Newyddion gan Gyngor y Gweithlu Addysg

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA
EWC new code graphic
Newyddion pwysig i gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Mae’r Cod wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu categorïau cofrestru newydd.

Mae’r Cod yn gosod y safonau a ddisgwylir gan gofrestreion CGA a bwriedir iddo gefnogi a llywio eu hymddygiad a’u crebwyll.

Safonau proffesiynol i arweinwyr Addysg Bellach (AB) a Dysgu’n Seiliedig ar Waith (DSW)
Yn dilyn ein diweddariad yn y cylchlythyr diwethaf, mae CGA bellach wedi ymestyn y fframwaith i gynnwys safonau sydd â’r nod o hyrwyddo proffesiynoldeb arweinwyr AB a DSW yn y sector, a darparu fframwaith ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus trwy hunanfyfyrio a chydweithredu.

Ymateb CGA i newidiadau Llywodraeth Cymru ar reolau cofrestru
Mae CGA wedi cyhoeddi ei ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sy’n cynnig ychwanegu dau gategori newydd at restr y bobl sy’n gorfod cofrestru gyda nhw: uwch reolwyr a phenaethiaid sy’n gweithio mewn sefydliadau addysg bellach (AB) ac ymarferwyr dysgu oedolion yn y gymuned.

Siarad yn Broffesiynol 2024
Professional Speaking graphic

Paratowch i blymio dyfnderoedd maes cyfareddol gwyddor ac addysg gwybyddol, wrth i’r Athro o fri Shaaron Ainsworth arwain darlith flynyddol Siarad yn Broffesiynol 2024 CGA, ‘Datgloi dirgelion dysgu’. Cynhelir y digwyddiad ar 24 Ionawr 2024, rhwng 16:00 a 17:30 ar Zoom. Peidiwch â cholli allan, mynnwch eich tocyn am ddim nawr.

Cyngor y Gweithlu Addysg

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —