Gobaith am wobr i Mariska ar ôl goresgyn rhwystrau i gychwyn ar lwybr gyrfa

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Mae Mariska Hutton wedi goresgyn rhwystrau yn ei bywyd.

Mae Mariska Hutton wedi goresgyn rhwystrau yn ei bywyd.

Mae merch ifanc sydd wedi goresgyn llawer o rwystrau a heriau yn ei bywyd wedi defnyddio rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1 Llywodraeth Cymru fel man cychwyn ar gyfer ei llwybr gyrfa.

Gadawodd Mariska Hutton, 20 oed, o Dwynyrodyn, Merthyr Tudful, yr ysgol heb gymwysterau ond mae wedi llwyddo i gwblhau’r Hyfforddeiaeth ac ennill Tystysgrif NVQ Lefel 1 mewn Sgiliau Manwerthu trwy’r darparwr hyfforddiant PeoplePlus.

Bu’r cymwysterau hyn o gymorth iddi gael lleoliad yn siop y Groes Goch Brydeinig ym Merthyr Tudful ac mae’n gobeithio y bydd hynny’n arwain at swydd lawn amser.

Yn awr, mae Mariska wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Ganed Mariska yn Ne Affrica, cymerwyd hi i ofal yr awdurdodau yn bedair oed, bu mewn cartref maeth, cafodd ei mabwysiadu’n saith oed a symudodd i Brydain gyda’r rhieni a’i mabwysiadodd pan oedd yn 15.

Ychydig ar ôl symud i Gymru, cafodd gyfnod o iselder am ei bod yn cael ei bwlio yn yr ysgol ac am fod y berthynas rhyngddi a’i mam fabwysiedig wedi chwalu. Cafodd gyfnodau hir o orbryder ac iselder ar ôl y trafferthion yn y berthynas â’i theulu ac felly roedd yn methu cadw swyddi yn hir.

Cafodd ei chyflwyno i PeoplePlus gan ffrind ac, ar ôl cychwyn ar raglen ymgysylltu ym mis Ionawr eleni, dechreuodd fagu hyder a gwneud ffrindiau newydd.

“Rwy wedi gweithio’n galed dros y deunaw mis diwethaf i wneud fy mywyd yn well,” meddai Mariska.
“Pan ddechreuais i gyda PeoplePlus, roeddwn wedi cael profiadau gwael ac roeddwn i’n dioddef o orbryder ac iselder. Gyda chymorth y staff, rwy wedi dod yn fwy hyderus ac rwy’n gobeithio cael swydd lawn amser gyda chyflog.”

Dywedodd ei thiwtor gyda PeoplePlus, Carol Williams: “Mae Mariska yn ferch ifanc hyderus, fawr ei gofal, sy’n gweithio’n galed. Mae wedi wynebu llawer o heriau a rhwystrau yn ei bywyd ond mae’n dal yn uchelgeisiol ac yn benderfynol o wella’i hunan.”

Wrth longyfarch Mariska ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —