
Sut i Osgoi ein Pobl Ifanc Rhag dod yn NEET

Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn hyrwyddo prentisiaethau yn y Ffair Prentisiaethau a gynhelir yn y Senedd yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.
Roedd cyfraddau pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET) ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yn 10.7% ym mis Medi 2024. O’r grŵp hwn, unigolion 24 oed a hŷn oedd â’r cyfraddau NEET uchaf, sef 18.8% (gov.wales).
Mae ymchwil ddiweddar yn y DU, a gomisiynwyd gan Grant Thornton UK LLP, wedi canfod, er bod cydnabyddiaeth gynyddol o’r manteision y gall prentisiaeth eu cynnig i bobl sy’n gadael yr ysgol, nid yw bron i un o bob pump (19%) o’r bobl ifanc a arolygwyd yn credu eu bod wedi derbyn cyngor gyrfa dda am brentisiaethau. Roedd y rhan fwyaf hefyd yn teimlo pwysau i fynd i’r brifysgol, gyda rhieni ac athrawon yn cael eu nodi fel y prif reswm. Dim ond ychydig dros un o bob pump (22%) sy’n ystyried neu, ar hyn o bryd, yn gwneud prentisiaeth i blant sy’n gadael ysgol.
Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi lansio ymchwiliad i Lwybrau i Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 yn ddiweddar. Mae’r ymchwiliad hwn yn archwilio ansawdd y wybodaeth a ddarperir i ddysgwyr am yr ystod lawn o opsiynau ôl-16 yng Nghymru; Pa mor effeithiol yw cymorth gyrfa ar oedran ysgol orfodol; Newidiadau mewn llwybrau ôl-18; Darpariaeth cyfrwng Cymraeg; Cydraddoldeb mynediad; Data cyrchfannau ôl-16 a rôl Llywodraeth Cymru.
Mae Hyfforddiant Cambrian yn croesawu, ac wedi cyfrannu at yr ymchwiliad.
Dywedodd Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae bwlch sylweddol o hyd yn yr ansawdd a’r gweithgareddau marchnata ar y cyd rhwng ysgolion, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i hyrwyddo prentisiaethau yn effeithiol. Mae’r bylchau hyn wedi’u priodoli i ddiffyg ymwybyddiaeth ymhlith swyddogion gyrfaoedd mewn ysgolion ac amharodrwydd i gynnig prentisiaethau fel opsiwn hyfyw i ddisgyblion, waeth beth fo’u cyrhaeddiad academaidd.”
Mae hi’n credu bod arfer dda ar gyfer hyrwyddo prentisiaethau yn cynnwys ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr i adeiladu perthnasoedd gweithredol a strategol wrth fuddsoddi yn y sector.
“Mae nifer o gyflogwyr yng Nghymru wedi llwyddo i ymgorffori prentisiaethau yn eu llwybrau gyrfa, gan eu gwneud yn elfen hanfodol o’u strategaethau recriwtio a chadw. Fel prif ddarparwr prentisiaethau seiliedig ar waith mewn Lletygarwch a Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod, mae Hyfforddiant Cambrian wedi adeiladu perthnasoedd cryf ar bob lefel o fewn strwythurau cyflogwyr, gan alluogi dealltwriaeth ddofn o’u hanghenion busnes a sicrhau bod rhaglenni prentisiaethau yn cael eu hoptimeiddio i gyd-fynd â’u modelau cyflawni,” meddai.
Mae Hyfforddiant Cambrian hefyd yn cefnogi mentrau gyrfa sydd wedi’u hanelu at blant ysgol a’u rhieni i godi ymwybyddiaeth, gwybodaeth a diddordeb mewn prentisiaethau. Mae’r cwmni’n mynychu ffeiriau prentisiaethau a gyrfaoedd ledled Cymru. Maent yn noddi Cymdeithas Goginiol Cymru a Phencampwriaethau Coginiol Rhyngwladol Cymru sy’n cynnwys cystadlaethau i roi cyfle i bobl ifanc troi eu llaw a dysgu mwy am y diwydiant a chyfleoedd gwaith. Mae Hyfforddiant Cambrian hefyd yn cydweithio â Menter a Busnes a Tasty Careers mewn rhaglenni Bwyd a Diod yn yr ysgol sy’n hyrwyddo gyrfaoedd mewn lletygarwch a bwyd a diod.
“Mae’n hanfodol bod pobl ifanc, eu rhieni a’u hathrawon yn cael mynediad at yr holl wybodaeth am y gwahanol opsiynau addysg sydd ar gael. Mae angen cydraddoldeb parch rhwng y llwybrau academaidd a galwedigaethol arnom. Felly, gall ein pobl ifanc wneud penderfyniadau gwybodus sy’n arwain at yrfaoedd gydol oes lwyddiannus.”
More News Articles
« Adeiladu Gweithlu Medrus: Rôl Cystadleuaeth Sgiliau Cymru mewn Hyfforddiant Galwedigaethol — Rhaglen Aspire 2Be yn Helpu Dysgwraig i Gael Swydd Cynorthwyydd Addysgu »