Sêr o fyd dysgu seiliedig ar waith yn disgleirio mewn seremoni wobrwyo

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cafwyd cyfle i ddathlu llwyddiant dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu ysbrydoledig ac ymroddedig neithiwr (nos Iau) yn seremoni Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2019.

Roedd 34 o unigolion a sefydliadau mewn dwsin o ddosbarthiadau yn rownd derfynol y gwobrau a bu cyfle i gydnabod eu llwyddiant eithriadol mewn rhaglenni hyfforddeiaethau a phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni oedd Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Cynhaliwyd y noson wobrwyo fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Wales), Casnewydd a daeth enillwyr y gwobrau yno o bob rhan o Gymru i ddathlu eu llwyddiant.

Ar ôl cyfnod anodd pan fu ei dad farw ac y bu’n gaeth i gyffuriau am gyfnod, llwyddodd Gavin Williams, 20 oed, o Landegfan, i drawsnewid ei fywyd diolch i brentisiaeth. Gyda chymorth Busnes@LlandrilloMenai, llwyddodd Gavin i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn gwaith barbwr.

Erbyn hyn, mae Gavin yn gweithio’n hunan-gyflogedig yn salon Rubens Male Grooming yn Llanfair-pwll ac mae’n symud ymlaen i wneud Prentisiaeth. Enillodd wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn.

Aeth Gwobr Prentis y Flwyddyn i Shane Ash, 26 oed, o Risga, peiriannydd sy’n defnyddio’i hyfforddiant a’i sgiliau i arbed amser ac arian i’w gyflogwr.

Tynnodd y dyn ifanc 26 oed sylw at newidiadau a arbedodd dros £22,000 i’w gyflogwr, Tata Steel, pan oedd yn rheoli prosiect mawr. Erbyn hyn mae wrthi’n dylunio braich robotig a fydd yn tynnu amhurdebau o sinc tawdd, er mwyn cyflymu’r gwaith ar y llinell galfaneiddio a gwella iechyd a diogelwch.

Ar ôl cwblhau cyfres o gymwysterau trwy Goleg Pen-y-bont, Coleg Gwent a Phrifysgol De Cymru, mae Shane yn gweithio ar Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) a BSc mewn Peirianneg Fecanyddol.

Llwyddodd enillydd gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn, Lee Price, 59 oed, o Raeadr Gwy, i oresgyn blwyddyn anodd er mwyn llwyddo fel prentis Rheoli Systemau a Gweithrediadau.

A hithau’n Uwch Swyddog Ansawdd a Safonau Amgylcheddol gyda Chyngor Sir Powys, cafodd Lee ei hysbrydoli gan ei gŵr, Rob, i wneud Prentisiaeth Uwch gyda Hyfforddiant Cambrian. Bu Rob farw fis ar ôl i Lee ddechrau ar y cwrs ond aeth ymlaen i gwblhau y cymhwyster naw mis yn gynnar.

Esta Lewis, merch ifanc 22 oed â gradd mewn hanes a enillodd wobr Doniau’r Dyfodol, sy’n wobr newydd. Esta yw Prentis cyntaf Gwaith Treftadaeth Allanol Rhondda Cynon Taf ac mae’n credu’n angerddol mewn sicrhau bod hanes ar gael i bawb. Fe’i cefnogwyd gan Goleg Caerdydd a’r Fro.

Ysbrydolwyd Esta gan ei diweddar dad-cu oedd yn löwr ac mae’n rhedeg ac yn datblygu gweithdai ar gyfer Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Bu ei gwaith gydag ysgolion yn help i’w chyflogwr ennill Gwobr Sandford am y tro cyntaf, sef cynllun sicrwydd ansawdd ar gyfer rhaglenni addysg treftadaeth.

Yn adran y cyflogwyr, Gwesty’r Harbourmaster, Aberaeron gafodd wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn am ymrwymo i brentisiaethau a llwyddo i gynnal gweithlu o 40 aelod o staff medrus a brwd.

Mae Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau i 11 o weithwyr y gwesty sy’n ceisio goresgyn problem prinder sgiliau yn y sector lletygarwch trwy feithrin ei staff medrus ei hunan i gynnig gofal o safon uchel i’w gwsmeriaid a phrofiad ardderchog i ymwelwyr.

Cyrhaeddodd cwmni ITV Cymru ei hunan y penawdau am newid, wrth iddo ennill Gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn. Mae pob un o’i 11 prentis wedi mynd ymlaen i waith llawn amser yn y diwydiannau creadigol ers iddo lansio’i raglen brentisiaethau yn 2015. Mae saith prentis yn gweithio ar Brentisiaeth yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol, gyda chefnogaeth Sgil Cymru ar hyn o bryd.

Aeth Gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn i Anelu’n Uchel Blaenau Gwent, sy’n llenwi’r bwlch mewn sgiliau trwy Raglen Rhannu Prentisiaethau. Gall ymffrostio bod eu holl brentisiaid wedi cael swyddi ar ddiwedd eu rhaglen, gyda 64% yn aros gyda’r cyflogwr lle gwnaethant eu prentisiaeth.

Mae Anelu’n Uchel yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, Bwrdd Parth Menter Glynebwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a bu’n datblygu ei raglenni hyfforddi gyda Choleg y Cymoedd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe enillodd Wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn a dywed bod ei raglen brentisiaethau’n datblygu gweithle newydd, dyfeisgar a deallus ar gyfer y dyfodol. Ers i’r Bwrdd greu Academi Brentisiaid gyda chefnogaeth Academi Sgiliau Cymru tua diwedd 2016, mae 193 o brentisiaid o 12 o fframweithiau dysgu wedi’u penodi.

Aeth Gwobrau’r Tiwtor a’r Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith i Lynn Mathews a Hayley Lewis yn y drefn honno. Mae Lynn, 57 oed, o Gorseinon, yn gweithio i PeoplePlus Cymru lle mae’n rheoli hyd at 40 o ddysgwyr 16-19 oed sydd ag anghenion dysgu amrywiol.

Mae Hayley, o Hwlffordd, yn aelod uchel ei pharch o’r tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’r darparwr hyfforddiant TSW, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n llwyddo i gael y gorau o’i dysgwyr ac mae’n ymwneud â chyflogwyr er mwyn sicrhau bod rhaglenni’n cael eu teilwra i ateb eu hanghenion.

Carrie-Ann Anthony enillodd Wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu) a Marcio Paixo gafodd y Wobr Lefel 1. Er iddi golli ei hyder oherwydd epilepsi, mae Carrie-Anne, o Aberdâr, wedi blodeuo wrth gydweithio â’r darparwr hyfforddiant PeoplePlus ac mae’n gobeitho cael swydd ym myd gofal plant.

Bu Hyfforddeiaeth Lefel 1 gyda’r darparwr hyfforddiant PeoplePlus Cymru yn hwb fawr i yrfa Marcio Paixo, 17 oed, wrth i leoliad gwaith yn siop farbwr Lazarou Bros ym Merthyr Tudful ddatblygu’n Brentisiaeth Sylfaen. Erbyn hyn, mae wedi torri gwallt llawer o gleientiaid i safon uchel ac mae’n datblygu gyrfa fel model.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Mae’r holl enillwyr wedi gosod y safon ar gyfer prentisiaethau a hyfforddeiaethau ledled Cymru. Maen nhw’n ffenest siop ardderchog ar gyfer ein rhaglen brentisiaethau ac rwy wedi fy mhlesio’n fawr ag ymroddiad pawb oedd yn y rownd derfynol heno, llawer ohonyn nhw wedi goresgyn anawsterau personol.

“Rhaid canmol ymrwymiad y cyflogwyr hefyd – maen nhw i gyd wedi dangos pa mor frwd ydyn nhw am brentisiaethau a pha mor bwysig yw prentisiaethau er mwyn meithrin gweithlu medrus.

“Diolch i bawb sydd yma heno ac i’r holl brentisiaid brwdfrydig a chydwybodol ledled Cymru, mae mwy a mwy o bobl bob dydd yn ennill y sgiliau a’r profiadau y mae eu gwir angen ar fusnesau ym mhob un o sectorau ein heconomi.

“Fe wnaethon ni addo y bydden ni’n creu 100,000 o brentisiaethau pob-oed yn nhymor presennol y Cynulliad a, diolch i ymdrechion arbennig cyflogwyr, darparwyr dysgu a gwasanaethau cynghori, rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod hwnnw, a rhagori arno. Byddwn yn dal ati i gydweithio er mwyn sicrhau bod gan Gymru weithlu sydd wir gyda’r gorau yn y byd. ”

Dywedodd Sarah John, cadeirydd NTfW bod pawb oedd yn y rownd derfynol yn “llysgenhadon gwych” dros Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau llwyddiannus Llywodraeth Cymru.

“Wrth edrych i’r dyfodol, bydd angen i ni sicrhau bod gan gyflogwyr a gweithwyr sgiliau sy’n datblygu fel y gallan nhw wynebu heriau awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial a digideiddio,” meddai. “Trwy gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a chyflogwyr, rwy’n hyderus y bydd yr NTfW yn datblygu ac yn darparu’r hyn y bydd arnom ei angen.”

Dywedodd Connie Dixon, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru: “Rŷn ni yn Openreach yn rhoi pwyslais mawr ar recriwtio prentisiaid newydd bob blwyddyn ac rŷn ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn penodi mwy o brentisiaid na’r un busnes arall yn y sector preifat yn y Deyrnas Unedig.

“Maen nhw’n gwneud cyfraniad enfawr i’n busnes ni ¬– fel i lawer o gwmnïau eraill ledled y wlad – ac mae’n briodol bod hynny’n cael ei gydnabod.

“Rŷn ni wrth ein bodd o gael chwarae rhan yn y gwobrau eleni a hoffem longyfarch yr holl enillwyr a phawb oedd yn y rownd derfynol.”

Cyflwynydd y seremoni wobrwyo oedd y cyflwynydd teledu, Mai Davies, a bu cogyddion o Uwch Dîm Coginio Cymru a Brigâd Goginio y Ganolfan Gynadledda’n coginio’r pryd i 500 o wahoddedigion.

More News Articles

  —