Prentisiaid cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog yn meddiannu cyfrif Instagram

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ifan Phillips sy’n gwneud prentisiaeth mewn Gosodiadau Trydanol gyda D.E. Phillips & Sons Ltd.

Fis diwethaf, yn ystod Wythnos Prentisiaethau, trefnodd Hyrwyddwr Dwyieithrwydd Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) i 7 o’r 10 Llysgennad Prentisiaethau feddiannu cyfrif Instagram @dyddyfodoldi. Y nod oedd tynnu sylw at y manteision i ddysgwyr a chyflogwyr o wneud prentisiaeth yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Penodwyd 10 Llysgennad Prentisiaethau gan NTfW a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i dynnu sylw at werth sgiliau Cymraeg yn y gweithle, a manteision gwneud prentisiaeth yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Ar y dydd Llun, bu Tom a Llio yn sôn am eu profiad fel prentisiaid Arwain Gweithgareddau neu Ddatblygu Chwaraeon gyda’r Urdd. Drannoeth, bu Ifan sy’n brentis Gosodiadau Trydanol gyda D.E. Phillips a’i Fab yng Nghrymych yn dangos sut y mae’n gwneud gwaith trydan mewn adeiladau ffermydd a thai.

Yna, bu Ceris yn dangos pa mor amrywiol yw ei gwaith fel prentis Peirianneg Sifil Priffyrdd a Bwrdeistrefol gyda Chyngor Gwynedd. Roedd ganddi luniau a fideos o waith rhoi wyneb newydd ar y ffordd ger Bangor. Cymerwch gip ar flog Ceris am fod yn brentis gyda Chyngor Gwynedd.

Dydd Iau, tro Gethin sy’n brentis plymer, oedd hi. Mae Gethin a chydweithwyr o AHE Ltd yn gweithio ar uned MRI newydd yn Ysbyty Llwynhelyg. I gloi’r wythnos, clywsom oddi wrth Annwen a Lleucu sy’n brentisiaid Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, Lefel 5, ym Meithrinfa’r Enfys a Chylch Meithrin Eco Tywi.

Yn ogystal, bu Ifan a Lleucu yn sôn am eu profiadau wrth Shan Cothi ar ei rhaglen ar BBC Radio Cymru. Roedd ganddynt gyngor gwych i bobl ifanc sy’n ystyried gwneud prentisiaeth. Gwrandwch ar y cyfweliad (ewch i 1:10:38 yn y rhaglen).

Dywedodd Ryan Evans, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd DSW gyda NTfW, “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall prentisiaeth ddwyieithog neu Gymraeg roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith. Gall hefyd ei helpu i gael gwaith.

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Cewch weld cyfraniad y Llysgenhadon ar Prentisiaethau!

Cadwch lygad yn agored am ragor o erthyglau a fydd yn dangos sut y mae’r Llysgenhadon yn esiampl wych i rai sy’n ystyried gwneud prentisiaeth Gymraeg neu ddwyieithog.

More News Articles

  —