Cyngor y Gweithlu Addysg

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Diwygio Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi diwygio a chyhoeddi ei God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mae’r Cod yn nodi’r safon ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan yr 82,000 o ymarferwyr addysg CGA sy’n gweithio ar draws Cymru, a’r bwriad yw llywio eu dewisiadau a’u penderfyniadau. Mae’n bwysig eich bod yn rhannu’r Cod wedi ei ddiwygio gyda’ch cyflogeion.

I gefnogi cofrestreion, darparwyr a chyflogwyr ymhellach i ddeall cynnwys y Cod, mae CGA, yn cynnig hyfforddiant a gweithdai am ddim, yn ogystal â phosteri i’w hargraffu a’u harddangos yn eich ardaloedd cyhoeddus ac i staff.

Gwiriwch fod eich cyflogeion wedi cofrestru gyda CGA

Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, mae’n bwysig bod cyflogwyr a darparwyr yn gwneud yn siŵr bod eu staff wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) Ni all ymarferwyr addysg weithio yng Nghymru heb gofrestru gyda CGA. Fel cyflogwr, mae gyda chi gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud yn sicr bod eich staff wedi cofrestru. Gallwch wirio drwy ddefnyddio eich mynediad i’r Gofrestr ar-lein.

Digwyddiad CGA i adeiladu perthnasau gyda rhieni / gwarcheidwaid

Ar 8 Tachwedd 2022, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn ymuno gyda Parentkind i gyflwyno Glasbrint ar gyfer Ysgolion Rhieni-Gyfeillgar, offeryn yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n hawdd ei ddefnyddio i hwyluso gwelliannau hirdymor i gyfranogiad rhieni. Mynnwch eich lle am ddim.

Addysgwyr Cymru

Mae Addysgwyr Cymru, helpu yn blatfform newydd a ddatblygwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys nifer o wasanaethau sy’n dod á chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a swyddi yn sector addysg Cymru ynghyd mewn un lleoliad hawdd.

Drwy gofrestru, gall eich sefydliad elwa o’r nifer o wasanaethau ar gael, gan gynnwys postio swyddi a chyfleoedd hyfforddiant am ddim, gan arbed miloedd o bunnoedd y flwyddyn.

Mae mwy o wybodaeth ar wefan Addysgwyr Cymru, neu, gallwch ein gwahodd ni i gyfarfod, er mwyn i ni rannu buddion cofrestru gydag Addysgwyr Cymru i chi a’ch cydweithwyr.

Cyngor y Gweithlu Addysg

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —