Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn chwilio am Lysgenhadon Prentisiaethau i weithio gyda nhw yn ystod tymor 2026-27.
Yn y gwaith, bydd cyfle i greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu blogs, rhoi dyfyniadau ar ddefnyddio’r Gymraeg wrth wneud eu prentisiaeth, a llawer mwy.
Dyma’r prif negeseuon rydym am i’n llysgenhadon eu rhannu – Mae gen ti fantais go iawn o fod yn medru siarad a deall dwy iaith, defnyddia hynny o Gymraeg sydd gennyt. Ac mae galw mawr am weithwyr dwyieithog ar draws amryw o sectorau.
Bydd ein llysgenhadon yn derbyn £13 yr awr am unrhyw waith a wnânt gyda’r Coleg Cymraeg.
Dylai bob cais gael ei gyflwyno i ddarparwr, coleg neu hyrwyddwyr iaith yr ymgeisydd erbyn dydd Mercher 4 Tachwedd 2026.