Dechrau chwilio am sêr Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Pennaeth newyddion a rhaglenni ITV Cymru, Phil Henfrey, gyda phrentisiaid.

Mae cyflogwyr llwyddiannus, dysgwyr ysbrydoledig a darparwyr dysgu seiliedig ar waith ymroddedig ledled Cymru’n cael eu hannog i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru 2021 er mwyn dangos cymaint y maent wedi’i gyflawni.

Caiff y gwobrau pwysig eu lansio heddiw gyda’r nod o ganfod y busnesau a’r unigolion sydd wedi rhagori yn rhaglenni prentisiaethau a hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae rhaglenni prentisiaethau a hyfforddeiaethau yn gwneud cyfraniad enfawr i’n heconomi a byddant yn hanfodol wrth i ni ddod dros effeithiau’r coronafeirws. Dyna pam y maent yn rhan hollbwysig o’r pecyn gwerth £40m o swyddi a sgiliau a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar ac a fydd yn golygu bod rhagor o gymorth ar gael.

“Er bod hwn yn gyfnod eithriadol o heriol, rydym wedi gweld dawn ac ymroddiad ein busnesau, ein darparwyr a’n dysgwyr yn disgleirio. Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu’r hyn y mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni wedi’i gyflawni ac i ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl. Hoffwn annog pob un ohonynt i ddefnyddio’r achlysur hwn i rannu eu profiadau a’u teithiau dysgu llwyddiannus gyda ni.”

Gellir lawrlwytho’r ffurflenni cais o llyw.cymru/gwobrau-prentisiaethau-cymru a rhaid ymgeisio cyn 12 (ganol dydd), 30 Hydref 2020.

O blith yr holl ymgeiswyr, bydd rhestrau byrion yn cael eu tynnu mewn 12 categori. Yn y categori Cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn (Hyfforddeiaethau) – Ymgysylltu a Lefel 1.

Mae gwobrau hefyd ar gyfer Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch y flwyddyn.

Cyflwynwyd y categori “Doniau’r Dyfodol” y llynedd ac mae’n rhoi cyfle i gyflogwyr enwebu prentis sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ac sydd ‘wedi dangos cynnydd personol sylweddol’ ac wedi rhoi ‘hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad y cyflogwr’.

Caiff busnesau llwyddiannus eu cydnabod gyda gwobrau i gyflogwyr bach (1 i 49 o weithwyr), canolig (50 i 249), mawr (250 to 4,999) a macro-gyflogwyr (5,000+), a bydd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cystadlu am wobrau asesydd a thiwtor y flwyddyn.

Caiff Gwobrau Prentisiaethau Cymru eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Mae dysgwyr, cyflogwyr, a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru yn gwerthfawrogi’r gwobrau yn fawr.

Dywedodd Phil Henfrey, pennaeth newyddion a rhaglenni yn ITV Cymru, a enillodd Wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn y llynedd: “Rwy’n credu bod cyrraedd y rownd derfynol ac ennill yn erbyn cyflogwyr anhygoel o bob rhan o Gymru wedi dangos i’r gymuned fusnes ehangach a’r sector cyhoeddus yng Nghymru sut y mae ITV Cymru yn newid fel busnes.

“Pan wnaethon ni gychwyn y Rhaglen Brentisiaethau, roeddwn i’n gobeithio y byddai ein prentisiaid yn dysgu cymaint i ni ag y gallen ni ei ddysgu iddyn nhw – ac felly y buodd hi. Maen nhw’n dod â sgiliau newydd a syniadau newydd i’n gwaith, gan ein galluogi i greu cynnwys digidol newydd ar gyfer cynulleidfaoedd newydd ac mae hynny’n wirioneddol gyffrous.

“Fe wnes i ymgeisio am wobr gan fy mod mor eithriadol o falch o’r hyn yr oedden ni wedi’i gyflawni, ac o’n prentisiaid a’r rheolwyr a oedd wedi gweithio mor galed i gyflawni hynny.

“Roedd ennill y wobr yn ffordd o gadarnhau gwerth ein gwaith caled ni yn ITV Cymru i sicrhau bod ein Rhaglen Brentisiaethau yn llwyddiant. Roedd yn noson gofiadwy a fydd yn byw yn hir yn y cof.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —