digwyddiad, ynghyd ag Aelodau o’r Senedd a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Medr.

Traddodwyd y prif anerchiad gan Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ar ran Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, a oedd yn methu bod yn bresennol.

“Rwy wrth fy modd o gael y cyfle hwn i helpu i ddathlu Wythnos Brentisiaethau Cymru,” meddai. “Mae’n gyfle i gydnabod holl lwyddiannau gwych prentisiaid yng Nghymru ac annog rhagor o unigolion a busnesau i gymryd rhan a phrofi’r manteision y gall prentisiaeth eu cynnig.

“Rydym yn ymroi i baratoi dysgwyr yng Nghymru ar gyfer swyddi heddiw ac yfory, ac mae prentisiaethau’n cynnig profiad ymarferol sy’n cyd-fynd ag addysg academaidd.”

Ac meddai aelod Llafur arall o’r Senedd, Joyce Watson:
“Roeddwn yn falch iawn o gael agor y digwyddiad ysbrydoledig hwn a hoffwn ddiolch i’r holl brentisiaid ac arddangoswyr a ddaeth i rannu eu profiadau.

“Roedd y digwyddiad yn gyfle i weld pa mor eang yw’r cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru. Roedd yn dathlu’r partneriaethau sydd rhwng addysgwyr, cyflogwyr a llunwyr polisïau, gan amlygu’r rhan hollbwysig y mae prentisiaethau’n ei chwarae yn economi Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu nod uchelgeisiol sef creu 125,000 o brentisiaethau erbyn 2026, ac rwy’n credu y gellir cyflawni hynny trwy gydweithio ac arloesi.”

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr NTFW a ColegauCymru:
“Mae prentisiaethau’n hanfodol er mwyn adeiladu gweithlu medrus a chefnogi economi Cymru. Maent yn cynnig cyfleoedd sy’n newid bywydau fel y gall unigolion ennill cyflog, dysgu, a ffynnu ac, ar yr un pryd, yn helpu busnesau i dyfu a llwyddo.

“Roedd y Ffair Brentisiaethau’n llwyfan ardderchog i ddangos amrywiaeth y doniau a’r ysbryd arloesol a welir yng Nghymru diolch i brentisiaethau. Yn ystod Wythnos Brentisiaethau Cymru roeddem yn falch o ddathlu’r hyn a gyflawnwyd gan brentisiaid ac o bwysleisio ein hymrwymiad i hyrwyddo’r llwybr hollbwysig hwn ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.

“Mae’r NTFW a ColegauCymru yn falch o hyrwyddo mentrau fel y Ffair Brentisiaethau, oedd yn dathlu’r hyn a gyflawnwyd gan brentisiaid ac yn amlygu’r rhan hanfodol y maent yn ei chwarae yn creu Cymru gryfach, decach a mwy llewyrchus.

“Llwyddodd y digwyddiad yn y Senedd i gyrraedd y nod o dynnu sylw at sgiliau prentisiaid a dangos pam y mae angen rhagor o fuddsoddiad yn llwybrau prentisiaethau er mwyn gwireddu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau twf economaidd.”

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —