Gwobrau Dysgwr y Flwyddyn PeoplePlus Cymru 2019 – Dathlu Llwyddiant ledled Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Yn ddiweddar bu PeoplePlus Cymru yn dathlu llwyddiant ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a phartneriaid am y 6ed gwaith yn ei Wobrau Dysgwr y Flwyddyn blynyddol. Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn Adeilad Pen-y-Pier Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac fe gafodd ei noddi gan Vikki Howells, yr AC ar gyfer Cwm Cynon yng Nghynulliad Cymru, a ddywedodd:

“Roedd hwn yn gyfle i ddathlu llwyddiannau dysgwyr ledled Cymru ac i nodi sut mae rhai cyflogwyr yn mynd yr ail filltir i helpu eu gweithlu i gyflawni ei botensial.”

Cyflwynydd y gwobrau eleni oedd Shane Williams MBE, chwaraewr Rygbi’r Undeb dros Gymru, a wnaeth daro tant â’r gynulleidfa gyda’i hiwmor wrth iddo gyflwyno’r gwobrau yn ystod y digwyddiad. Caitlin Furnell o Bort Talbot enillodd y wobr Ymgysylltu mewn Hyfforddeiaethau, ac Alex Jones o Bontypridd enillodd y wobr yn y categori Hyfforddeiaeth Lefel Un. Cafodd gwaith Lazarou Hair Group yng nghyswllt hyfforddeiaethau ei gydnabod wrth iddynt ennill gwobr Cyflogwr Hyfforddeiaethau’r Flwyddyn.

Yn y categori Prentisiaethau, Nicole Lloyd o Rondda Cynon Taf enillodd y wobr Prentis y Flwyddyn, a Barchester Carehomes enillodd wobr Cyflogwr Prentisiaethau’r Flwyddyn am eu hymrwymiad i ddysgwyr. Yn y categori Cyflogadwyedd, a gafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf eleni, Daniel Savage enillodd y wobr Cleient Cyflogadwyedd y Flwyddyn, a Tesco enillodd y wobr Cyflogwr Cyflogadwyedd y Flwyddyn.

Dathlwyd llwyddiant yr holl ymgeiswyr a ddaeth i’r brig mewn digwyddiad lle cafwyd cinio bach yn adeilad Pen-y-pier.

“Llongyfarchiadau i bawb a gafodd ei enwebu, a’r holl enillwyr yn enwedig. Dymunaf bob lwc i chi yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol”. Vikki Howells AC.

www.peoplepluscymru.co.uk

More News Articles

  —