Chwilio am y sêr – Gwobrau Prentisiaethau Cymru – Mae’n bryd Ymgeisio

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Swyddog hyfforddiant a datblygiad Magellan, Llay, Dave Evans gyda phrentisiaid, Natasha Hawes (chwith) a Charlotte Booth

Heddiw (11 Mawrth) yw diwrnod lansio Gwobrau Prentisiaethau Cymru – dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol ym myd hyfforddiant a phrentisiaethau yng Nghymru.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes hyfforddeiaethau a phrentisiaethau.

Penllanw’r gwobrau fydd seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd ar 24 Hydref 2019.

Mae Mae 12 categori yn cynnwys dosbarth newydd “Doniau’r Dyfodol” sy’n rhoi cyfle i gyflogwyr enwebu prentis sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ac sydd ‘wedi dangos cynnydd personol sylweddol’ ac wedi rhoi ‘hwb pendant i berfformiad y sefydliad’.’

Yn y dosbarth Cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn (Hyfforddeiaethau), Ymgysylltu a Lefel 1. Mae gwobrau hefyd ar gyfer Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch y Flwyddyn.

Caiff cyflogwyr llwyddiannus eu cydnabod â gwobrau ar gyfer cyflogwyr bach (1 i 49 o weithwyr), canolig (50 i 249 o weithwyr), mawr (250 i 4,999) a macrogyflogwyr (5,000+). Mae dwy wobr ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith rhagorol – Asesydd a Thiwtor y Flwyddyn.

Rhaid ymgeisio cyn 12 (ganol dydd), 3 Mai, ac mae’r ffurflenni cais ar gael trwy fynd i www.llyw.cymru/gwobrauprentisiaethaucymru.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Magellan Aerospace UK a enillodd y wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn y llynedd. Ar hyn o bryd mae ganddynt bron 70 o brentisiaid, tua’u hanner yn gweithio yn Wrecsam.

Mae’r cwmni o’r gogledd wedi buddsoddi’n drwm mewn prentisiaethau ac mae’n cydweithio â Coleg Cambria i gynnig fframweithiau prentisiaethau mewn peirianneg, gweithgynhyrchu a meysydd eraill.

Ni ddylid tanbrisio cyfraniad prentisiaid at berfformiad y cwmni, meddai uwch swyddog hyfforddiant Magellan, Dave Evans.

“Prentisiaid yw chwech y cant o’n gweithlu ni, ac mae hynny’n cyfateb i chwech y cant o’n trosiant. Felly, mae’r prentisiaid yn rhoi £12 miliwn yn ôl i’r busnes.”

O ganlyniad i’r cynnydd mewn diddordeb mewn prentisiaethau, a llwyddiant Magellan Aerospace yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, mae nifer y ceisiadau am brentisiaethau gyda’r cwmni wedi mwy na dyblu yn 2019.

“Cawsom ni fel cwmni gryn dipyn o sylw ar ôl ennill un o Wobrau Prentisiaethau Cymru,” meddai Mr Evans. “Erbyn i’r cyfnod ymgeisio am brentisiaethau gyda Magellan ddod i ben eleni, mae’n bosib y byddwn wedi cael cynifer â 300 o geisiadau. Byddwn i’n sicr yn annog busnesau i ymgeisio yn y Gwobrau gan ei fod yn gyfle i gydnabod y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglenni hyfforddi.”

Wrth lansio gwobrau 2019, dyweddd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Mae rhaglenni prentisiaethau a hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod eu hangen ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru.

“Mae Gwobrau Prentisiaethauu Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant y sêr sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion. Rwy’n arbennig o falch i gyhoeddi categori newydd yn y gwobrau eleni – ‘Doniau’r Dyfodol’ sy’n cydnabod cynnydd personol prentis presennol eithriadol a’r effaith y mae eisoes yn ei chael ar berfformiad y busnes.

More News Articles

  —