Cystadleuwyr o Gymru yn ennill 55 medal yn rownd derfynol WorldSkills UK

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Bayley Harris, Hyfforddiant Ceredigion Training – Hairdressing

Cynrychiolwyd Cymru gan fwy na 100 o gystadleuwyr yn WorldSkills UK Live, rownd derfynol genedlaethol cystadlaethau WorldSkills UK.

Enillodd Tîm Cymru gyfanswm o 14 medal aur, 15 medal arian, 17 medal efydd a naw cymeradwyaeth uchel yn y digwyddiad tridiau o hyd a gynhaliwyd rhwng 21 a 23 Tachwedd yn yr NEC yn Birmingham.

O’r rhain, cafodd 15 eu hennill gan ddysgwyr yn y Cystadlaethau Sgiliau Cynhwysol.

Hefyd, cafodd pedwar coleg o Gymru eu henwi ymhlith y 10 sefydliad gorau yn y DU, sef Coleg Cambria, Coleg Sir Benfro, Coleg Gŵyr Abertawe a Choleg Gwent.

Dyfarnwyd gwobr Douglas Hill i gystadleuydd o Gymru, Thomas Lewis, hefyd am ei ysbryd tîm a’i wytnwch yn ystod y gystadleuaeth a’r hyfforddiant, ar ôl cael ei enwebu gan ei gyd-gystadleuwyr.

WorldSkills UK Live, The Skills Show gynt, yw digwyddiad sgiliau, prentisiaethau a gyrfaoedd mwyaf y DU a’i nod yw dathlu llwyddiant pobl ifanc mewn amrywiaeth o sgiliau galwedigaethol.

Bu mwy na 500 o gystadleuwyr o bob cwr o’r DU yn cystadlu am y cyfle i ddod i’r brig yn eu maes sgiliau a chynrychioli Tîm y DU yn rownd derfynol WorldSkills yn Shanghai yn 2021.

Cynhaliwyd cystadlaethau mewn dros 70 o wahanol gategorïau mewn pedwar sector diwydiant: adeiladu a seilwaith; iechyd, lletygarwch a ffordd o fyw; digidol, busnes a chreadigol; peirianneg a thechnoleg.

Bu cystadleuwyr o Gymru yn cystadlu mewn meysydd yn amrywio o beirianneg awyrenegol a chelf gemau digidol 3D i gelfyddydau coginio a garddwriaeth.

Rosie Lawrence, Coleg Cambria a Raytheon Systems Ltd – Peirianneg Awyrenegol

Eleni, roedd categorïau newydd yn cael eu treialu yn y gystadleuaeth yn cynnwys: rheoli gwybodaeth adeiladu, systemau diogelwch electronig, technegydd cyfrifo a roboteg ddiwydiannol.

Roedd arddangoswyr yn y digwyddiad yn cynnwys rhai o gyflogwyr blaenllaw y DU, yn cynnwys ACCESS VFX, Airbus, BAE Systems, CITB, Grŵp Bancio Lloyds a Toyota Manufacturing UK.

Thema WorldSkills UK Live eleni oedd gwaith a llesiant pobl ifanc. I gefnogi hyn, bu taith Million Minds, sy’n ceisio helpu pobl ifanc i drafod iechyd meddwl yn agored, yn ymweld â’r digwyddiad.

Meddai Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, Prif Weithredwr, WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau i’r cystadleuwyr o Gymru am gamp mor wych.

“Roedd yna gystadlu brwd ac roedd y safon yn uchel iawn. Mae gwaith caled ac ymroddiad yr holl gystadleuwyr wedi talu ar ei ganfed ac rydyn ni yn WorldSkills yn codi’n het i chi.”

Wrth ystyried llwyddiant Tîm Cymru, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae cael 55 o gystadleuwyr o Gymru yn ennill medalau yn WorldSkills UK Live yn anhygoel, a dyma ganlyniad gorau Cymru yn y digwyddiad erioed.

“Mae cystadlaethau WorldSkills yn hybu ymwybyddiaeth o allu sgiliau i drawsnewid bywydau, economïau a chymdeithas, ac mae cyrraedd lefel genedlaethol y DU yn y gystadleuaeth yn gamp enfawr gan y bobl ifanc hyn.

“Maen nhw wedi dangos pwysigrwydd addysg alwedigaethol, ac ar yr un pryd wedi meithrin cymeriad, hyder, ymroddiad a hunanwerth. Hoffwn longyfarch yr holl gystadleuwyr o Gymru a fu’n cymryd rhan yn WorldSkills UK Live, a dymuniadau gorau iddynt yn eu gyrfaoedd i’r dyfodol.”

Cefnogir WorldSkills gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd gweithlu medrus at y dyfodol.

WorldSkillsUK

More News Articles

  —