“Mae fy Mhrentisiaeth digidol wedi cael effaith gadarnhaol arnaf fi, fy nysgwyr a fy nghydweithwyr.”

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Craig Wiltshire, Coleg QS, Cwmbran

Roedd y Tiwtor ac Asesydd Craig Wiltshire, o Goleg QS, Cwmbrân, yn awyddus i wella ei sgiliau technoleg er mwyn uniaethu’n well â’i ddysgwyr, ond nid oedd yn gwybod yn iawn ble i ddechrau. Diolch i’w Brentisiaeth Dylunio Dysgu Digidol wedi’i ariannu’n llawn gydag ACT, nid yn unig mae Craig, sy’n 44 o Tirphil, yn ennill cymhwyster cydnabyddedig ond hefyd mae’n rhannu ei wybodaeth ag eraill.

Rhaglen 18 mis yw Dylunio Dysgu Digidol, wedi’i hanelu at bobl yn y sector addysg sydd â diddordeb mewn dysgu digidol ac sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y maes hwn. Mae’r cymhwyster yn dysgu am yr offer a’r technegau prosiect sy’n gysylltiedig â dysgu digidol, yna gall dysgwyr eu rhoi ar waith a’u cyflwyno yn eu hamgylchedd dysgu cyfredol eu hunain.

“Penderfynais gofrestru ar y Brentisiaeth gan wybod bod angen i mi gyflwyno fy nosbarthiadau gan ddefnyddio technoleg, er mwyn uniaethu’n well â’m dysgwyr.” Roedd gen i ychydig o brofiad mewn technoleg ddigidol ond roeddwn i’n gwybod pe byddwn i’n meithrin y sgiliau, y byddai’n gwneud taith fy nysgwyr yn llawer mwy pleserus a hwyliog. Roeddwn hefyd eisiau rhyngweithio mwy gyda’m dysgwyr fel grŵp felly roedd dysgu am dechnoleg gydweithredol yn flaenoriaeth enfawr i mi. ”

Ers dechrau 2018, mae Craig wedi gweithio fel Asesydd, Tiwtor ac Arbenigwr AM2 ar gyfer Coleg QS – darparwr hyfforddiant yng Nghwmbrân sy’n cynnig cyfleoedd hyfforddi a dysgu o fewn y Diwydiannau Trydanol, Adeiladu, Gweithgynhyrchu, Peirianneg a Cherbydau Modur. Mae Craig yn dysgu dysgwyr newydd Lefel 1 hyd at ddysgwyr mwy profiadol Lefel 3.

Felly, mae’n hanfodol ei fod mor hyblyg ac arloesol â phosibl yn ei ddull addysgu, er mwyn cyrraedd anghenion amrywiol ei ddysgwyr. Er gwaethaf ei gyfoeth o brofiad, roedd Craig yn gwybod y byddai Prentisiaeth creu mwy o ragolygon a chyfleoedd gyrfa iddo, yn ogystal â’i alluogi i ddatblygu a chryfhau’r sgiliau a oedd ganddo eisoes. Ar y rhaglen Dylunio Dysgu Digidol, mae Craig wedi darganfod ystod o offer digidol o Wix, Padlet a Nearpod, hyd at godau QR, Canva a Powtoon. Mae hyn i gyd bellach yn cael ei ddefnyddio yn ei ddarpariaeth ei hun, ynghyd â dulliau rheoli prosiect a dylunio profiad defnyddiwr.

“Roeddwn i eisiau meistroli’r dechnoleg, ond roeddwn i’n teimlo ei bod yn bwysig ennill cymhwyster cydnabyddedig ar gyfer fy ngyrfa fy hun yn y dyfodol. Mae hyn yn fy ngalluogi i o bosibl fynd i lawr llwybr addysgu gwahanol neu hyfforddi fy nghyfoedion i ddefnyddio’r dechnoleg hon.”

Trwy ei Brentisiaeth Dylunio Dysgu Digidol, mae hyder Craig gyda thechnoleg wedi cynyddu’n sylweddol. Nid yn unig mae ei Brentisiaeth yn galluogi Craig i ddatblygu ei sgiliau yn y swydd, ond mae ei gyflogwr a’i ddysgwyr yn elwa’n uniongyrchol o’i wybodaeth newydd hefyd. Mae ymgorffori elfennau o’r hyn y mae wedi’i ddysgu ar y rhaglen yn ei rôl o ddydd i ddydd wedi arwain at gynnydd enfawr yn llwyddiant ei ddysgwyr.

“Rwyf wedi gwneud cynnydd hollol anhygoel yn y sgiliau rydw i wedi’u meithrin. Yn gyntaf, mae rhywbeth mor syml â fy sgiliau teipio wedi gwella’n fawr iawn. Erbyn hyn rydw i’n teimlo’n hynod hyderus, nid yn unig gan fy mod wedi datblygu Microsoft Sway i’r arholiad ymarferol AM2, ond rydw i eisoes yn cyflwyno’r sesiwn diwrnod llawn gan ei ddefnyddio. O ganlyniad, rydw i wedi gweld gwelliant yng nghanlyniadau ymgeiswyr sy’n pasio’r arholiad y tro cyntaf sy’n wych. Rwy’n profi bod defnyddio’r dechnoleg hon o fudd uniongyrchol i’n dysgwyr. Mae’r adborth cadarnhaol o ddysgu rhyngweithiol yn foddhaol ac yn werth chweil, i mi fy hun a’m dysgwyr. Rwyf hefyd yn teimlo’n hyderus wrth hyfforddi aelodau eraill o staff ar sut i ddefnyddio’r dechnoleg hon hefyd.”

Gyda thechnoleg yn chwyldroi ein ffordd o fyw a gweithio, mae sgiliau digidol yn prysur ddod yn ofyniad hanfodol ym mron pob sector neu ddiwydiant. Trwy ei Brentisiaeth, mae Craig wedi gallu datblygu ei sgiliau llythrennedd digidol yn y gweithle ac ennill cymhwyster ar yr un pryd. Er gwaethaf ei fod yn nerfus ar y dechrau, mae Craig yn teimlo bod y gefnogaeth a roddwyd iddo gan ACT a’i gyflogwyr yn cyfrannu’n aruthrol at ei lwyddiant a’r canlyniadau cadarnhaol y mae’n eu cyflawni.

“Mae fy nghyflogwyr wedi fy nghefnogi’n frwd o’r dechrau ac o’r holl gyrsiau rydw i erioed wedi’u gwneud (nid yn unig mewn addysg ond yn fy mywyd) nid wyf erioed wedi derbyn cymaint o gefnogaeth ag yr wyf wedi ei gael gan fy asesydd yn ACT. Roedd hi’n cydnabod fy mod i’n cael trafferth ar y dechrau ond parhaodd i’m gwthio er mwyn i mi lwyddo. Rwyf mor ddiolchgar iddi am yr holl gefnogaeth y mae wedi’i rhoi imi ar hyd y ffordd. Rwy’n falch iawn, iawn gyda’r gefnogaeth a gefais gan ACT.”

Wrth siarad am ei gynnydd, ychwanegodd Angelina Hummel sef Asesydd Dylunio Dysgu Digidol Craig: “Mae Craig wedi gwneud cynnydd anhygoel ac mae’n defnyddio offer digidol newydd gyda’i ddysgwyr, sy’n arwain at adborth cadarnhaol iawn. Mae’n ffynnu fel person ac mae gymaint yn fwy hyderus wrth roi cynnig ar yr offer a’r dechnoleg newydd hon yn ei weithle.”

Gyda chyflogwyr yn nodi diffyg sgiliau llythrennedd digidol yn y gweithlu, mae llawer yn ei chael hi’n anodd recriwtio ar gyfer rhai swyddi gwag yn eu busnes. Mae ymchwil yn awgrymu y bydd angen llythrennedd digidol ar 90% o swyddi erbyn 2040 (Jisc 2018). Er ei bod yn amlwg y bydd y bwlch sgiliau digidol yn fater cynyddol i lawer o fusnesau wrth symud ymlaen, mae Craig yn brawf bod Prentisiaeth yn ffordd wych o arfogi’ch gweithlu â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Cyngor Craig i unrhyw un sy’n teimlo’n nerfus ynglŷn â chymryd Prentisiaeth yw “ewch amdani”.

“Pa ffordd well o wella’ch hun na dysgu wrth weithio. Mae’r teimlad rydych chi’n ei gael pan nad ydych chi’n deall rhywbeth ar y dechrau ond yna’n symud ymlaen i allu trosglwyddo’r wybodaeth a’r sgil honno i ddysgwyr a staff fel ei gilydd yn deimlad gwych. Fy athroniaeth fy hun ar ystyr bywyd yw ‘i ddysgu’; mae rhywbeth y gallwch chi ei wneud bob amser i wella’ch hun ac mae’r math hwn o hyfforddiant a dysgu yn berffaith at y diben hwnnw.”

Mae ACT yn cynnig ystod o Brentisiaethau a ariennir yn llawn i helpu cyflogwyr a’u gweithlu i ddatblygu eu sgiliau digidol. Yn y gweithle modern ble mae’r sgiliau hyn yn prysur ddod yn rhai hanfodol, y cwestiwn yw, allwch chi fforddio peidio â datblygu eich sgiliau digidol? Ewch i www.acttraining.org.uk/employers neu e-bostiwch info@acttraining.org.uk i ddarganfod mwy.

Newyddion ACT

More News Articles

  —