Cystadleuwyr o Gymru wedi’u henwi yn Nhîm y Du are gyfer Cystadleuaeth Ewropeaidd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Phoebe McLavy, Rhys Watts a Sam Everton

Mae tri o bobl ifanc o Gymru wedi’u dewis i gystadlu yn erbyn goreuon Ewrop yn y prawf sgiliau mawr cyntaf ers Brexit, sef EuroSkills.

Y cystadleuwyr o Gymru yw Sam Everton, Phoebe McLavy a Rhys Watts a bydd y tri ohonyn nhw’n rhan o dîm y DU, sy’n cynnwys 14 o’r prentisiaid a’r gweithwyr proffesiynol ifanc gorau, er mwyn cystadlu yn Graz, Austria ym mis Ionawr (6 – 10).

Mae Sam Everton, sy’n 23 oed ac yn dod o Gilgerran yn Sir Benfro, yn gweithio fel chef de partie yn The Grove, sef gwesty moethus yn Arberth. Dywedodd: “Mae’n anrhydedd cael fy newis ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn dod nesaf. Mae’r daith hyd yma wedi bod yn wych ac rwy’n edrych ymlaen at y cam nesaf.” Fe enillodd Sam fedaliwn rhagoriaeth yn WorldSkills y llynedd yn Kazan ac mae hefyd wedi cystadlu yn Awstralia a Tsieina.

Mae Phoebe McLavy, sy’n 21 oed ac yn byw yn Rhosan ar Wy, yn gweithio fel steilydd gwallt yn Salon Gwallt Reds. Dywedodd Pheobe: “Mae’n deimlad gwych cael fy newis ar gyfer Tîm y DU ac rwy’n edrych ymlaen at gyrraedd y gystadleuaeth a dangos i bawb beth rwyf wedi bod yn hyfforddi ar ei chyfer dros y tair blynedd diwethaf.” Fe gystadlodd Phoebe yn WorldSkills yn Kazan, Russia yn 2019 ac ennill medal efydd.

Mae Rhys Watts, sy’n 19 oed ac yn dod o Abertawe, yn brentis Technegydd Electroneg yng Ngholeg Gŵyr. Fe ddywedodd: “Dyma oedd y tro cyntaf i mi gystadlu ar y lefel hwn. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddweud pan gefais wybod fy mod wedi cael fy newis. Mae wedi fy helpu i fagu hyder yn barod.”

Bydd y tîm sydd wedi’u dewis, eu hyfforddi a’u mentora gan elusen addysg a sgiliau WorldSkills UK, yn cystadlu yn erbyn dros 500 o gystadleuwyr o 28 o wledydd sy’n ymarfer 45 o wahanol ddisgyblaethau sgiliau.

Cafodd y gystadleuaeth ei gohirio oherwydd Covid ac mae’n cael ei hystyried yn ddangosydd pwysig o ran safon systemau sgiliau’r DU yn erbyn cystadleuwyr economaidd allweddol ledled Ewrop.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae sgiliau lefel uchel yn hanfodol i economi Cymru lwyddo a byddant yn allweddol i’n helpu ni i adfer ar ôl effaith ddifrifol y coronafeirws.
 
“Dyma pam ein bod ni wedi cyhoeddi pecyn cefnogi swyddi a sgiliau gwerth £40m a fydd yn hanfodol i helpu cyflogwyr i gyflogi a hyfforddi gweithwyr newydd, gan gynnwys prentisiaid a phobl ifanc.
 
“Mae’n amlwg bod colegau a busnesau ledled Cymru yn helpu i ddatblygu rhai o’r unigolion mwyaf talentog ar y lefel hon, a hoffwn ddymuno pob lwc i Sam, Pheobe a Rhys. Mae cael eich dewis ar gyfer Tîm y DU yn wych a dylai ein hunigolion talentog o Gymru fod yn falch iawn ohonyn nhw ei hunain am ennill y cyfle i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol.

Bydd Tîm y DU yn cystadlu mewn sbectrwm eang o ddisgyblaethau sy’n amrywio o beirianneg, adeiladu, lletygarwch, a phynciau digidol a chreadigol.

Dywedodd Dr Neil Bentley-Gockmann OBE: “Anghofiwch am yr Ewros y tymor nesaf, mae’r gystadleuaeth hon am fod yn wych ac mae’n llawer iawn pwysicach at ddyfodol ein gwlad – mae’n dangos bod y genhedlaeth nesaf yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnom ni i helpu i adeiladu ein heconomi yn ôl yn well a pharhau i allu cystadlu’n rhyngwladol.

“Mae llawer o ddamcaniaethau wedi bod ynghylch sut bydd y Deyrnas Unedig yn ffynnu o ran perfformiad sgiliau. Bydd y gystadleuaeth gyda 27 o’n cymdogion agosaf ar draws y cyfandir yn feincnod gwych ac yn dangos doniau Tîm y DU.”

Mae’r un deg pedwar ohonyn nhw eisoes wedi bod trwy broses hir o gystadleuaeth ranbarthol, rowndiau terfynol cenedlaethol a phroses dewis tîm i gyrraedd y pwynt hwn. Nawr, maent yn wynebu misoedd o hyfforddiant dwys er mwyn codi eu safonau i lefel rhyngwladol elit, dan arweiniad Rheolwyr Hyfforddi WorldSkills UK.

Bydd llywodraethau a’r diwydiant yn gwylio gyda diddordeb er mwyn meincnodi pa mor dda y bydd Tîm y DU yn perfformio o’i gymharu â phrif gystadleuwyr Ewropeaidd y wlad. Yn rownd derfynol flaenorol EuroSkills a gynhaliwyd yn Budapest yn 2018 – fe orffennodd Tîm y DU yn y nawfed safle. Bydd WorldSkills UK yn defnyddio Rownd Derfynol EuroSkills i gyfeirio gwaith ei Ganolfan Ragoriaeth, mewn partneriaeth â Choleg Addysg Bellach Cenedlaethol, sy’n defnyddio gwybodaeth unigryw WorldSkills UK mewn systemau sgiliau Ewropeaidd a byd-eang i rhoi lle blaenllaw i ragoriaeth mewn datblygu sgiliau.

Inspiring Skills Excellence in Wales
EuroSkills
www.worldskillsuk.org

More News Articles

  —