Adnoddau gyrfaoedd ar gyfer de-ddwyrain Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Yn aml, sgiliau yw prif flaenoriaeth cyflogwyr; ac mae cael pobl sydd â’r sgiliau a’r cymwysterau cywir yn hanfodol er mwyn llwyddo.

Er bod rhai pobl ifanc yn gwybod pa yrfa maen nhw am ei dilyn, dydi pawb ddim yn gwybod pa yrfaoedd sydd i’w cael yn y de-ddwyrain na sut i fynd ati i chwilio am swydd eu breuddwydion.

Felly, mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PSPRC) wedi datblygu cyfres o ganllawiau sector-benodol sy’n canolbwyntio ar sectorau blaenoriaeth y rhanbarth trwy raglen waith ‘Gwarant i Bobl Ifanc’ Llywodraeth Cymru.

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
  • Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
  • Adeiladu
  • Creadigol
  • Economi Sylfaenol Ddynol: Iechyd, Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Economi Sylfaenol Ddynol: Lletygarwch, Manwerthu a Thwristiaeth

Datblygwyd y canllawiau dwyieithog i fod yn adnodd cynhwysfawr i bobl ifanc sy’n ystyried llwybrau gyrfa posibl. Mae’r canllawiau’n rhoi trosolwg o’r sectorau blaenoriaeth yn ne-ddwyrain Cymru gyda’r bwriad, nid yn unig o roi gwybodaeth, ond hefyd o ysbrydoli pobl ifanc a’u helpu i ganfod cyfleoedd cyffrous yn y sectorau allweddol hyn.

Mae’r canllawiau’n cynnig trosolwg eang o bob un o sectorau blaenoriaeth PSPRC, ambell gipolwg gwerthfawr a gwybodaeth am y rolau sydd i’w cael a syniad o’r cyflogau posibl. Mae hyn yn dangos ymrwymiad i gyflawni Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau tair blynedd PSPRC ac yn cadarnhau’r ymrwymiad i fynd i’r afael â’r bylchau mewn sgiliau a’r prinder sgiliau sy’n wynebu cyflogwyr y rhanbarth.

Gall y canllawiau chwarae rhan hanfodol wrth roi’r wybodaeth y mae ar bobl ifanc ei hangen i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.

Adnoddau gyrfaoedd

Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —