Dyddiad cau Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018 yn agosáu

Postiwyd ar gan karen.smith

App Awards 27

Mae 4 Mai, y dyddiad cau ar gyfer cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu sy’n awyddus i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru, yn prysur agosáu.

Bwriad y gwobrau blynyddol pwysig yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol prentisiaid, hyfforddeion, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu a chyflenwi rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae ffurflenni cais y gwobrau ar gael i’w lawrlwytho o llyw.cymru/gwobrauprentisiaethaucymru a’r dyddiad cau yw hanner dydd ar 4 Mai.

Ar ôl derbyn y ceisiadau, bydd rhestrau byrion yn cael eu paratoi mewn 11 dosbarth am y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd 2018. Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Yn y dosbarth cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn (Hyfforddeiaethau), Ymgysylltu a Lefel 1. Mae tair gwobr hefyd yn y dosbarth prentisiaethau, ar gyfer Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch gorau’r flwyddyn.

Mae dosbarth y busnesau’n cynnwys gwobrau i gyflogwyr bach (1 i 49 o weithwyr), canolig (50 i 249), mawr (250 to 4,999) a macro-gyflogwyr (5,000+), a bydd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cystadlu am wobrau asesydd a thiwtor y flwyddyn.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan. Trwy brentisiaethau, gall cyflogwyr elwa ar hyfforddiant o safon uchel a fydd yn golygu bod y sgiliau angenrheidiol gan weithlu’r dyfodol i sicrhau bod Cymru’n dal yn gystadleuol.

“Mae gennym ddysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr eithriadol iawn yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn cydnabod llwyddiant rhai sydd wedi rhagori yn y gweithle neu wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw.

“Os ydych chi neu’ch busnes yn cymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddeiaethau neu brentisiaethau, hoffwn eich annog i gyflwyno’ch cais.”

More News Articles

  —