Cynhwysiant mewn Prentisiaethau: Creu Gyrfaoedd, Annibyniaeth a Chyfleoedd ledled Cymru
English | Cymraeg

Amber Spellman a Morgan Griffiths yn eu seremoni raddio gyda’u Swyddog Hyfforddiant CHC, Gemma Wilkins a Christine Grayson.
I lawer o unigolion sydd ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol, gall y daith i gyflogaeth fod yn heriol. Yn rhy aml, nid yw cyfleoedd a chymorth yn arwain at gyflogaeth gynaliadwy na llwybrau gyrfa glir. Yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC), credwn y dylai pawb gael y cyfle nid yn unig i gael mynediad i’r gweithle, ond i adeiladu gyrfa lwyddiannus, hirdymor.
Mae’r gred honno wrth wraidd ein Rhaglen Prentisiaethau a Rennir â Chymorth, a ddarperir mewn partneriaeth ag Agoriad Cyf ac Elite Training Services. Sefydlwyd y rhaglen yn 2022 cynlluniwyd i gael gwared ar rwystrau i gyflogaeth i unigolion ag anableddau a’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r brentisiaeth yn darparu cymorth wedi’i deilwra, cymwysterau cydnabyddedig a chyfleoedd gweithle go iawn sy’n arwain at gyflogaeth gynaliadwy.
Yr hyn sy’n wneud y Rhaglen Prentisiaethau a Rennir â Chymorth yn wahanol yw ei ffocws ar gyflogaeth hirdymor a chanlyniadau sgiliau. O’r cychwyn cyntaf, nid ddarparu cyflogaeth yn unig yw’r amcan, ond helpu dysgwyr i ennill y sgiliau, yr hyder a’r cymwysterau sydd eu hangen i sicrhau annibyniaeth gynyddol.
Mae’r rhaglen yn cyfuno hyfforddiant prentisiaeth â chymorth personol, gan gynnwys Cynlluniau Dysgu Unigol, arweiniad un-i-un, hyfforddiant swydd, cymorth bugeiliol a chymorth arbenigol gan weithwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol proffesiynol. Mae cyflogwyr hefyd yn cael eu cefnogi i greu gweithleoedd cynhwysol trwy gyngor ar addasiadau rhesymol ac arfer gorau, gan sicrhau bod prentisiaid yn cael pob cyfle i lwyddo.
Nodwedd arbennig o arloesol o’r rhaglen yw ei model lleoliad a rennir, sy’n galluogi prentisiaid i ennill profiad gwaith ar draws gwahanol leoliadau wrth leihau risgiau canfyddedig. Mae’r dull hwn yn ehangu profiad dysgwyr, yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy ac yn cynyddu profiadau cyflogaeth.
Mae’r effaith wedi bod yn sylweddol. Ers ei lansio, mae’r rhaglen wedi denu diddordeb cryf gan ddysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru. Hyd yn hyn, mae 24 o ddysgwyr wedi cwblhau eu prentisiaethau ac wedi symud ymlaen i gyflogaeth barhaus neu brentisiaethau llawn. Mae’r cyflawniadau hyn yn dangos y gall unigolion ag anawsterau dysgu ac anableddau ffynnu yn y gweithle a gwneud cyfraniad gwerthfawr i fusnesau a chymunedau.
Mae llwyddiant y rhaglen i’w ddangos orau trwy straeon ei phrentisiaid.
Cwblhaodd Amber Spellman, o’r Rhyl, ei Phrentisiaeth a Rennir â Chymorth Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Ysbyty Glan Clwyd. Ers hynny mae wedi sicrhau swydd amser llawn fel Cynorthwyydd Fferylliaeth gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, lle mae bellach yn helpu i hyfforddi gweithwyr newydd ar system trefnu presgripsiynau roboteg y fferyllfa.
Mae taith Amber yn enghraifft bwerus o sut y gall prentisiaethau darparu llwybr gwirioneddol i gyflogaeth ac annibyniaeth. Wrth fyfyrio ar ei chyflawniad, dywedodd: “Rwy’n teimlo’n falch iawn ohonof fy hun. Fy neges i bobl fel fi yw byth rhoi’r gorau iddi.”
Cwblhaodd Morgan Griffiths, o Ben-y-bont ar Ogwr, ei Brentisiaeth a Rennir â Chymorth Lefel 2 mewn Manwerthu ac mae bellach yn gweithio i’r Co-op ym Mracla. Trwy ei brentisiaeth, datblygodd Morgan hyder, sgiliau cyfathrebu a mwy o annibyniaeth yn y gweithle wrth ddod yn aelod gwerthfawr o’r tîm.
Mae ei brofiad yn pwysleisio pwysigrwydd cynnig cymorth strwythuredig a chyfleoedd dilyniant clir sy’n caniatáu i unigolion ddatblygu eu cryfderau ac adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil.
Enghraifft ysbrydoledig arall yw Cameron Vernon-Long, sy’n awtistig, niwroamrywiol, yn defnyddio mewnblaniad yn y cochlea ac yn profi heriau symudedd. Trwy’r rhaglen, cyflawnodd Cameron prentisiaeth Gwasanaethau Glanhau Masnachol a Gwasanaethau Cymorth Lefel 2 a sicrhaodd cyflogaeth gydag Elite Clothing Solutions.
Ochr yn ochr â’i gymhwyster, datblygodd Cameron ei hyder, dysgodd deithio’n annibynnol ac enillodd gymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol. Trwy ei benderfyniad a’i lwyddiant enillodd wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau, Sgiliau a Chyflogwyr Hyfforddiant Cambrian 2025.
Mae stori Aaron Jones yn dangos ymhellach pŵer trawsnewidiol prentisiaethau cynhwysol. Ar ôl cael diagnosis o awtistiaeth yn ifanc, ymunodd Aaron â Penycae Inn fel cynorthwyydd cegin dawel a oedd yn cael trafferth gyda hyder a chyfathrebu.
Gyda chefnogaeth ei gyflogwr a’i raglen brentisiaeth, cwblhaodd Aaron ei gymwysterau lletygarwch a symudodd ymlaen i gwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch. Heddiw, mae’n fentor i’w gydweithwyr, yn cefnogi gweithrediadau blaen y tŷ ac yn cael ei gydnabod am ei broffesiynoldeb a’i wasanaeth cwsmeriaid. Mae hefyd wedi cynrychioli prentisiaethau yn y Senedd, wedi cyflwyno prif areithiau, wedi rhoi cyfweliadau ar BBC Radio Cymru ac wedi dod yn llysgennad uchel ei barch ar gyfer dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.
Mae cyflawniad Aaron wedi cael ei gydnabod trwy ennill y wobr ‘Skills for Work’ yng Ngwobrau Inspire! Adult Learning 2026 a chael ei enwi’n Brentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau, Sgiliau a Chyflogwyr Hyfforddiant Cambrian 2026.
Mae llwyddiant Aaron yn dangos bod prentisiaeth yn fwy na chymhwyster yn unig. Maent yn adeiladu hyder, yn datblygu sgiliau arwain ac yn creu cyfleoedd i unigolion gyflawni eu potensial llawn.
Mae llwyddiant y Rhaglen Prentisiaethau a Rennir â Chymorth wedi bod yn bosibl trwy ymrwymiad staff ar draws Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Agorid Cyf ac Elite Training Services. Mae swyddogion hyfforddiant, hyfforddwyr cymorth ac arbenigwyr ADY yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr i ddarparu cymorth cydgysylltiedig sy’n mynd i’r afael ag anghenion a dyheadau unigol dysgwyr.
Yn bwysig, mae’r rhaglen o fudd i bawb. Mae dysgwyr yn magu hyder, annibyniaeth a gyrfaoedd cynaliadwy. Mae cyflogwyr yn cael mynediad at unigolion llawn cymhelliant a thalentog sy’n dod â sgiliau a safbwyntiau gwerthfawr i’w sefydliadau. Mae cymunedau yn elwa o fwy o gyfleoedd gwaith, llai o ynysu cymdeithasol a gweithlu mwy cynhwysol.
Wrth i Gymru ceisio mynd i’r afael â phrinder sgiliau a chreu economi cryfach a mwy cynhwysol, mae gan raglenni megis y Rhaglen Prentisiaethau a Rennir â Chymorth rôl hanfodol i’w chwarae. Maent yn dangos y gall pobl ag anawsterau dysgu ac anableddau gyflawni canlyniadau eithriadol pan fydd rhwystrau yn cael eu dileu a phan fydd ganddynt gymorth wedi’i deilwra i anghenion unigol.
Mae straeon Amber, Morgan, Cameron ac Aaron yn profi bod talent yn bodoli ym mhobman. Nid her yw dod o hyd i’r dalent ond creu’r cyfleoedd iddo ffynnu. Trwy Brentisiaethau a Rennir â Chymorth, mae dysgwyr yn ennill mwy na phrofiad yn y gweithle yn unig – maent yn ennill cymwysterau, hyder, annibyniaeth ac, yn bwysicach oll, cyflogaeth gynaliadwy a llwybrau gyrfa ystyrlon. Dyna wir fesur rhaglen prentisiaeth gynhwysol a’i heffaith parhaol ar unigolion, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru.
Gan Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
More News Articles
« Prentis Itec yn Profi Nad Oes Diwedd i Gynnydd Pan Fo Gennych Sglerosis Ymledol — Codi Safonau: Pŵer Trawsnewidiol Cystadlaethau Sgiliau ledled Cymru »


