Cwmni hyfforddiant yn dechrau degawd newydd gydag arolygiad disglair gan Estyn

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae’r cwmni dysgu yn y gwaith blaengar, sy’n cyflwyno prentisiaethau ar draws Cymru, wedi dechrau’r degawd newydd a’i 25ain mlwyddyn o gyflwyno sgiliau gydag arolygiad disglair gan Estyn.

Derbyniodd Hyfforddiant Cambrian, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-muallt, Caergybi a Bae Colwyn, farnau ‘Da’ ar draws pob maes arolygu gan Estyn, sef Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Er mwyn dathlu lansio adroddiad yr arolygiad, cynhaliodd y cwmni dderbyniad ar ddydd Iau, a fynychwyd gan yr Aelod Cynulliad lleol Russell George, Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, cyflogwyr a staff.

Mae Hyfforddiant Cambrian yn cyflwyno Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau ac Uwch Brentisiaethau mewn Lletygarwch, sy’n cynnwys Coginio Celfydd a Sefydliad Tafarnwyr Prydain, Cynhyrchu Bwyd a Diod, Cigyddiaeth, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Blynyddoedd Cynnar Plant, Ceffylau, Gwasanaethau Ariannol, Arwain a Rheoli Tîm, Technolegau Peirianneg a Gweithgynhyrchu, Adwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid, Rheoli Adnoddau’n Gynaliadwy a Pheirianneg Dŵr.

Mae isgontractwyr y cwmni’n cynnwys Call of the Wild, Haddon Training, Lifetime Training, Progression Training, Sirius Skills a Wiser Academy.

Mae adroddiad yr arolygiad yn tanlinellu bod uwch dîm arweinyddiaeth y cwmni wedi sefydlu diwylliant corfforaethol llwyddiannus gyda hunaniaeth gref, sydd wedi’i wreiddio yn ei ardal a’i ddarpariaeth graidd arbenigol, ac a ddatblygwyd mewn ymateb i anghenion y cyflogwyr.

Mae’n nodi’r gwaith o gyflwyno dosbarthiadau meistr i ychwanegu at brofiadau dysgwyr ac ehangu’r profiadau hynny a dull partneriaeth o fynd at gyflogwyr i greu cyfleoedd i ddysgwyr dyfu a datblygu.

Caiff dull strategol y cwmni o gefnogi cymunedau ac economi Cymru ei gydnabod yn yr adroddiad seiliedig ar dystiolaeth hefyd.
Dywedodd Arwyn Watkins, OBE, rheolwr gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian: “Mae’r gydnabyddiaeth o sgiliau galwedigaethol cryf a’r gallu iddynt gael eu rhoi ar waith yn y gweithle gan brentisiaid ar ein rhaglenni yn greiddiol i’n gwaith addysgu a dysgu.

“Mae ymroddiad ein gweithlu a’r dull partneriaeth a anogwn gyda busnesau’n allweddol i sicrhau ystod eang o sgiliau ymarferol sydd o fantais i’r unigolion y gweithiwn gyda nhw ac i helpu eu sefydlu fel gweithwyr gwerthfawr.”

Dywedodd Anne Jones, cyfarwyddwr ansawdd a sgiliau Hyfforddiant Cambrian, fod y cwmni wrth ei fodd o dderbyn barnau ‘Da’ ar draws pob maes arolygu, a gadarnhaodd ei statws fel un o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru.

Ychwanegodd, “Mae’r adroddiad yn gymeradwyaeth ddisglair o’n cwmni, ein staff safon uchel a’n hisgontractwyr ac mae’n rhoi i ni blatfform cadarn i barhau i wella a datblygu.”

Hyforddiant Cambrian

More News Articles

  —