Prentisiaid yn ‘Anelu’n uchel’ yn y gobaith am wobr i gyflogwr
Mae lefelau diweithdra uchel a lefelau sgiliau cymharol isel yn y diwydiant gweithgynhyrchu yn ardaloedd dau o awdurdodau lleol y de wedi arwain at greu Rhaglen Brentisiaethau arloesol sy’n adfywio’r sector uwch-weithgynhyrchu.
Eisoes, cafodd 123 o brentisiaid a nifer o gwmnïau fudd uniongyrchol o ddulliau gweithredu arloesol Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu’n Uchel Blaenau Gwent.
Caiff y dysgwyr eu cylchdroi o gwmpas nifer o gyflogwyr er mwyn llenwi bylchau sgiliau trwy gael hyfforddiant yn y gwaith a chwblhau unedau tuag at eu prentisiaeth.
Sefydlwyd y rhaglen yn wreiddiol yn 2015 pan sylwodd Bwrdd Ardal Fenter Glyn Ebwy bod prinder gweithwyr â sgiliau Lefel 3 ac uwch ym Mlaenau Gwent. Ar ôl dwy flynedd, ymunodd Merthyr Tudful â nhw i geisio sicrhau twf busnesau a gwella sgiliau gan ostwng lefelau diweithdra.
Oherwydd ymroddiad y cwmni i brentisiaethau, mae Anelu’n Uchel wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.
Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Erbyn hyn, mae Anelu’n Uchel yn cydweithio â Choleg y Cymoedd, sy’n gysylltiedig â Choleg Gwent, a Choleg Merthyr Tudful i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus. Gwnânt hyn trwy gynnig prentisiaethau mewn Peirianneg Drydanol, Peirianneg Fecanyddol, TGCh, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg Ansawdd ynghyd â Gweinyddu Busnesau, Gweinyddu Masnachol, a Chyllid.
“Gwelwyd y byddai datblygu Rhaglen Rhannu Prentisiaethau yn ffordd i feithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer cyflogwyr cynhenid a mewnfuddsoddwyr,” meddai Tara Lane, rheolwr rhanbarthol datblygu sgiliau gydag Anelu’n Uchel.
“Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc uchelgeisiol gan ychwanegu at y ddarpariaeth bresennol ac nid yw’n disodli prentisiaethau lle caiff y prentisiaid eu cyflogi’n uniongyrchol.”
Y nod yw recriwtio 20 o brentisiaid newydd bob blwyddyn ac mae Anelu’n Uchel wedi sicrhau llwyddiant o 100% wrth drefnu bod tîm yn hwyluso’r drefn o sicrhau gwaith gyda gwahanol gyflogwyr a delio ag unrhyw broblemau wrth iddynt godi.
“Mae Anelu’n Uchel yn batrwm gwych o gydweithio,” meddai Matthew Tucker, pennaeth cynorthwyol Coleg y Cymoedd. “Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r Rhaglen Brentisiaethau wedi gweithio gyda phrentisiaid ar wahanol lwybrau dysgu, gan ddatblygu cynllun Rhannu Prentisiaethau sy’n cydweithio â dros 30 o gyflogwyr mewn ardal lle nad oedd dim cyswllt â phrentisiaethau.
“Oherwydd llwyddiant y rhaglen, mae Anelu’n Uchel yn un o brif brosiectau’r sector.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.
“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”
More News Articles
« Ceris, y prentis peirianneg â’i llygaid ar yrfa gyffrous yng Ngwynedd — Gobaith am wobr i gwmni sy’n meithrin peirianwyr medrus »