CGA i gynnal digwyddiad allweddol i gofrestreion

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Montage of people with EWC logo.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cynnal y nesaf yn y gyfres ‘Eich CGA‘ yr hydref yma.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 2 Hydref 2024 am 16:00-16:30, a bydd yr ail ddigwyddiad yma’n canolbwyntio ar y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol, a’r bwriad yw rhoi trosolwg cynhwysfawr i chi o’r Cod a’i egwyddorion.

Bydd yn cynnwys esiamplau go-iawn o lle bo cofrestreion wedi methu â chydymffurfio, ac yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau i CGA.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoleiddio CGA, David Browne:
“Mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol yn ddogfen allweddol i gofrestreion CGA. Mae’n gosod y disgwyliad ar unigolion fel ymarferwyr cofrestredig, felly mae’n hanfodol bod pawb yn gwybod beth ydyw, a beth sydd ynddo.

“Bydd y digwyddid yn rhoi trosolwg manwl o’r Cod, ei egwyddorion, a chanllawiau ar sut allwn sicrhau eich bod yn bodloni’r disgwyliadau arnoch.”

Mae cofrestru am ddim, a gallwch gadw eich lle ar wefan CGA.
Cadwch eich lle am ddim nawr

Cyngor y Gweithlu Addysg

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —