
Colli swydd yn hwb annisgwyl i Lysgennad Prentisiaethau
Mae’r Llysgennad Prentisiaethau Cymraeg, Sion Jones, yn mwynhau ei waith fel prentis saer coed.
Pan gafodd Sion Jones ei wneud yn ddi-waith yn 2020 ar ôl bod yn gabolwr yn y diwydiant argraffu am 19 o flynyddoedd, roedd yn hwb annisgwyl iddo.
Dywed Sion, o Benparcau, Aberystwyth, sy’n 37 ac yn dad i ddau, bod ansawdd ei fywyd wedi gwella’n fawr a’i fod yn hapusach o lawer ers iddo fynd yn brentis saer.
Mae’n gweithio i Owen Evans, Saer Coed, yn Nhrisant, ger Aberystwyth ac yn gwneud Prentisiaeth Lefel 3 mewn Galwedigaethau Gwaith Coed trwy City & Guilds, wedi’i chyflenwi gan Hyfforddiant Ceredigion Training, ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen y llynedd.
Gan ei fod mor frwd dros brentisiaethau a’r iaith Gymraeg, mae Sion wedi’i benodi’n Llysgennad Prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.
“Ro’n i’n siomedig pan ges i fy ngwneud yn ddi-waith oherwydd ro’n i’n gweithio i’r cwmni ers amser maith,” meddai Sion. “Ond, yn y diwedd, roedd yn hwb annisgwyl achos, er fy mod i’n mwynhau’r gwaith, doeddwn i ddim yn hapus yn gweithio shifftiau nos nac oriau hir oedd yn golygu nad oeddwn yn gweld llawer ar y teulu.
“Rwy’n difaru peidio â dewis gwneud prentisiaeth mewn gwaith coed flynyddoedd yn ôl. Rwy’n hoffi rhoi cynnig ar DIY gartref ac ro’n i’n falch iawn o’r cyfle i wneud prentisiaeth gydag Owen ar ôl cael profiad o’r gwaith am ddau fis yn ystod y pandemig.
“Mae’r swydd mor hyblyg. Mae pob diwrnod yn wahanol, gan ein bod ni’n gweithio ar wahanol safleoedd ac rwy gartref am 5 o’r gloch gan amlaf. Pan o’n i’n gweithio yn y ffatri, roedd pob diwrnod yr un peth.”
Mae Sion wrth ei fodd o gael ei benodi’n Llysgennad Prentisiaethau. Dywed mai Cymraeg yw ei iaith gyntaf a bod ei deulu, ei gydweithwyr a llawer o’i gwsmeriaid yn ei siarad.
“Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i mi ac mae’n braf cael ei defnyddio yn y gwaith,” meddai. “Mae llawer o’r bobl hŷn rŷn ni’n gweithio gyda nhw yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg.
“Mae’n braf iawn cael hyrwyddo’r iaith a sôn am fy mhrentisiaeth a fy ngwaith. Mae prentisiaethau’n wych achos rŷch chi’n gallu ennill cyflog tra byddwch chi’n dysgu sgiliau newydd yn y gweithle. Beth bynnag yw’ch oed, byddwch yn sicr yn elwa o brentisiaeth.”
Dywedodd Craig Davies, cynghorydd hyfforddiant mewn gwaith coed gyda Hyfforddiant Ceredigion Training, bod Sion yn “ddysgwr eithriadol sy’n dysgu gwybodaeth a sgiliau yn sydyn”.
“Mae Sion yn batrwm o’r hyn y dylai dysgwr fod,” meddai. “Rwy wedi dweud wrtho y dylai fod wedi mynd yn saer coed 20 mlynedd yn ôl achos mae’n grefftwr naturiol ac yn gweithio’n galed.”
Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”
“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”
Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.
“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.
More News Articles
« NTfW yn croesawu hwb o £18m i brentisiaethau yng nghyllideb Llywodraeth Cymru — Llysgennad Prentisiaethau’n cael swydd ei breuddwydion gyda’r Urdd »