Newyddion gan Gyngor y Gweithlu Addysg

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2023


Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi cyhoeddi’r data diweddaraf sy’n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i wneuthuriad y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’r data yn dod o Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA, ac am y tro cyntaf eleni, mae’n adrodd ar gadw ym mhob un o’r grwpiau cofrestru.

Y Pasbort Dysgu Proffesiynol


Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn declyn hyblyg ar-lein sy’n gallu cefnogi unigolion i gofnodi eu datblygiad proffesiynol, ac ysgolion gyda’r broses rheoli perfformiad. Mae’r tîm ar gael i weithio gyda chi i ddatblygu templedi, wedi eu teilwra i anghenion eich ysgol, fydd yn cefnogi datblygiad a myfyrio proffesiynol cofrestreion. Cysylltwch â ni i wybod mwy am sut gall y PDP gefnogi eich sefydliad, neu drefnu i rywun i ddod i’w ddangos i chi.

Fframwaith ôl-16


Mae fframwaith dysgu a datblygiad proffesiynol newydd i ymarferwyr mewn addysg bellach (AB), dysgu seiliedig ar waith (DSW) ac addysg oedolion wedi’i lansio gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r fframwaith wedi ei gyllido gan Llywodraeth Cymru, a’i ddatblygu gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ar y cyd gyda’r sector. Mae’n dod ag ystod o gyngor, arweiniad ac offer at ei gilydd i gefnogi ymarferwyr ar eu taith ddysgu broffesiynol, gan gynnwys:

  • safonau proffesiynol cyfredol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr DSW ac ymarferwyr addysg oedolion
  • safonau proffesiynol newydd ar gyfer staff cymorth AB a DSW
  • offeryn rhyngweithiol sy’n eich galluogi i archwilio sut olwg allai fod ar y safonau ar lefelau ymarfer gwahanol – archwilio, ymgorffori a gweddnewid

Bydd safonau proffesiynol newydd ar gyfer arweinwyr AB a DSW hefyd yn cael eu hychwanegu at y fframwaith cyn hir.

Cyngor y Gweithlu Addysg

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —