Cyn-brentis yn ymroi i helpu dysgwyr i wireddu eu potensial

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Michael Ramsden sy’n ymroi i helpu ei ddysgwyr.

Michael Ramsden sy’n ymroi i helpu ei ddysgwyr.

Mae Michael Ramsden, a fu’n brentis ei hunan, yn ymroi i sicrhau bod ei ddysgwyr yn gwireddu eu potensial ac yn symud ymlaen yn eu gyrfa trwy fanteisio ar y llu o gyfleoedd a geir trwy brentisiaethau.

Cafodd Michael, 31 oed, o Gaerdydd, ei hyfforddi’n gogydd ac aeth ymlaen i ddatblygu ei yrfa mewn dysgu seiliedig ar waith fel swyddog hyfforddi gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian am bedair blynedd. Manteisiodd ar y cyfle i wella’i sgiliau trwy gynrychioli Tîm Coginio Cymru mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Cafodd ei ymroddiad i’w ddysgwyr ei gydnabod trwy ei gynnwys ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

“Fe es i i fyd dysgu seiliedig ar waith ac ôl bod yn brentis a gweld y manteision drosof fy hunan,” meddai Michael. “Felly, rwy’n gallu rhoi cyngor ac arweiniad o brofiad i fy nysgwyr i’w helpu i lwyddo yn eu dewis faes.

“Yn ogystal â rhoi boddhad i chi, mae’n anrhydedd fawr gweld rhywun yn llwyddo ac yn gwneud yn dda yn eu bywydau.”

Yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, bu’n gyfrifol am gyflenwi Prentisiaethau o safon uchel mewn Coginio Proffesiynol a Choginio Celfydd gan feithrin perthynas ardderchog â chyflogwyr, yn cynnwys Gwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.

Bu gan Michael ran allweddol yn cyflwyno’r Brentisiaeth Uwch newydd Lefel 4 mewn Coginio Proffesiynol, gan drefnu a rhedeg gweithdai, creu a chynnal aseiniadau a sicrhau bod y cogyddion yn dal i symud ymlaen gyda’u cwrs.

Ymhlith ei gymwysterau mae Prentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol, Prentisiaethau mewn Goruchwylio Lletygarwch a Choginio Celfydd, Dyfarniad Cogydd AAA a’r Dyfarniad Sicrhau Ansawdd Mewnol. Er mwyn rhoi hwb i’w gymwysterau ei hunan, mae wedi cychwyn ar Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli.

“Mae Michael yn gogydd ac yn swyddog hyfforddi dawnus sy’n dda iawn am feithrin hyder yn ei ddysgwyr er mwyn iddynt ragori ar eu huchelgeisiau,” meddai Chris Bason, pennaeth uned fusnes lletygarwch Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Erbyn hyn mae Michael wedi gadael y gegin i ganolbwyntio ar hyfforddi ac asesu prentisiaid ym maes rheoli ac mae wedi ymuno â darparwr hyfforddiant arall fel asesydd rheolaeth.

Wrth longyfarch Michael ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —