Addysgwyr Cymru: Helpu darparwyr dysgu yn seiliedig ar waith i ddenu, datblygu a chadw talent
English | Cymraeg
Mae darparwyr dysgu yn seiliedig ar waith ar draws Cymru yn cael eu hannog i wneud mwy o ddefnydd o Addysgwyr Cymru, sef y platfform cenedlaethol sy’n helpu i gysylltu cyflogwyr addysg â phobl sydd â diddordeb mewn meithrin gyrfa yn y sector.
Yn ogystal â darparu gwybodaeth am yrfaoedd a llwybrau i addysg, mae Addysgwyr Cymru yn caniatáu i gyflogwyr hysbysebu swyddi gwag yn rhad ac am ddim, gan helpu sefydliadau i gyrraedd carfan amrywiol o unigolion y mae gwneud gwahaniaeth trwy addysg a hyfforddiant o ddiddordeb iddynt.
Mae’r platfform yn denu ymwelwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd a chamau gyrfa, gan gynnwys pobl sy’n ystyried camu i fyd addysg am y tro cyntaf, gweithwyr proffesiynol profiadol sy’n chwilio am gyfle newydd, ac unigolion sydd am symud eu gyrfa yn ei blaen o fewn y sector.
Adnodd recriwtio rhad ac am ddim
Gyda heriau o ran recriwtio yn parhau ar draws rhannau o’r gweithlu addysg, mae Addysgwyr Cymru yn cynnig sianel ychwanegol i ddarparwyr dysgu yn seiliedig ar waith hyrwyddo cyfleoedd a chodi ymwybyddiaeth o yrfaoedd o fewn eu sefydliad.
Trwy hysbysebu swyddi gwag ar y platfform, gall darparwyr:
- hyrwyddo cyfleoedd yn rhad ac am ddim
- cyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd addysg
- cynyddu gwelededd eu rolau o fewn y sector dysgu yn seiliedig ar waith
- arddangos eu sefydliad i ddarpar gyflogeion
- cefnogi datblygiad gweithlu addysg medrus a chynaliadwy yng Nghymru
Mwy na hysbysfwrdd swyddi
Ochr yn ochr â hysbysebu swyddi gwag, mae Addysgwyr Cymru yn darparu gwybodaeth, arweiniad ac eiriolaeth i helpu pobl i archwilio llwybrau gyrfa, cymwysterau, cyfleoedd datblygu proffesiynol, a’r amrywiaeth eang o rolau sydd ar gael ar draws y gweithlu addysg.
Mae hyn yn helpu darpar ymgeiswyr i ddeall y sector a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn well, tra’n galluogi cyflogwyr i ddenu ymgeiswyr sydd â’r symbyliad i adeiladu gyrfaoedd hirdymor mewn addysg a hyfforddiant.
Cymryd rhan
P’un a ydych chi’n awyddus i lenwi rolau aseswyr, hyfforddwyr, tiwtoriaid, sicrhau ansawdd neu swyddi arbenigol eraill, gall Addysgwyr Cymru helpu i gysylltu eich swyddi gwag ag unigolion medrus, ymroddedig.
Ewch i Addysgwyr Cymru i ddysgu rhagor a dechrau hysbysebu eich swyddi gwag heddiw.
More News Articles
« Mae dysgu seiliedig ar waith yn llunio’r ffordd am yrfa delfrydol mewn democratiaeth — Ysgogi Rhagoriaeth: Mae Darparwyr Dysgu Seiliedig Ar Waith Yn Camu i’r Adwy o ran Cystadlaethau Sgiliau »


