Llysgennad Prentisiaethau’n cael swydd ei breuddwydion gyda’r Urdd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Ella Davies wedi cael swydd ei breuddwydion yn darparu gweithgareddau chwaraeon ar gyfer ysgolion a chymunedau yng Nghwm Rhondda, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, diolch i brentisiaeth gydag Urdd Gobaith Cymru.

Ella standing on a rugby pitch.

Ella Davies sy’n brentis.

Mae’r ferch 19 oed, o Ystrad Rhondda, wrth ei bodd yn gweithio gyda phlant fel rhan o’i Phrentisiaeth mewn Datblygu Chwaraeon y mae’n ei gwneud trwy gyfrwng y Gymraeg gyda’r Urdd. Cyn hynny, gwnaeth Brentisiaeth Sylfaen mewn Arwain Gweithgareddau.

Yn ogystal, mae Ella’n un o sylfaenwyr Fforwm Prentisiaethau’r Urdd sydd wedi’i gynllunio i gefnogi prentisiaid a thrafod pynciau fel iechyd meddwl, cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae’n gweithio hefyd gyda chlybiau ac ysgolion ar gynllun i gael mwy o ferched a menywod ifanc rhwng wyth a 25 oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.

Gan ei bod mor frwd dros hyrwyddo prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog, mae wedi’i phenodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Mae Ella wedi cyfrannu at sesiwn feddiannu Instagram, a drefnwyd gan yr NTfW a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hybu cyfleoedd Cymraeg i brentisiaid yng Nghymru.

Mae’n gweithio gyda thua 50 o ysgolion yn ei hardal ac yn dweud ei bod wrth ei bodd yn y gwaith gan fod pob diwrnod yn wahanol. Llwyddodd i gael y brentisiaeth gyda’r Urdd ym mis Medi 2020 ar ôl gwneud cais am nad oedd yn awyddus i fynd i’r brifysgol a’i bod am ennill cyflog wrth ddysgu yn y gweithle.

“Rwy’n argymell prentisiaethau i fy mherthnasau ifanc pan fydda i’n siarad â nhw ac rwy’n ceisio bod yn batrwm iddyn nhw,” meddai Ella. Ar ddiwedd ei phrentisiaeth, hoffai barhau i weithio i’r Urdd neu fynd yn athrawes ysgol gynradd.

Mae’n barod iawn i argymell prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. “Wrth symud ymlaen i fyd gwaith, rwy’n credu y dylai pobl gael y cyfle i ddefnyddio’r iaith maen nhw wedi ei defnyddio yn yr ysgol a gartref,” meddai.

“Rwy wedi bod yn frwd dros y Gymraeg erioed. Roedd fy rhieni eisiau i mi gael addysg Gymraeg ac roedden nhw wrth eu bodd pan gefais i’r brentisiaeth gyda’r Urdd.”

Dywedodd Catrin Davis, Pennaeth Prentisiaethau’r Urdd: “Mae Ella’n gwneud ei hail brentisiaeth gyda’r Urdd ac mae’n aelod allweddol o’r tîm. Mae hi hefyd yn batrwm gwych i brentisiaid yn eu blwyddyn gyntaf ac i eraill sy’n ystyried gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.

urdd.cymru/cy/prentisiaethau

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —