Chwalu ffiniau a gwella’r cysylltiad rhwng cyflenwad a galw yn y sectorau allweddol sydd ymhlith nodau Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth newydd Gogledd Cymru.

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Dyna eiriau David Roberts, cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn ystod lansiad y Cynllun a fydd yn weithredol rhwng 2019 a 2022, lle gwelwyd siaradwyr gwadd, addysgwyr, cyflogwyr ac arweinwyr busnesau yn dod ynghyd.

Roedd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates, wedi dod i Venue Cymru yn Llandudno hefyd, ac roedd yn cytuno bod gan sgiliau ran allweddol i’w chwarae yn nhwf y rhanbarth.

“Wrth i ni symud ymlaen, byddant yn bwysicach nag erioed o’r blaen,” meddai.

“Mae gwytnwch yr economi yn dibynnu ar wytnwch yr unigolion o’i fewn, felly mae angen i Gymru fod wrth galon y datblygiadau mewn diwydiant, yn arbennig arloesedd digidol, lle bydd nifer o gyfleoedd yn codi.

“Bydd gweithio’n rhanbarthol yn ein helpu ni, ac rwy’n falch iawn o weld bod Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi ymateb i’r her. Dymunaf bob llwyddiant i chi gyda’r Cynllun ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda chi yn y dyfodol.”

Bu’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac arweinydd Cyngor Gwynedd, yn egluro rôl sgiliau o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru. Nododd fod cynnydd wedi’i wneud gyda’r Cynllun Twf pan llofnodwyd y Penawdau’r Telerau yn ddiweddar yn Swyddfa Cymru yn Llundain.

“Addysg a sgiliau yw sail hanfodol unrhyw dwf economaidd,” meddai’r Cynghorydd Siencyn.

“Mae’r Bwrdd Uchelgais wedi gweithio’n agos gyda’n colegau a’n prifysgolion i ddatblygu’r Cynllun Twf – sy’n rhan o’r weledigaeth ehangach ar gyfer y Gogledd – ac mae Sgiliau a Chyflogaeth yn un o’n rhaglenni allweddol.

“Ein nod yw parhau i ddatblygu rhanbarth hyderus a chydlynol, a bydd gan y Cynllun hwn ran i’w chwarae yn hynny o beth.”
Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar gyflenwi a darparu hyfforddiant sgiliau, a’r galw amdano, ledled y chwe sir, gyda phwyslais ar weithio’n agos gyda cholegau, prifysgolion ac arweinwyr diwydiant i adnabod a rhannu arfer gorau ar ddatblygu staff a dysgu yn seiliedig ar waith.

Er mwyn helpu i ffurfio’r cynigion, mynychodd dros 350 o gwmnïau grwpiau ffocws i ymateb i ymgynghoriad, gan roi barn o’r ‘byd go iawn’ am yr heriau sy’n wynebu myrdd o sectorau.

Roedd siaradwyr eraill ar y diwrnod yn cynnwys Dafydd Evans, prif weithredwr Grŵp Llandrillo Menai; Paul McDonnell, Rheolwr Gyfarwyddwr Ruth Lee Ltd yng Nghorwen; Prif weithredwr Magnox, Gwen Parry-Jones, a Thomas Thomas, a oedd wedi cynrychioli Coleg Meirion Dwyfor yn WorldSkills International yn Rwsia, ac a ddaeth adref gyda Medaliwn Rhagoriaeth mewn gwaith plymwr a gwresogi.

Thomas Thomas

Diolchodd Mr Roberts i’r gynulleidfa o dros 50 o westeion am fod yn rhan o’r lansiad a dywedodd bod “lefel uchel o obaith” yn y Gogledd tuag at dwf economaidd, gyda chefnogaeth y Cynllun Twf sydd werth £1bn.

Ychwanegodd: “Mae gobaith, ond mae angen i ni wella’r cysylltiad rhwng cyflenwad a galw o hyd, ac mae gan bawb ran i’w chwarae yn hynny o beth.

“Un o rolau craidd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yw helpu i chwalu ffiniau a defnyddio’r llu o fentrau gwych sydd eisoes ar waith yn effeithiol, ynghyd â chefnogi prosiectau a syniadau newydd fel rhan o’r Cynllun hwn.

“Rwy’n gobeithio ei fod yn angor i’n gweledigaeth ar gyfer sgiliau a chyflogadwyedd yn y rhanbarth, ac y gallwn symud ymlaen mewn partneriaeth, gan leihau prinder sgiliau, hyrwyddo rhanbarth mwy cynhwysol a rhoi llwyfan i lwybrau cyflogaeth a chyfleoedd prentisiaethau llwyddiannus.”

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru

More News Articles

  —