Hyfforddiant Educ8 a EOTAS yn chydweithio i helpu pobl ifanc i ailgysylltu â dysgu

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Michaela O'Neill standing outside.

Michaela O’Neill, Gweithiwr Achos Ymgysylltu â Disgyblion yng Ngwasanaeth Ieuenctid y Fro EOTAS

Mae Hyfforddiant Educ8 a Gwasanaeth Ieuenctid y Fro yn cydweithio i helpu pobl ifanc ar draws De Cymru i ail-ymgysylltu ag addysg, meithrin hyder a datblygu llwybrau clir tuag at yrfaoedd yn y dyfodol.

Trwy’r cydweithrediad, mae cyfleoedd dysgu galwedigaethol wedi’u teilwra i anghenion dysgwyr a gefnogir gan EOTAS (Addysg heblaw yn yr ysgol), darpariaeth awdurdod lleol ar gyfer plant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu mynychu’r ysgol brif ffrwd oherwydd allgau parhaol, ymddieithrio tymor hir, pryder yn yr ysgol, neu heriau sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Cyflwynodd Hyfforddiant Educ8 y rhaglen Peirianneg Elev8 dros y flwyddyn ddiwethaf, ar ôl llwyddiant ei rhaglen Gwallt a Harddwch Elev8, sydd bellach yn ei hail flwyddyn. Mae’r fenter eisoes wedi cael effaith sylweddol, gan roi cyfle i ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau peirianneg ymarferol wrth ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a thechnegol gwerthfawr.

Mae’r cyfranogwyr yn edrych ar ddylunio CAD, y defnydd diogel o offer a deunyddiau, arferion gweithdy, a datrys problemau yn seiliedig ar dîm, wrth gael cipolwg ar gyfleoedd gyrfa yn y sector peirianneg.

Mae’r bartneriaeth yn dangos pa mor werthfawr yw cydweithio rhwng sefydliadau i greu llwybrau galwedigaethol hygyrch sy’n helpu pobl ifanc i ailgysylltu â dysgu mewn ffordd ystyrlon ac ymarferol, wrth agor drysau i gyfleoedd addysg a chyflogaeth yn y dyfodol.

Dywedodd Michaela O’Neill, Gweithiwr Achos Ymgysylltu â Disgyblion yng Ngwasanaeth Ieuenctid y Fro EOTAS:
“Mae tîm Educ8 wedi bod yn hynod ymatebol a chymwynasgar, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda nhw. Rwy’n gefnogwr mawr o’r rhaglen a byddwn yn argymell yn llwyr barhau i’w defnyddio.

“Mae’r rhai sy’n dilyn y cwrs peirianneg yn ffynnu’n llwyr. Nid oedd y bobl ifanc â diddordeb o’r blaen, ond mae’r cwrs wedi bod yn wych iddyn nhw ac mae wedi helpu i feithrin eu hyder yn fawr.”

Dywedodd Joshua Rees, Uwch Reolwr Datblygu Busnes yn Educ8,
“Mae ein partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid y Fro EOTAS yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc a allai fod wedi wynebu rhwystrau sylweddol i addysg.

“Trwy raglenni fel Peirianneg Elev8, rydym yn gallu darparu amgylchedd deniadol a chefnogol lle gall dysgwyr ddatblygu sgiliau ymarferol, meithrin hyder a dechrau gweld dyfodol cadarnhaol iddyn nhw eu hunain.

“Yr hyn sydd wedi bod yn arbennig o werth yw gweld dysgwyr a allai fod wedi ymddieithrio o addysg yn flaenorol yn darganfod angerdd gwirioneddol dros ddysgu eto. Mae natur ymarferol y rhaglen yn caniatáu iddynt brofi llwyddiant, datblygu diddordebau newydd a chydnabod eu potensial eu hunain.”

Am mwy o wyboaeth, ymwelwch a: Elev8 – Future Skills – Educ8

Yn ôl i’r brig

More News Articles

  —