Adnodd i godi hyder cyflogwyr wrth gefnogi prentisiaid dwyieithog

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Alaw Dafydd, Swyddog Datblygu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae datblygiadau cyffrous o’n blaenau yn maes prentisiaethau, ac mae’n bwysig felly, bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydweithio’n agos gyda’r llywodraeth, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr i sicrhau ein bod yn cefnogi’r twf disgwyledig a ddaw wrth gynyddu capasiti mewn prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

Prosiect cyffrous sydd gennym ar y gweill ydy datblygu adnodd digidol rhyngweithiol. Nod yr adnodd ydy arwain cyflogwyr sy’n cefnogi prentisiaid trwy gydol y daith brentisiaeth, o’r cyfnod recriwtio i’r cyfnod cwblhau, a bydd yn addas i bawb, ar hyd yr ystod sgiliau Cymraeg. Mae arferion da iawn yn bodoli, bwriad yr adnodd hwn yw tynnu’r holl arferion da hyn ynghyd.

Bydd yr adnodd yn flaengar ac yn apelgar, yn hawdd ei ddarganfod ac yn hawdd ei ddefnyddio. Y bwriad ydy sicrhau bod y cynnwys yn arwain at godi hyder cyflogwyr wrth iddynt gefnogi prentisiaid beth bynnag yw lefel Cymraeg y prentis, a gwneud y broses mor hawdd â phosibl. Gallwch ddisgwyl cyfoeth o wybodaeth mewn ystod o fformatau creadigol, yn cynnwys fideos a micro-fideos ynghyd â deunydd ymarferol.

Mae’r adnodd ar hyn o bryd yng nghamau olaf y cyfnod datblygu ac edrychwn ymlaen at rannu’r adnodd gyda chi yn ystod haf 2025.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: Post16@colegcymraeg.ac.uk

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —