
NTFW yn galw ar y Prif Weinidog i adfer cyllid prentisiaethau
Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn galw ar y Prif Weinidog Eluned Morgan i ddad-wneud y toriad o 14% a wnaeth Llywodraeth Cymru i gyllid ei Rhaglen Brentisiaethau arloesol.

Emma Bendle, cydlynydd prentisiaethau ac ehangu mynediad (canol) a staff a phrentisiaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Ysgrifennodd Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol yr NTFW a Dr Barry Walters, cadeirydd Grŵp Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd ColegauCymru, lythyr ar y cyd at y Prif Weinidog yn pwysleisio’r “rhan hollbwysig” mae prentisiaethau’n ei chwarae wrth ddatblygu gweithlu medrus.
Mae’r llythyr yn nodi bod y pryderon difrifol a godwyd gan gyflogwyr, y CBI a’r Ffederasiwn Busnesau Bach ynghylch maint y toriad yn y cyllid yn cael eu gwireddu erbyn hyn.
Roeddent yn datgan bod y toriadau wedi:
- Lleihau cyfleoedd i bobl ifanc;
- Rhoi mwy o straen ar gyflogwyr;
- Effeithio ar rannau allweddol o’r economi a’r sector cyhoeddus;
- Amharu ar weithlu proffesiynol darparwyr dysgu;
- Effeithio’n benodol ar Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Er bod cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd, aeth Llywodraeth Cymru ymlaen â’r toriad “digynsail” o 14% yn y cyllid ar gyfer 2024-25, a fyddai’n arwain at oblygiadau economaidd hirdymor i Gymru.
“O ystyried yr effeithiau sylweddol hyn, mae’n hanfodol ein bod yn symud tuag at adfer cyllid i’r gyllideb brentisiaethau am weddill tymor y Senedd hon,” dywed y llythyr. “Byddai toriadau pellach yn eithriadol o niweidiol.
“Trwy adfer y cyllid a pharhau i ganolbwyntio ar lwybrau i waith, gallwn sicrhau bod prentisiaethau’n dal yn rhaglen o bwys i Lywodraeth Cymru ac yn dal i chwarae rhan hanfodol yn cynnal blaenoriaethau’r llywodraeth, fel gostwng diweithdra, hybu symudedd cymdeithasol a meithrin datblygiad economaidd.
“Rydym yn hyderus y gallwn gydweithio o dan eich arweiniad chi i adfer a gwella ein rhaglenni prentisiaethau, gan ddarparu’r cyfleoedd y mae ar bobl ifanc eu hangen i lwyddo a chyfrannu at les cyffredinol ein cymdeithas.
“Mae’r Rhaglen Brentisiaethau’n helpu i greu Cymru fwy cyfartal, yn sbarduno twf economaidd cynaliadwy ac yn sylfaen ar gyfer llawer o’n gwasanaethau cyhoeddus allweddol, fel y GIG.
“Mae’n anochel y bydd gweithlu llai medrus yn arwain at ostyngiad mewn cynhyrchiant, cyflogau is a llai o dwf economaidd. Mae buddsoddi mewn prentisiaethau’n golygu buddsoddi yn ffyniant y dyfodol.”
Yr NTFW yw llais darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru ac mae’n dal i godi llais dros eu hanghenion.
“Wrth ymwneud â llunwyr polisi yn ddiweddar roeddem yn canolbwyntio ar ddadlau dros gyllid cynaliadwy a chymorth rheoleiddiol i wella rhaglenni prentisiaeth,” esboniodd Lisa.
“Mae’r NTFW yn atgyfnerthu partneriaethau ag arweinwyr diwydiant er mwyn gwella ansawdd prentisiaethau a’u gwneud yn fwy perthnasol. Wrth gydweithio â busnesau ein nod yw sicrhau bod hyfforddiant yn ateb anghenion y gweithlu, a bod prentisiaid yn dysgu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
“Wrth i ni symud ymlaen, mae’r NTFW yn dal i ymroi i gefnogi’n haelodau trwy eiriolaeth, adnoddau a chydweithio. Rydym yn gwahodd aelodau i gynnig barn a syniadau am y ffordd rydym yn cydweithio i gryfhau sefyllfa prentisiaethau.
Diolchodd i aelodau’r NTFW am ddal ati i ymroi i hyfforddiant ragorol i brentisiaid yng Nghymru a dywedodd eu bod yn cael cryn effaith ar weithlu’r dyfodol.
Yn ddiweddar cyfarfu’r NTFW, Deiliaid Contractau a Gomisiynwyd a chynrychiolwyr ColegauCymru â thimau Medr a staff Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am raglenni prentisiaethau a cyflogadwyedd i drafod cydweithio a heriau’r dyfodol.
Ar 18 Medi, cynhaliwyd cyfarfod o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Brentisiaethau mewn partneriaeth â ColegauCymru. Bu aelodau Bwrdd NTFW a phenaethiaid colegau’n holi Simon Pirotte, prif weithredwr Medr a’i dîm am ffyrdd newydd o weithio, ariannu a chontractio a dyfodol sgiliau a phrentisiaethau.
Ymhlith y digwyddiadau sydd ar y gweill mae seminar brecwast NTFW gyda rhanddeiliaid ym mis Tachwedd.
More News Articles
« “Mae’r cwrs hwn wedi fy nghymell ymhell y tu hwnt i’r hyn roeddwn i’n ei ddisgwyl” — Dyfarnu cyllid Sgiliau a Thalent i brosiectau yn y De-orllewin »