Cyrraedd cam nesaf prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru wedi bod yn cynnig cyfle i bobl ifanc ledled Cymru archwilio llwybrau gyrfa a gwella a datblygu eu sgiliau trwy ddulliau anarferol.

Mae tair elfen i’r fenter a ariannir gan Lywodraeth Cymru: sef Troi Eich Llaw, Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a Cymorth i Gystadleuwyr Rhyngwladol trwy WorldSkills UK Wales ac mae’n hybu’r sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud busnesau’n fwy effeithiol.

Ers ei sefydlu yn 2014, mae’r prosiect wedi datblygu’n fawr ac, ym mis Ebrill 2020 cychwynnodd Cam 3 o’r broses cyflenwi prosiectau. Er bod llawer o’r gwaith yn dal yr un peth, mae i’r prosiect weledigaeth uchelgeisiol a’i nod yw datblygu ac esblygu fel y bydd yn ysbrydoli pobl ifanc ac yn codi eu dyheadau er mwyn sicrhau rhagoriaeth.

Mae’r cynllun Troi Eich Llaw yn rhoi cyfle i ddisgyblion ledled Cymru gael blas ar wahanol yrfaoedd trwy ddefnyddio offer uwchdechnolegol. Nod y cynllun yw annog mwy o ymwneud â phobl ifanc mewn ysgolion a chodi ymwybyddiaeth o lwybrau gyrfa a fydd yn rhoi hwb i fusnesau yng Nghymru.

Yn ogystal, mae’r prosiect yn ysbrydoli pobl ifanc i sicrhau rhagoriaeth trwy sefydlu cystadlaethau sgiliau sy’n berthnasol i dwf economaidd a’u helpu i ennill medalau mewn cystadlaethau sgiliau gartref a thramor. Gyda’r seilwaith sydd gennym yng Nghymru, gallwn annog pobl ifanc i feithrin y sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen a hybu’r gwaith o greu swyddi a chyfoeth.

Disgwylir i Gam 3 o’r prosiect adeiladu ar arferion da’r blynyddoedd cynt a chanolbwyntio ar esblygu trwy gydweithio’n agos â byd diwydiant, addysg a Gyrfa Cymru. Bwriadwn ddarparu rhagor o brofiadau a sgiliau cyflogadwyedd i bobl ifanc i’w paratoi at y dyfodol.

Dywedodd Paul Evans, Cyfarwyddwr Prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru: “Mae cymryd rhan yng ngwahanol rannau’r prosiect yn ffordd wych i bobl ifanc roi prawf ar eu sgiliau a’u harddangos gan ddangos y gallant gyrraedd y brig.

Rydym ni yng Nghymru’n ffodus iawn bod gennym y gallu i ysbrydoli a meithrin y sgiliau hyn, gan gystadlu mewn marchnad fyd-eang hefyd. Rwy wrth fy modd â pherfformiad Cymru hyd yma ac yn edrych ymlaen at barhau i gynnig cefnogaeth yn y dyfodol.”

Os hoffech wybod rhagor am brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, ewch i www.inspiringskills.wales/hafan neu ebostiwch info@inspiringskills.wales.

More News Articles

  —