Gobaith am wobr i gwmni sy’n buddsoddi mewn arweinyddiaeth
Diolch i ddull unigryw o gyflwyno addysg bellach a hyfforddiant, mae Legal & General Investment Management yn dechrau elwa ar ei fuddsoddiad yn ei dîm rheoli presennol.
Trwy gydweithio’n agos â TSW Training, mae adain fuddsoddi grŵp Legal & General wedi llunio Rhaglen Brentisiaethau sydd wedi datblygu sgiliau arwain 18 o’i rheolwyr.
Yn awr, mae’r cwmni o Gaerdydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd y cwmni’n cystadlu i fod yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.
Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Trwy gynnig Prentisiaethau Uwch Lefel 4 a 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, mae’r elfen seiliedig-ar-waith yn y rhaglen yn cyfuno rheoliadau sefydliad-benodol y sector â’u gofynion hyfforddi mewnol nhw’u hunain i gynnig cymhwyster sy’n ystyrlon i’r busnes.
“Nid siarad gwag yw hyn, mae’n ddull sy’n cynnig datrysiadau ymarferol go iawn a phrosiectau sy’n cael effaith wirioneddol ar waith y busnes o ddydd i ddydd,” meddai Sarah Evans, rheolwr datblygu pobl Legal & General Investment Management.
Yn ôl y cwmni, un peth sy’n gyfrifol i raddau helaeth am lwyddiant y rhaglen yw eu bod wedi hyfforddi dau o’u staff nhw eu hunain, un ohonynt yn siarad Cymraeg, i fod yn aseswyr trwy ennill Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol.
“Rydyn ni’n nabod ein staff, eu horiau gwaith, eu hoffterau a’u gwaith gyda Legal & General,” meddai Sarah. “Felly, rydym yn gallu cynnig cymorth pwrpasol ar gyfer anghenion y dysgwr a gofynion a rhwymedigaethau’r busnes.”
O ganlyniad i lwyddiant y rhaglen, penderfynodd Legal & General Investment Management gynnig y cyfleoedd dysgu i’r tîm ehangach ac, yn 2018, bydd y cwmni’n cyflwyno Rhaglenni Prentisiaethau ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 3, Dysgu a Datblygu, Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad, a Thechnegau Gwella Busnes. Datblygwyd y rhaglenni hyn hefyd ochr yn ochr â TSW Training o Ben-y-bont ar Ogwr.
“Mae’r cydweithio a fu rhwng tîm Legal & General a TSW yn dangos parodrwydd y sefydliad i gofleidio ffyrdd newydd o ddysgu ac mae hynny wedi cyfrannu at lwyddiant y rhaglen,” meddai Crispin Seabrook, rheolwr llwybrau gyda TSW Training.
Wrth longyfarch Legal & General Investment Management ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.
“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.
“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”
Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru
More News Articles
« Gobaith am wobr am i sefydliad lle mae’r ystadegau’n siarad drostynt eu hunain — Prentisiaid Urdd Gobaith Cymru’n hyfforddi i fod yn ‘un mewn miliwn’ »