Darparwr Hyfforddiant yn galw am fwy o leoedd i brentisiaid er mwyn taclo prinder sgiliau
Mae un o ddarparwyr hyfforddiant blaenllaw Prydain, Educ8 Training Group, yn galw ar fwy o fusnesau i gynnwys cyfleoedd am brentisiaethau yn eu strategaeth recriwtio er mwyn mynd i’r afael â phrinder sgiliau.
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (ILM) yn rhagweld y gallai prinder sgiliau gostio £120bn i’r Deyrnas Unedig erbyn 2030 gyda diffyg o 2.5 miliwn o weithwyr medrus iawn.
Dywedodd Ann Nicholas, Cyfarwyddwr Cyfrifon Cwsmeriaid gydag Educ8 Training, “Mae’r farchnad swyddi wedi gweld newidiadau mawr ers pandemig Covid ac mae cyflogwyr yn awyddus i arallgyfeirio eu strategaeth er mwyn cadw’r doniau gorau. A ninnau’n ddarparwr hyfforddiant sy’n cefnogi dros 3,000 o gyflogwyr, mae busnesau wedi bod yn dweud wrthym sut y gall prentisiaethau helpu i recriwtio ac uwchsgilio gweithwyr da.”
Yn aml, mae diffyg sgiliau rheoli mewn sefydliad yn creu problemau cynhyrchiant. Mae ein cymwysterau ILM yn helpu dysgwyr a chyflogwyr i fod yn fwy hyderus wrth ennill y sgiliau rheoli pwysig sy’n angenrheidiol er mwyn i’w busnes dyfu.”
Dim ond hanner swm cyfartalog yr Undeb Ewropeaidd y mae cyflogwyr y Deyrnas Unedig yn ei wario, y pen, ar hyfforddiant. Gallai rhaglenni prentisiaethau weithio ochr yn ochr â hyfforddiant mewnol presennol i uwchsgilio staff mewn ffordd gost-effeithiol.
Mae Orbis Education & Care yn darparu gwasanaethau arbenigol i blant ac oedolion ag anghenion cymhleth sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth. Yn 2022, cychwynnodd 43 o’u staff ar brentisiaethau gydag Educ8 Training.
Dywedodd Debra Derham, Rheolwr Dysgu a Datblygu yn Orbis, “Mae ein staff yn gweithio tuag at nifer o gymwysterau prentisiaethau trwy Educ8 Training. Felly maen nhw’n gallu symud ymlaen yn eu gyrfa a gweithio tuag at gymwysterau galwedigaethol cydnabyddedig ar yr un pryd.”
Mae rhaglen brentisiaeth yn cynnig ffordd glir o ddatblygu gyrfa. Mae’n helpu’r cyflogwr a’r gweithiwr i ganolbwyntio ar ddatblygiad personol a phroffesiynol.
Mae Lucy Williams yn astudio gydag Educ8 Training a datblygodd o fod yn weithiwr ffatri di-waith heb gymwysterau i fod yn rheolwr gofal. Meddai, “Mae prentisiaethau wedi fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa. “Mae’r holl wybodaeth a sgiliau rwy wedi’u dysgu trwy astudio wedi fy helpu i gyrraedd lle’r ydw i eisiau bod yn y cwmni. Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, sdim ots pa mor hen ydych chi.”
Mae prentisiaethau’n helpu i daclo’r prinder sgiliau presennol ac yn paratoi pobl i ymuno â’r gweithlu. Mae gan lywodraeth y Deyrnas Unedig strategaeth gadarn i economi’r DU gyrraedd y targed allyriadau o sero net erbyn 2050. Mae angen sgiliau gwyrdd ar frys i gyflawni’r strategaeth hon.
Mae Educ8 Training ar fin lansio cwrs newydd Rheoli Ynni a Charbon. Bydd yn un o’r cymwysterau cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig i uwchsgilio gweithwyr er mwyn helpu i gyrraedd nod eu sefydliadau o ran lleihau allyriadau carbon a datblygu arferion gweithio mwy cynaliadwy.
More News Articles
« Darparwyr hyfforddiant yng Nghymru’n symud ymlaen i sicrhau parch cydradd — Educ8 Training yn dathlu Diwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr »


