Toriadau i brentisiaethau yn tanseilio uchelgeisiau economaidd Cymru, meddai NTFW
Mae ffederasiwn o ddarparwyr hyfforddiant wedi holi’n blwmp ac yn blaen sut y bydd Llywodraeth Cymru’n cyflawni ei “chenhadaeth ar gyfer economi gryfach” trwy leihau’r buddsoddiad mewn prentisiaethau yng Nghymru.
Cyn uwchgynhadledd economaidd yng Nglynebwy cyn diwedd yr wythnos, aeth Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ati heddiw i nodi pedair blaenoriaeth gan ddweud y byddant yn “rhoi Cymru ochr yn ochr â’r economïau sy’n troi polisi diwydiannol gweithredol yn sgiliau newydd ar gyfer ffyniant hirdymor”.
Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi blaenoriaeth i “uchelgais ar gyfer cryfderau nodedig Cymru, ffyniant gwyrdd, sgiliau a swyddi lleol”.
Galwodd y gweinidog ar fusnesau i ymrwymo i rymuso menywod a chwalu rhwystrau yn y gweithle, yn enwedig yn y sectorau lle caiff menywod eu tangynrychioli fwyaf.
Mae ei sylwadau wedi synnu aelodau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) sy’n delio â gostyngiad o £17.5m mewn cyllid ar gyfer prentisiaethau. Fodd bynnag, nid dyna’r unig doriadau.
Mae aelodau’r NTFW, sy’n darparu prentisiaethau ledled Cymru, mewn trafodaethau ar hyn o bryd â Llywodraeth Cymru sy’n cynllunio rhagor o doriadau mawr a allai arwain at 10,000 yn llai o brentisiaid dros y ddwy flynedd nesaf.
“Mae datganiad Gweinidog yr Economi yn peri penbleth i aelodau NTFW. Mae’n blaenoriaethu sgiliau, ond eto mae Llywodraeth Cymru’n gwneud toriadau sylweddol i gyllideb prentisiaethau,” meddai cyfarwyddwr strategol yr NTFW Lisa Mytton.
“Yr unig ffordd y gall gyflawni ei uchelgeisiau yw trwy dwf economaidd a chefnogi prentisiaethau er mwyn adeiladu gweithlu medrus.
“Wrth i drafodaethau am gyllid barhau, rydym yn herio Llywodraeth Cymru i ystyried effaith ehangach rhagor o doriadau i gyllid prentisiaethau ar bobl ifanc, dysgwyr anabl a chyflogwyr.
“Mae data’n dangos y bydd y toriadau’n effeithio ar bobl o’r ardaloedd â’r amddifadedd mwyaf a’r bobl ifanc fwyaf difreintiedig. Byddant yn effeithio mewn ffordd anghymesur ar bobl ifanc, menywod ac unigolion o’r grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf.
“Mae hyn yn gwbl groes i ddyheadau rhaglen brentisiaethau sydd nid yn unig yn cefnogi ond yn hybu symudedd cymdeithasol.”
“Yn ogystal â’r effaith sylweddol a gaiff y toriadau ar ddyheadau unigolion ac economi Cymru, bydd angen i aelodau’r NTFW flaenoriaethu eu darpariaeth ar sail ymrwymiadau presennol i gyflogwyr ac ystyried o ddifrif pa mor hyfyw yw cefnogi llawer o farchnadoedd arbenigol a niche.
“Bydd darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn ceisio gwasanaethu cyflogwyr craidd, llawer ohonynt yn talu’r ardoll brentisiaethau, a busnesau bach a chanolig sy’n gweithredu mewn meysydd blaenoriaeth yn lleol, cenedlaethol a rhanbarthol.”
Mae’r NTFW yn herio datganiad Llywodraeth Cymru mai’r rheswm dros y toriad o £17.5m yn ddiweddar yw diffyg galw tybiedig gan gyflogwyr am brentisiaethau.
“Nid yw hyn yn wir o gwbl,” meddai Ms Mytton. “Yn wir, ni fu gostyngiad o gwbl yn y galw gan rai sydd am gychwyn ar brentisiaethau. Mae data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun yn dangos cynnydd yn nifer y rhai a gychwynnodd ar brentisiaeth yn hanner cyntaf 2022-23, o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
“Y rhesymau dros danwariant y rhaglen yn 2022-23 oedd gwaddol y pandemig, penderfyniadau busnes oherwydd Brexit a phwysau chwyddiant ac effeithiau newidiadau yn y systemau cymwysterau.”
Pwysleisiodd fod y toriadau’n groes i safbwynt y Blaid Lafur ar brentisiaethau, sef y bydd cwmnïau o Brydain yn defnyddio sgiliau er mwyn sicrhau cyfleoedd yn y dyfodol. Dywedant hefyd fod newidiadau’n digwydd yn gynt ac yn ehangach nag ar unrhyw adeg yn ein hanes a bod ymateb effeithiol yn gofyn am newidiadau eang yn y ffordd yr ydym yn ystyried, cynllunio a darparu hyfforddiant ac addysg sgiliau ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol.
“Mae arnom angen prentisiaethau sy’n hyblyg i ddiwallu anghenion busnesau bach a chanolig (BBaChau) sy’n elfennau hanfodol er mwyn newid,” meddent.
Yn ogystal, mae’r toriadau’n gwrth-ddweud datganiad a wnaed gan Mr Gething yn gynharach eleni wrth ohirio, am flwyddyn, darged Llywodraeth Cymru o greu 125,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd bresennol.
Ar y pryd, roedd yn beio absenoldeb arian o’r Undeb Ewropeaidd a chynnydd mewn costau, ond mynnodd fod yr holl brentisiaethau’n dal yn un o’u prif flaenoriaethau, wrth iddo gyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £36m dros ddwy flynedd.
Meddai, “Mae angen i ni ddarparu prentisiaethau a fydd yn cynyddu cynhyrchiant, yn creu swyddi o safon uchel ac yn ymateb i anghenion sgiliau’r dyfodol, fel cynyddu’r ddarpariaeth yn y sector sero net a’r sector digidol.”
More News Articles
« Y daith i ennill y Wobr Gwirfoddolwr Pobl Ifanc: Cwrdd a Kirsten Watkins — Grŵp Hyfforddi Educ8 yn lansio Prosiect Cymunedol a gefnogir gan Lywodraeth y DU i wella Sgiliau Rhifedd yng Nghastell-nedd Port Talbot »


