Prentis yn sicrhau gwell gwasanaethau profedigaeth yn y pandemig

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Bethany Mason, gwella gwasanaethau yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb o dan amgylchiadau anodd wedi helpu Bethany Mason i ragori yn ei gwaith fel swyddog gwasanaethau profedigaeth, yn ôl ei rheolwr.

Ers i’r ferch ifanc swil ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel prentis clerc mewnbynnu data yn 2016, mae Bethany, 21, wedi llwyddo i oresgyn nifer o heriau anodd, gan wneud gwahaniaeth enfawr i staff Amlosgfa Glyn-taf ger Pontypridd a’r teuluoedd galarus sy’n defnyddio’r amlosgfa.

Mae Bethany wedi ymroi i’w datblygiad personol, gan gwblhau Prentisiaeth Sylfaen ac, erbyn hyn, mae bron â chwblhau NVQ lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, y ddau gymhwyster wedi’u darparu gan Goleg y Cymoedd, Campws Nantgarw.

Yn awr, mae Bethany wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Trwy gydweithio’n agos â’i rheolwr, Ceri Pritchard, mae Bethany wedi meithrin sgiliau arwain ac wedi helpu i sicrhau bod Amlosga Glyn-taf yn rhedeg yn esmwyth trwy ddigideiddio a chanoli cofnodion claddu a chynlluniau mynwentydd ar gyfer mynwentydd Rhondda Cynon Taf.

Yn ogystal, helpodd i gyflwyno porth digidol i ganfod cerddoriaeth ar gyfer gwasanaethau amlosgi, ynghyd â gweddarllediadau a theyrngedau gweledol. Bu’r rhain yn eithriadol o bwysig wrth gynnal angladdau o dan gyfyngiadau’r pandemig.

Mae ei gwaith wedi helpu’r amlosgfeydd i redeg yn fwy effeithlon ac wedi helpu trefnwyr angladdau a phobl sy’n ymchwilio i hanes eu teulu.

Ychydig ar ôl iddi gael secondiad i’r tîm gwasanaethau profedigaeth yn Amlosgfa Llwydcoed, aeth dau o gydweithwyr Bethany’n sâl a bu’n rhaid iddi ddysgu sgiliau newydd yn gyflym er mwyn iddi hi a’i rheolwr allu rheoli’r llwyth gwaith cymhleth a chynnig gwasanaeth da a dymunol i deuluoedd.

“Yn ogystal â rhoi’r sgiliau i mi wneud fy ngwaith mewn ffordd broffesiynol a chydwybodol, mae’r brentisiaeth wedi fy helpu i ddatblygu’n bersonol a delio â gwahanol sefyllfaoedd,” meddai Bethany, sy’n byw yn Llantrisant.

“Mae wedi rhoi hwb enfawr i fy hyder, fy hunan-fri a’m sgiliau ac rwy’n ymfalchio yn safon fy ngwaith.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —