Prentisiaethau’n allweddol i gynnal llwyddiant cwmni

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rheolwr gyfarwyddwr Cambria Maintenance Services, Peter Jackson gyda phrentisiaid, Alex Carter, Jake Kivell a Jack Glynn, yn swyddfa ranbarthol y cwmni yn Ewlo.

Bu buddsoddi yn natblygiad y gweithlu a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn hanfodol i lwyddiant Cambria Maintenance Services sy’n gwneud gwaith cynnal a chadw ar dros 12,000 o dai ledled Cymru.

Mae gan y cwmni swyddfeydd yng Nghaerdydd ac yn Ewlo, Glannau Dyfrdwy, a dros 160 o staff, yn cynnwys 16 o brentisiaid sy’n allweddol i lwyddiant y busnes.

Cwmni cyfyngedig annibynnol sy’n cael ei redeg fel menter gymdeithasol yw Cambria ac mae’n rhan o Grŵp Tai Wales & West. Mae wedi cyflogi 37 o brentisiaid dros y 10 mlynedd diwethaf a’r bwriad yw cyflogi rhagor ohonynt fel rhan o gynllun treigl pum mlynedd.

Mae Coleg Cambria a Choleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw ynghyd â Phrentisiaethau mewn Gosod Systemau ac Offer Electrodechnegol a Gwaith Plymwr a Gwresogi ar gyfer cwmni Cambria.

Oherwydd ymroddiad y cwmni i brentisiaethau, mae wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Yn ogystal â thwf yn nifer y prentisiaid sy’n gweithio i Cambria, gwelwyd twf yn y busnes ei hunan hefyd, gyda’r trosiant yn cynyddu o £2.7 miliwn yn ei flwyddyn gyntaf i £12.07m yn 2019.

Gall Grŵp Tai Wales & West ymfalchïo ei fod wedi cael yr achrediad uchaf, tair seren, gan “Best Companies”, sy’n arwydd o lefel ‘eithriadol’ o ymgysylltiad â’r staff yn y gweithle.

Mae’r cwmni’n gwerthfawrogi syniadau ffres, egni, brwdfrydedd ac ymroddiad y prentisiaid ac mae eu hymateb nhw’n help i wella’r Rhaglen Brentisiaethau.

Mae pob prentis yn cael mentor ar gyfer y daith ddysgu ac, os oes ar brentisiad angen cefnogaeth ychwanegol, e.e. os oes dyslecsia arnynt, rhoddir iPad â rhaglenni pwrpasol iddynt.

Yn ddiweddar, lansiwyd prosiect i ddatblygu staff yn fewnol trwy Grŵp Tai Wales & West er mwyn ceisio ailadrodd lwyddiant Rhaglen Brentisiaethau Cambria.

Dywedodd Peter Jackson, rheolwr gyfarwyddwr Cambria: “Mae’r Rhaglen Brentisiaethau wir yn adlewyrchu ein gweledigaeth o ‘wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau’ pobl yng Nghymru.”

Ac meddai Mark Breeze, o Goleg Cambria: “Mae Cambria Maintenance Services wir yn malio am ei brentisiaid ac yn esiampl i eraill ei dilyn.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.
 
“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.
 
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
 
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —