Becws Brød yn cael blas ar lwyddiant diolch i Brentisiaid

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Sefydlydd Brød, Betina Skovbro, gyda’r staff y tu mewn i’r becws Daneg.

Dydi becws a siop goffi Daneg poblogaidd yng Nghaerdydd, Brød, ddim wedi edrych yn ôl ers iddynt gyflogi eu prentisiaid cyntaf yn fuan ar ôl agor y busnes bedair blynedd yn ôl.

Sefydlwyd Brød (The Danish Bakery Ltd), ar Wyndham Crescent yn ardal Pontcanna, gan Betina Skovbro. Ar hyn o bryd mae gan y busnes ddau brentis ac mae’n tyfu’n gyson, 26% yn 2017, 19% yn 2018 a disgwylir 10% eleni. Mae’n ailfuddsoddi ei elw ac yn bwriadu ehangu yn y dyfodol.

Mae’r busnes wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Un o Copenhagen yw Betina a sylwodd ar fwlch yn y farchnad am fecws a siop goffi’n cynhyrchu ac yn gwerthu bara, tartenni a chacennau Daneg.

A hithau’n un o bedwar pobydd yno, mae’n cyflogi dau oruchwyliwr blaen tŷ a 10 aelod o staff llawn amser, rhan amser a phenwythnos gan fod Brød ar agor chwe diwrnod yr wythnos erbyn hyn.

Prinder pobyddion medrus ac awydd i hyfforddi gweithwyr mewn technegau pobi Daneg a symbylodd Betina i gyflwyno Prentisiaethau Sylfaen a Phrentisiaethau mewn Hyfedredd yn Sgiliau’r Diwydiant Pobi, a ddarperir gan Hyfforddiant Cambrian.

Anogir y prentisiaid i roi cynnig ar syniadau newydd ac yn eu plith roedd torth surdoes Pappa G, Taste of India, a enillodd wobr Torth Orau Prydain yn nosbarth arloesi gornest Britain’s Best Loaf eleni.

“Erbyn hyn, mae prentisiaethau’n rhan greiddiol o’n busnes,” meddai Betina. “Rydym wedi gweld drosom ein hunain gymaint mae ein prentisiaid wedi datblygu, eu sgiliau a’u hyder wedi cynyddu a hwythau wedi tyfu fel pobl.

“Mae’r rhaglen brentisiaethau wedi sicrhau bod gan y busnes yr hyder a’r gallu i dyfu. Heb y rhaglen, fydden ni ddim yma.”

Dywedodd Chris Jones, Pennaeth Uned Fusnes Bwyd a Diod Hyfforddiant Cambrian: “Mae Brød yn enghraifft wych o’r ffordd y gall rhaglen brentisiaethau helpu busnes ac mae Betina yn un o’r cyflogwyr mwyaf brwd a welsom erioed. ”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Brød a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —