
Cyhoeddi rhestr fer rownd derfynol gwobrau blynyddol cwmni hyfforddi blaenllaw

Enillwyr Gwobrau Prentisiaeth Cyflogaeth a Sgiliau y llynedd â rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Faith O’Brien.
Bydd cyflogwyr, dysgwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru sydd wedi rhagori mewn rhaglenni prentisiaethau y mae Cwmni Hyfforddiant Cambria yn eu darparu, a’i isgontractwyr, yn cael eu dathlu mewn swper gwobrwyo fis nesaf.
Bydd saith-ar-hugain sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol – tri ym mhob categori – yn cystadlu am Wobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau eleni y mae’r cwmni o’r Trallwng yn eu trefnu, sef un o brif ddarparwyr dysgu yn y gwaith yng Nghymru.
Cynhelir y gwobrau mawreddog yng Ngwesty a Sba’r Metropole yn Llandrindod ar 3 Mehefin, a byddant yn dathlu cyflawniadau rhagorol prentisiaid, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu yn y gwaith sydd wedi ymrwymo i brentisiaethau.
Roedd gan dîm o feirniaid annibynnol y dasg anodd o greu rownd derfynol mewn naw categori o blith y nifer uchaf erioed o geisiadau.
Mae Clybiau Plant Cymru o Gaerdydd wedi cyrraedd y rownd derfynol tair gwaith, gan gynnwys dwywaith yn yr un categori, a bydd gweithwyr Whitbread Premier Inn, Bangor yn cystadlu am ddwy wobr.
Yn cystadlu am Wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn mae Cameron Long, gweinydd gwasanaethau cymorth glanhau ag Elite Clothing Solutions, Glynebwy; Josh Williams, derbynnydd yn Whitbread Premier Inn, Bangor a Leanne Barratt, cogydd yn Miller & Carter Mitchell & Butler, Cilâ.
Y rheiny sydd wedi rownd derfynol Gwobr Prentis y Flwyddyn yw Deanne Rance, rheolwr ardal Lonetree-McDonalds, Casnewydd; Cai Watkins, pennaeth contract uned busnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y Trallwng a Jodie Bowater, rheolwr gwesty Whitbread Premier Inn, Bangor.
Y rheiny sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yw Ashley Richards, rheolwr cyffredinol Peppermint Caerdydd; Keri-Ann Evans, prif gogydd Bluestone, Arberth a Matthew Verallo, rheolwr gweithrediadau Tŷ Milford Waterfront y Casgliad Celtaidd, Aberdaugleddau.
.
Yn ceisio cydnabyddiaeth yng nghategori Gwobr Unigolyn Eithriadol y Flwyddyn mae Rachael Bowles, arweinydd tîm yr ystafell gymysgu ar gyfer Hilltop Honey, y Drenewydd; Aaron Jones gweinydd yn Nhafarn Penycae, Penycae, ger Abertawe a Denise Hodson, gweithiwr chwarae yng Ngofal Plant Little Disciples, Penymynydd, Sir y Fflint.
Mae cyflogwyr o Gymru yn cystadlu’n frwd mewn tri chategori. Y rheiny sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yw Silver Assist Homecare, Llangors, Aberhonddu; Tŷ Nasareth, Caerdydd ac Interplay, Penlan, Abertawe.
Mae Gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yn dwyn ynghyd Marchnad Filco, Llanilltud Fawr, De Morgannwg; Voco Dewi Sant Caerdydd a The Grove, Arberth. Y rheiny sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yw Kepak, Merthyr Tudful; Urdd Gobaith Cymru ac Achieve Together, Caerdydd.
Mae dau gydweithiwr o Glybiau Plant Cymru – Phoebe Wilson, prif swyddog hyfforddi a Catherine Smith, swyddog hyfforddi – ynghyd â Samantha James, rheolwr bwyty yn Millie & Sid’s, Tywyn wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Llysgenhadon y Gymraeg. Mae’r wobr hon yn cydnabod pobl sy’n hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Y rheiny sydd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith yw Elfed Wood o Hyfforddiant Portal, Caerdydd; Sean Williams o Ymgynghori Sgiliau Sirius Skills, Aberpennar a Sarah Bird o Glybiau Plant Cymru, Caerdydd.
Dywedodd Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian:
“Rydym wrth ein bodd â’r cynnydd rhyfeddol yn nifer ac ansawdd y ceisiadau am wobrau eleni, ac estynnwn ein diolch diffuant i’r holl gyfranogwyr.
“Bydd y seremoni wobrwyo, sydd ar ddod y mis nesaf, yn dathlu straeon llwyddiant ysbrydoledig y rheiny sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Dyma gyfle i anrhydeddu’r prentisiaid a’r cyflogwyr yn ogystal â phawb sydd wedi eu cefnogi ar eu taith.
“Gyda’i gilydd, maent yn chwarae rôl hanfodol wrth yrru economi Cymru ymlaen, â phrentisiaethau yn gwasanaethu fel y safon aur ar gyfer dysgu yn y gwaith.”
More News Articles
« Talent sgiliau gorau Cymru yn cystadlu yn erbyn goreuon Ewrop yn EuroSkills 2025 — Cymru a Chatalwnia’n cyfnewid syniadau ym maes hyfforddiant »