Prentisiaethau a gyrfaoedd dan sylw yn yr Ŵyl Wanwyn CAFC

CSwyddog Hyfforddi Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Andrew Addis-Fuller yn arddangos Sgiliau Coginio Proffesiynol.
Mae cwmni dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru wedi datgan bod eu cyfranogiad yn yr Ŵyl Wanwyn CAFC yn Llanelwedd dros y penwythnos yn llwyddiant mawr.
Fe wnaeth Cwmni Hyfforddiant Cambrian sy’n seiliedig yn y Trallwng, sydd â swyddfeydd ledled Cymru, croesawu mwy na 250 o ymwelwyr ar bob diwrnod o’r digwyddiad i’w pafiliwn ar Faes y Sioe Frenhinol Cymru.
Mynychodd y cwmni’r digwyddiad i roi gwybodaeth i ymwelwyr am gyfleoedd gyrfa yng Nghymru drwy brentisiaethau a hyrwyddo diwydiannau lletygarwch a bwyd a diod Cymru.
Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw darparwyr mwyaf blaenllaw o Brentisiaethau Lletygarwch a Chynhyrchu Bwyd a Diod yng Nghymru. Mae’r cwmni hefyd yn cynnig cymwysterau mewn Busnes a Gweinyddiaeth, Arwain a Rheoli, a Rheoli Adnoddau Cynaliadwy.
Ar ddydd Sadwrn, rhoddodd swyddog hyfforddi coginio proffesiynol y cwmni, Andrew Addis-Fuller, dair arddangosfa coginio i gynulleidfa lawn gyda defnydd o salt beef. Mae’r cynnyrch newydd hwn wedi’i lansio gan fusnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Trailhead Fine Foods, a arddangosodd yn Neuadd Fwyd yr Ŵyl.
Ar ddydd Sul, roedd tro Scott Morgan, swyddog hyfforddi lletygarwch, i gynnal dosbarthiadau meistr ar sut i greu moctels. Yn ogystal â chreu cannoedd o moctels, fe wnaeth yr ymwelwyr bwyta tua 500 o bicau ar y maen a wnaed gan ddefnyddio rysáit cyfrinachol Andrew.
Ymhlith yr ymwelwyr a roddodd ganmoliaeth i Gwmni Hyfforddiant Cambrian a Trailhead Fine Foods ar y prydau salt beef, picau ar y maen, a moctels oedd Marian Owen, gwraig llywydd y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2025 eleni, John R. Owen.
Bydd y cwmni yn rhoi defnydd o’u Pafiliwn Hyfforddiant Cambrian i’r sir nawdd, sef Caernarfon eleni, yn y Sioe Frenhinol o 21-24 Gorffennaf.
Dywedodd Faith O’Brien, Rheolwr Cyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, fod yr Ŵyl yn “positif a llwyddiannus iawn” i’r cwmni.
“Ein nod oedd cefnogi’r Ŵyl, hyrwyddo’r sectorau lletygarwch a bwyd a diod ledled Cymru – a’r holl rolau gwahanol ynddynt – a chodi proffil prentisiaethau fel llwybrau gyrfa lwyddiannus,” meddai.
“Roedd tua 250 o bobl yn ein pafiliwn ar bob un o’r diwrnodau ac roeddent yn edrych i ddeall beth mae prentisiaethau’n gallu ei gynnig.
“Fe wnaethom groesawu llawer o rieni a oedd yn siomedig bod eu plant wedi dewis cyrsiau addysg bellach neu uwch yn lle prentisiaeth ac oeddynt yn methu â dod o hyd i swydd.
“Hefyd, fe wnaeth pennaeth blwyddyn ysgol adnabod yr angen i hyrwyddo prentisiaethau yn well mewn ysgolion fel opsiwn i fyfyrwyr, sy’n rhywbeth rydym wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd.
“Daeth llawer o bobl ifanc i ni am wybod sut y gallent ddechrau ar brentisiaeth. Gobeithio eu bod wedi mynd i ffwrdd gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddod o hyd i gyflogwr sy’n cefnogi prentisiaethau.”
More News Articles
« Cymru a Chatalwnia’n cyfnewid syniadau ym maes hyfforddiant — Gwobrau yn Cydnabod Sêr Prentisiaethau Cwmni Hyfforddi Blaenllaw yng Nghymru »

