#CymraegYnYGweithle

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

WelshAtWork-1024x512px-CY-v2

Lansiwyd ymgyrch newydd yn ddiweddar i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

Ar ôl lansio’r Modelau Rôl Dwyieithog yn gynharach eleni, rydym wedi creu chwe fideo yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgil ar gyfer y gweithle ac yn annog prentisiaid i ddefnyddio’u Cymraeg yn eu Prentisiaeth.

Mae’r fideos i’w gweld ar sianel YouTube NTfW. Gallwch eu rhannu â’ch dysgwyr presennol neu ddarpar ddysgwyr a gall ysgolion eu defnyddio i hyrwydd #CymraegYnYGweithle. Caiff dysgwyr wybod rhagor trwy gysylltu â Cymru’n Gweithio.

Nod yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yw rhoi hwb i’r ymgyrch wrth gyflwyno Llysgenhadon Dwyieithog Prentisiaethau cyn hir mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cadwch lygad yn agored am y newyddion!

More News Articles

  —