Sgiliau, Prentisiaethau a Chyfle: Sicrhau Dyfodol Lletygarwch yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Training officers demonstrating skills to students

Swyddogion Hyfforddiant Lletygarwch CHC yn rhannu eu sgiliau coginio i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr

Mae sector lletygarwch yng Nghymru yn llywio un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus yn ei hanes modern. Er gwaethaf ei rôl ganolog i economi’r genedl – gan gyfrannu £3.8 biliwn at werth ychwanegol gros a chefnogi miloedd o swyddi – mae’r sector o dan straen sylweddol.

Mae costau cynyddol, galw cwsmeriaid sy’n lleihau ac amgylchedd treth heriol wedi gwthio llawer o fusnesau i’r hyn y mae arweinwyr y diwydiant yn ei ddisgrifio fel “modd goroesi”. Ond, yng nghanol y pwysau hwn, mae sgiliau a phrentisiaethau dysgu seiliedig ar waith yn cynnig llwybr pwerus i wydnwch, twf, a rhagoriaeth hir dymor.

Sector Dan Bwysau Difrifol
Mae sector lletygarwch Cymru yn wynebu argyfwng ariannol cynyddol. Mae costau bwyd i lawer o weithredwyr wedi dyblu neu dreblu, mae costau ynni yn parhau i fod hyd at dair gwaith yn uwch na chyn yr argyfwng, ac mae costau cyflogres yn parhau i gynyddu. Mae Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27 wedi ychwanegu pwysau pellach, gyda UKHospitality Cymru yn rhybuddio am gynnydd o £122 miliwn mewn ardrethi busnes dros dair blynedd – naid o 63% y mae nifer yn dweud na allent ei amsugno.

Ar yr un pryd, mae cwsmeriaid yn gwario llai. Mae dros draean o aelwydydd y DU yn bwyta allan llai, ac mae’r rhai sy’n bwyta allan yn cyfyngu ar bethau ychwanegol, yn ôl adroddiad ‘GB Dining Out 2025’ YouGov. I nifer o weithredwyr Cymru, mae’r wasgfa hon ar gostau a refeniw eisoes yn gorfodi busnesau i leihau oriau staff, leihau nifer y staff, ac mewn rhai achosion, mae perchenogion yn mynd heb dâl i gadw eu drysau ar agor.

Sgiliau a Phrentisiaethau: Achubiaeth i’r Sector
Er gwaethaf y pwysau sy’n wynebu’r sector, mae lletygarwch yn parhau i fod yn un o gynhyrchwyr sgiliau cryfaf yng Nghymru. Mae’n cynnig swyddi lefel mynediad hygyrch, llwybrau gyrfa glir, a phrentisiaethau o ansawdd uchel sy’n meithrin sgiliau hanfodol mewn gwasanaeth cwsmeriaid, systemau digidol, cynhyrchu bwyd ac arweinyddiaeth – galluoedd sydd o fudd i economi ehangach Cymru, nid y sector ei hun yn unig.

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i hepgor cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar gyfer prentisiaid dan 25 oed yn gam gwirioneddol ddefnyddiol. Ar adeg o gostau cyflogres gynyddol, mae’r rhyddhad hwn yn lleddfu pwysau ariannol ac yn cefnogi buddsoddiad parhaus mewn talent ifanc. Fel y dywed Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian: “Mae’r rhyddhad yswiriant gwladol hwn yn un o’r ychydig fesurau sy’n wirioneddol yn helpu cyflogwyr i gadw prentisiaid yn y busnes. Ar adeg pan mae pob ceiniog yn cyfrif, mae’n achubiaeth sy’n amddiffyn hyfforddiant ac yn diogelu swyddi.”

Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar nifer y llefydd prentisiaeth yng Nghyllideb Cymru ar gyfer 2025/26 mewn perygl o atal y cynnydd hwn. Pan fydd cyllidebau yn tynhau, hyfforddiant yn aml yw’r dioddefwr cyntaf – gan wanhau’r llif sgiliau hirdymor y mae’r sector yn dibynnu arno. Mae buddsoddiad parhaus mewn dysgu seiliedig ar waith yn hanfodol os yw Cymru am gynnal gweithlu lletygarwch gwydn o ansawdd uchel.

Mae gan y sector gyfle prin o’i flaen hefyd: bydd Cymru’n cynnal Cyngres ac Expo WorldChefs ym mis Mai 2026, gan roi lletygarwch a bwyd a diod Cymru ar lwyfan byd-eang ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent. Fel y mae Faith O’Brien yn nodi, “dim ond os yw Cymru’n parhau i fuddsoddi nawr yn y sgiliau a fydd yn llunio dyfodol y sector y gellir manteisio ar y platfform unwaith mewn cenhedlaeth.”

Adeiladu dyfodol cryfach
Mae’r heriau sy’n wynebu lletygarwch Cymru o ddifri ac ar frys – ond mae pwysigrwydd yr heriau yn mynd ymhell y tu hwnt i fusnesau unigol. Mae hwn yn sector sy’n sail i economïau lleol, yn cefnogi lles cymunedol ac yn darparu un o lwybrau mwyaf effeithiol Cymru i gyflogaeth fedrus, hirdymor. Gyda buddsoddiad parhaus mewn prentisiaethau, sgiliau a dysgu seiliedig ar waith – gyda chefnogaeth rhyddhad ariannol wedi’i dargedu – gall lletygarwch barhau i gefnogi iechyd economaidd Cymru a ffyniant yn y dyfodol. Mae gan Gymru y dalent a’r cyfle; yr hyn sydd ei angen nawr yw’r ymrwymiad hirdymor i ddatblygu’r gweithlu sy’n cadw’r diwydiant hanfodol hwn yn gryf.

Hyfforddiant Cambrian

Yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —