Taith ddysgu lwyddiannus Chloe yn cychwyn â Hyfforddeiaeth

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Chloe Harvey, dysgu sgiliau i ddatblygu ei gyrfa.

Er ei bod yn eithriadol o swil pan adawodd yr ysgol, erbyn hyn, ar ôl cychwyn taith ddysgu ar Raglen Hyfforddeiaeth gan Lywodraeth Cymru, mae Chloe Harvey yn weithwraig hyderus.

Ar ôl penderfynu nad oedd am fynd i’r chweched dosbarth yn yr ysgol, aeth Chloe, 19, o Gil-maen, ger Penfro, i wneud Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gweinyddu Busnes gyda’r darparwr dysgu PRP Training Ltd. Fe wnaeth hyn ei hysbrydoli i gael mwy o ffydd ynddi hi ei hunan.

Diolch i’w hyder newydd, cafodd Chloe leoliad gwaith gyda Genpower Ltd, Doc Penfro ac, er ei bod yn nerfus ar y dechrau, fe wnaeth y fath argraff nes bod y cwmni wedi creu prentisiaeth newydd fel y gallent ei chyflogi.

Ers hynny, mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes ac wedi datblygu sgiliau ym maes trefnu, gwasanaethu cwsmeriaid a TG i’w galluogi i addasu’n hwylus i weithio gartref yn ystod pandemig Covid-19.

Yn awr, mae Chloe wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1) yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Bwriad Chloe yw symud ymlaen i wneud Prentsiaeth mewn Gweinyddu Busnes pan aiff yn ôl i weithio yn y swyddfa ac, ar hyn o bryd, mae’n helpu i hyfforddi aelodau newydd tîm Genpower.

Diolchodd Chloe i PRP Training, sydd wedi darparu ei holl hyfforddiant, ac i Genpower am eu cefnogaeth a’u hanogaeth sydd wedi’i galluogi i symud ymlaen yn ei gyrfa.

“Mae fy sgiliau a fy hyder yn tyfu trwy’r amser,” meddai Chloe. “Ar y cyfan, bu’n brofiad ardderchog o ddysgu ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu yn fy ngwaith.”

Dywedodd Laura Brockway, uwch-reolwr galwedigaethol PRP Training, iddo fod yn brofiad braf iawn gwylio Chloe yn blodeuo ar ei thaith ddysgu.

“Fe welson ni Chloe yn datblygu o safbwynt personol a phroffesiynol yn ystod ei chyfnod gyda ni, gan ei gwthio ei hunan i oresgyn ofnau a rhwystrau er mwyn cyrraedd ei nod.

“Bu’n drawsnewidiad enfawr wrth iddi ddatblygu’n fenyw ifanc hyderus a medrus. Mae ei gweld mor hyderus erbyn hyn yn gwneud fy ngwaith yn werth chweil. Mae pawb yma’n falch iawn o’r hyn y mae wedi’i gyflawni.”

More News Articles

  —