Gobaith am wobr i Melissa sy’n annog ei dysgwyr i anelu’n uchel

Postiwyd ar gan NTfW Admin

English | Cymraeg

Melissa O’Connor – yn annog dysgwyr i anelu’n uchel.

Melissa O’Connor – yn annog dysgwyr i anelu’n uchel.

Mae polisi o annog dysgwyr i beidio â bodloni ar y cyfarwydd yn talu ar ei ganfed i Melissa O’Connor, o gwmni hyfforddi Portal, Caerdydd, sy’n dal i arwain trwy esiampl.

Mae Melissa, a fu’n ddarlithydd addysg uwch, yn annog dysgwyr sy’n dilyn Prentisiaeth Uwch mewn Arwain a Rheoli mewn nifer o wahanol sectorau i anelu’n uchel trwy ymgeisio am ddyrchafiad tra byddant yn dal yn dilyn eu hyfforddiant.

Mae wedi golygu bod llawer wedi dringo ysgol gyrfa’n gynt na’r disgwyl, gyda phedwar allan o chwech yn un o’i sefydliadau yn cyrraedd swyddi uchel/cael dyrchafiad o fewn 12 mis i ddechrau ar eu cyrsiau.

Mae gwaith a datblygiad personol Melissa’n cael eu cydnabod yn awr a hithau ar restr fer Gwobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Cyn ymuno â Portal ym mis Hydref 2017, cafodd Melissa fwynhau 12 mlynedd yn y sectorau addysg bellach ac addysg uwch, gan ddysgu cymwysterau’n amrywio o TGAU Lefel 2 i Radd Anrhydedd BSc Lefel 6.

Yn ei swydd fel Asesydd Rheolaeth gyda’r ILM, mae Melissa’n gwneud ei gwaith cyflenwi ac asesu mewn ffordd hyblyg a gall fod yn cefnogi ac yn arwain hyd at 37 o ddysgwyr ar y tro.

“Mae Melissa’n cynnig cefnogaeth ardderchog i’w dysgwyr, gan weithio’n ddiflino i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial ac yn datblygu’n arweinwyr ac yn rheolwyr medrus,” meddai Clare Jeffries, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Portal.

Cynaliadwyedd busnesau, marchnata ac arferion myfyriol yw arbenigedd Melissa ac mae’n credu’n gryf mewn addysg gydol oes a dysgu seiliedig ar waith. Ymhlith ei chymwysterau hi mae TAR mewn Addysg Oedolion a Dysgu Gydol Oes, MA mewn Addysg a chymhwyster Lefel 5 gan yr ILM mewn Arwain a Rheoli.

“Rwy’n cael llawer o fwynhad a boddhad o fod yn asesydd,” meddai Melissa. “Rwy wrth fy modd yn gweld dysgwyr yn datblygu eu gyrfa broffesiynol ac rwy’n mwynhau meithrin perthynas weithiol dda, gref gyda’r dysgwyr a’u mentoriaid yn y sefydliad.

“Mae fy nghymwysterau wedi bod yn fuddiol iawn, gan ddatblygu fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth ac mae hynny’n fy ngwneud yn hyderus wrth gefnogi fy nysgwyr ar hyd eu taith.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Melissa a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —