Educ8 yn Mynd i’r Afael â’r 5 Prif Fyth am Brentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod am brentisiaethau, mae llawer o gamsyniadau amdanynt o hyd. Ein bwriad ni yw chwalu’r mythau hyn a phrofi bod prentisiaethau’n gymhwyster gwerthfawr i bawb.

Dau ddyn yn gweithio ar eu gliniaduron

‘Dim ond ar gyfer sgiliau galwedigaethol, fel gwaith plymer neu drin gwallt mae prentisiaethau.’

Er ei bod yn wir bod cyrsiau ar gyfer y mathau hyn o sgiliau, mae llawer mwy o gyfleoedd ar gael. Rydym yn cynnig prentisiaethau mewn Marchnata Digidol, Gweinyddu Busnes, ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i enwi dim ond ychydig.

Nid yw prentisiaeth yn eich cyfyngu i un sector neu alwedigaeth chwaith – mae prentisiaethau’n gyfle gwych i symud ymlaen yn eich gyrfa. Efallai’ch bod yn brentis Gwasanaeth i Gwsmeriaid Lefel 2 ac yn dewis gwneud prentisiaeth Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli, gan gymhwyso’r sgiliau trosglwyddadwy yr ydych wedi’u dysgu mewn bywyd go iawn.

Dechreuodd Elinor Whitcombe ar brentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 3 cyn gynted ag y dechreuodd yn ei swydd fel cynghorydd recriwtio. Meddai, “Roedd hyn o fantais i mi yn y swydd newydd gyffrous hon yn y brif swyddfa, ac yn gyfle i weithio tuag at ennill cymhwyster newydd ar yr un pryd. Mae’n bwysig iawn cymryd cymaint o gyfleoedd dysgu a datblygu ag y cewch eu cynnig wrth i’ch gyrfa ddatblygu gan ei fod yn gyfle i ehangu’ch sgiliau ac ychwanegu atynt.”

‘Dydi prentisiaethau ddim yn arwain at swydd lawn-amser.’
Mae prentisiaethau’n rhoi hyfforddiant i chi wrth weithio. Yn ôl data diweddar, mae’r mwyafrif mawr yn aros mewn gwaith, yn aml gyda’r un cyflogwr.

Bu Hollie Kitson yn astudio ar gyfer tair prentisiaeth gydag ISA Training. Ers hynny, mae hi wedi gwibio ymlaen i yrfa lwyddiannus fel steilydd hunangyflogedig prysur, gan ennill gwobr Technegydd Lliw y Flwyddyn 2022 yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch Cymru.

“Fe orffennais i fy mhrentisiaeth ddiwethaf tua blwyddyn yn ôl. Ers hynny, rwy wedi bod yn brysur gyda chleientiaid ac mae fy llyfr yn llawn. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i ble rydw i nawr, yn gallu gweithio i mi fy hun ac wedi ennill y wobr, pe na bawn i wedi dilyn llwybr prentisiaethau.”

‘Pobl sy’n methu mynd i’r brifysgol sy’n gwneud prentisiaethau’
Mae prentisiaethau’n cynnig llwybr gwahanol i fyd gwaith ond dydyn nhw ddim yn llai gwerthfawr. Gall dysgu ymarferol fod yn llawer mwy addas na’r brifysgol i rai pobl, gyda chyfle i symud ymlaen yn gyflym yn eu gyrfa.

Gellir astudio prentisiaethau ar sawl lefel – o brentisiaethau sylfaen i brentisiaethau uwch, ac maent yn addas ar gyfer pobl â sgiliau ar bob lefel. Yn ogystal, bydd prentisiaid yn gadael gyda chymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sydd yr un mor werthfawr â chymhwyster coleg neu brifysgol.

Does dim i rwystro rhywun rhag gwneud prentisiaeth ar ôl bod yn y brifysgol chwaith, fel y prentis Marchnata Digidol Carys Bradley-Roberts.

“Fe benderfynais i wneud prentisiaeth oherwydd, er bod gen i radd a gradd meistr eisoes, does gen i ddim cymwysterau penodol ym maes marchnata. Mewn marchnad sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol, roeddwn i eisiau sicrhau fy mod yn sefyll allan.”

‘Dydi prentisiaid ddim yn cael eu talu’n dda.’
Mae’ch cyflog fel prentis yn dibynnu ar y diwydiant, y lleoliad, a’r math o gymhwyster a ddewiswch. Mae rhai cyflogwyr yn talu’r isafswm ond mae llawer yn cynnig cyflog cystadleuol.

Yn ogystal, caiff prentisiaethau eu hariannu’n llawn gan y llywodraeth, sy’n golygu nad oes rhaid i brentisiaid dalu benthyciadau myfyrwyr na ffioedd dysgu, yn wahanol i fyfyrwyr prifysgol.
I Zenzy Flowers, roedd y cyfle i ennill cyflog wrth astudio yn amhrisiadwy. Meddai, “Dim ond 19 oed oeddwn i pan anwyd fy merch.

Felly, er fy mod yn awyddus i gael addysg, roedd yn bwysig i mi allu darparu ar ei chyfer. Roedd gwneud prentisiaeth yn well na mynd i’r coleg i mi gan fy mod yn ennill cyflog wrth ddysgu. Roedd ennill cymhwyster, ochr yn ochr â fy swydd, a chael fy nhalu ar yr un pryd, yn bwysig iawn pan oedd gen i blentyn ifanc yn y tŷ.”

‘Dim ond pobl ifanc 16-18 oed sy’n gwneud prentisiaethau.’
Er mai pobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol a dechrau gweithio yw llawer o brentisiaid, gall pobl o bob oed wneud prentisiaeth. Mae rhai pobl yn dilyn prentisiaeth er mwyn dysgu sgiliau newydd yn eu sector neu eu galwedigaeth, gan ychwanegu gwybodaeth newydd at eu profiad blaenorol.

Pan oedd yn 26 oed, collodd Lucy Williams ei gwaith mewn ffatri. Doedd ganddi ddim cymwysterau na chynllun ar gyfer ei chamau nesaf. Gyda chymorth Educ8, canfu swydd oedd wrth ei bodd, gweithiwr cymorth, ac nid yw wedi edrych yn ôl. 14 blynedd yn ddiweddarach, mae’n gweithio yn ei swydd ddelfrydol fel Rheolwr Gwasanaethau Galwedigaethol gyda Values in Care.

“Erbyn hyn, rwy wedi symud ymlaen i astudio Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lefel 5. Rydw i wedi cyrraedd y man lle’r ydw i eisiau bod yn y cwmni ond ro’n i’n awyddus i wneud y cwrs i weld beth all ei roi i mi. Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, sdim ots pa mor hen ydych chi.”

P’un bynnag a yw prentis ar ddechrau ei yrfa neu’n awyddus i symud ymlaen yn ei swydd bresennol, mae manteision prentisiaeth yn amlwg. Mae’r profiad ymarferol, gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a’r cyfle i fynd allan o’r ystafell ddosbarth a rhoi sgiliau ar waith yn amhrisiadwy.

Cewch ddysgu mwy am Brentisiaethau gydag Educ8 heddiw!

Back to top>>

More News Articles

  —